Mathew

apostol ac efengylydd yng Nghristnogaeth

Un o Ddeuddeg Apostolion Iesu o Nasareth a ystyrir yn sant gan yr Eglwys Gristnogol oedd Mathew (Hebraeg: מתי/מתתיהו, Mattay/Mattithayu, "Rhodd Yahweh"; Groeg y Testament Newydd: Ματθαίος, Matthaios, Groeg Diweddar: Ματθαίος [Matthaíos]; hefyd Matthew), y cyfeirir ato gan amlaf fel Sant Mathew neu'r Apostol Mathew. Yn ôl traddodiad, ef yw awdur Yr Efengyl yn ôl Mathew, un o'r Pedair Efengyl, llyfr sy'n ei uniaethu, fodd bynnag, gyda'r casglwr trethi Lefi.

Mathew
Miniatur o Mathew yn llyfr oriau Anna, Duges Llydaw (1503–8) gan Jean Bourdichon
Ganwyd1 g Edit this on Wikidata
Tiroedd Israel Edit this on Wikidata
Bu farw74 Edit this on Wikidata
o pendoriad Edit this on Wikidata
Ethiopia Edit this on Wikidata
Man preswylCapernaum Edit this on Wikidata
Galwedigaethcasglwr trethi, henuriad, casglwr trethi Edit this on Wikidata
SwyddApostol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl21 Medi, 16 Tachwedd Edit this on Wikidata
TadAlphaeus Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Mathew (gwahaniaethu).

Hanes a thraddodiadau

golygu

Yn ôl yr hanes a geir yn Yr Efengyl yn ôl Marc, roedd Mathew wrth ei waith yn nhref Capernaum pan ddaeth Iesu ato a gorchymyn iddo ei ddilyn. Fel arall mae'n ffigwr annelwig braidd yn y Testament Newydd. Ceir llawer mwy o fanylion gan yr hanesydd Cristnogol Eusebius yn ei lyfr Historia ecclesiastica. Dywed Eusebius fod Mathew wedi pregethu i'r Hebreaid ac wedi sgwennu ei Efengyl ar eu cyfer cyn adael Palesteina.

Ceir sawl hanes amdano yn crwydro a phregethu, a dywedir iddo ymweld ag Ethiopia, Persia, Parthia a Macedonia, ymhith lleoedd eraill, ond does dim modd cadarnhau hynny. Ceir nifer o chwedlau amdano ar y teithiau hyn, ond mae'r ffynonellau i gyd yn ddiweddarach o lawer na'i oes ei hun. Yn ôl y Talmud Iddewig, cafodd Mathew ei ferthyru ar orchymyn y Sanhedrin, ond mae'r llyfr apocryffaidd Actau Mathew yn dweud iddo farw ym Myrna, gwlad chwedlonol yn y Dwyrain lle roedd canibaliaid yn byw: lladdwyd ef gan y brenin am ei fod wedi troi'r frenhines yn Gristion.

Tadogir efengyl apocryffaidd arno a elwir yn Efengyl y Ffug-Fathew.

Coffadwriaeth

golygu

Dathlir Gŵyl Sant Mathew ar 21 Medi (Eglwysi'r Gorllewin) neu 16 Tachwedd (Eglwysi'r Dwyrain). Mae'n nawddsant cyfrifwyr a thref Salerno yn yr Eidal.

Gweler hefyd

golygu