Anti Afiach
llyfr gan David Walliams
Mae Anti Afiach yn llyfr ffuglen i blant. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol, Awful Auntie (2014), gan David Walliams gyda darluniadau gan Tony Ross.[1] Cyfieithwyd y llyfr i'r Gymraeg gan Manon Steffan Ros a fe'i gyhoedddwyd gan Atebol yn 2017.[1] Hon yw seithfed nofel Walliams a'r bedwaredd i'w chael ei throsi i'r Gymraeg ar ôl Cyfrinach Nana Crwca, Deintydd Dieflig a Mr Ffiaidd.
Math o gyfrwng | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | David Walliams |
Cyhoeddwr | HarperCollins |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 26 Medi 2014 |
Plot
golyguMae'r llyfr yn dilyn Stella Saxby, merch sydd ar fin etifeddu'r enwog Neuadd Saxby wedi marwolaethau trasig ei mam a thad mewn damwain car. Ond mae un peth yn ceisio atal i hyn ddigwydd, sef yr Anti Afiach a'i thylluan anferth. Gwnaiff hon unrhyw beth i gael ei dwylo ar yr adeilad godidog.[1]
Cymeriadau
golygu- Stella Saxby - merch ifanc sy'n colli ei mam a thad mewn damwain car.
- Yr Arglwydd Saxby - tad Stella sy'n marw yn y damwain car.
- Yr Arglwyddes Saxby - mam Stella sy'n marw yn y damwain car.
- Anti Alberta - anti Stella sy'n ceisio atal iddi etifeddu Neuadd Saxby.
- Wagner - tylluan anferth Anti Alberta.
- Soot - ysgubwr simneiau.
- Gibbon - gwas oedrannus y teulu Saxby sy'n gwneud i Stella chwerthin.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781910574683&tsid=19
- ↑ Ardagh, Philip (25 Medi 2014). "Awful Auntie review – David Walliams's best book yet". The Guardian. London. Cyrchwyd 23 December 2016.