Antonia Fraser
Awdures o Loegr yw Antonia Fraser (ganwyd 27 Awst 1932) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei llyfrau ditectif a'i gwaith fel hanesydd, nofelydd a chofiannydd. Hi yw gweddw Harold Pinter (1930–2008) yn 2005, a chyn ei farwolaeth, fe'i gelwid hefyd yn Arglwyddes Antonia Pinter.[1][2][3]
Antonia Fraser | |
---|---|
Llais | Antonia fraser bbc radio4 desert island discs 27 07 2008 b00cq31h.flac |
Ganwyd | Antonia Pakenham 27 Awst 1932 Llundain |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd, llenor, nofelydd, cofiannydd, pendefig |
Swydd | beirniad Gwobr Booker |
Adnabyddus am | Mary Queen of Scots, Marie Antoinette: The Journey |
Arddull | cofiant |
Tad | Frank Pakenham, 7fed Iarll Longford |
Mam | Elizabeth Pakenham |
Priod | Hugh Fraser, Harold Pinter |
Plant | Rebecca Fraser, Flora Fraser, Benjamin Fraser, Natasha Fraser, Orlando Fraser, Damian Fraser |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Gwobr Goffa James Tait Black, Gwobr Cyllell Aur y CWA am Ysgrifennu Ffeithiol, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Gwobr hanes Wolfson, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Medal Medlicott |
Fraser yw'r cyntaf o wyth o blant Frank Pakenham, 7fed Iarll Longford (1905–2001), a'i wraig, Elizabeth Pakenham, Iarlles Longford; g. Elizabeth Harman (1906-2002). Fel merch iarll Seisnig, rhoddir iddi'r teitl "Yr Arglwyddes" ac felly'n cael ei chyfarch yn ffurfiol fel "Yr Arglwyddes Antonia". Mynychodd Neuadd yr Arglwyddes Margaret, Rhydychen, lle bu ei mam, ac Ysgol y Ddraig, hefyd yn Rhydychen. Priododd Hugh Fraser ac yna i Harold Pinter ac mae Flora Fraser, sydd hefyd yn fywgraffydd, yn blentyn iddi.[4][5][6][7][8]
Llenyddiaeth
golyguEi gwaith mawr cyntaf, a gyhoeddwyd gan Weidenfeld & Nicolson, oedd Mary, Queen of Scots (1969), a ddilynwyd gan sawl bywgraffiad arall, gan gynnwys Cromwell, Our Chief of Men (1973). Enillodd Wobr Hanes Wolfson ym 1984 ar gyfer The Weaker Vessel, astudiaeth o fywydau menywod yn Lloegr yn yr 17g. Rhwng 1988 a 1989, bu'n llywydd English PEN, a bu'n gadeirydd Pwyllgor Awduron mewn Carchardai.
Mae hi hefyd wedi ysgrifennu nofelau ditectif, gyda nifer ohonynt yn cynnwys y cymeriad Jemima Shore; fe'u haddaswyd yn gyfres deledu a ddarlledwyd yn y DU ym 1983.
Dau o'r 13 llyfr ffeithiol diweddaraf yw Marie Antoinette: The Journey (2001, 2002), a wnaed yn y ffilm Marie Antoinette (2006), dan gyfarwyddyd Sofia Coppola, gyda Kirsten Dunst yn rôl y teitl, a The Women in the Life of the Sun King (2006).
Cyhoeddodd ei hunangofiant]] Must You Go? My Life with Harold Pinter yn Ionawr 2010, a darllenodd rhannau ohono ar BBC Radio Four.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [9][10][11]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Gwobr Goffa James Tait Black (1969), Gwobr Cyllell Aur y CWA am Ysgrifennu Ffeithiol (1996), Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth (1996), Gwobr hanes Wolfson (1984), Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Medal Medlicott (2000)[12] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mel Gussow, "The Lady Is a Writer", The New York Times Magazine, 9 Medi 1984, Sec. 6, Health: 60, col. 2. Print. The New York Times Company, 9 Medi 1984; retrieved 8 April 2009.
- ↑ Antonia Fraser, "Writer's Rooms: Antonia Fraser", Guardian, Culture: Books, Guardian Media Group, 13 Mehefin2008; retrieved 8 Ebrill 2009. (Includes photograph of Antonia Fraser's study.)
- ↑ "Non-Fiction: Author: Antonia Fraser" Archifwyd 20 Tachwedd 2012 yn y Peiriant Wayback, Orion Books, 2004–2007 [updated 2009]; retrieved 9 Ebrill 2009.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.nytimes.com/1996/12/04/books/playing-modern-detective-in-the-gunpowder-plot.html. http://www.bbc.co.uk/dna/mbarchers/html/NF2693943?thread=7837484. Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Antonia Fraser". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Antonia Fraser". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Antonia Margaret Caroline Pakenham". The Peerage. "Lady Antonia Fraser". Discogs.
- ↑ Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
- ↑ Galwedigaeth: http://www.bbc.co.uk/podcasts/series/dida05.mp. http://www.nytimes.com/2010/11/21/books/review/Prose-t.html.
- ↑ Swydd: https://thebookerprizes.com/the-booker-library/judges/antonia-fraser.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.history.org.uk/aboutus/resource/8702/the-medlicott-medal.
- ↑ https://www.history.org.uk/aboutus/resource/8702/the-medlicott-medal.