Iaith artiffisial yw Arahaw (Arahau) a gyhoeddwyd gyntaf ar y we yn y flwyddyn 2007 ac a ddyfeisiwyd gan y bardd a'r sgwennwr Rwsiaidd Ifan Carasef yn 2006. Iaith fechan yw Arahaw. Mae gan yr iaith 27 ffonem a 100 o eiriau craidd.

Does dim perthynas hanesyddol wedi'i phrofi rhyngddi ac unrhyw iaith arall, er bod rhai cysylltiadau dadleuol â ieithoedd megis y Basgeg a’r Cawcasws wedi cael eu hawgrymu.

Yr wyddor Arahaweg: a, ä, b, c, d, e, ë, f, g, h, i, j, k, l, m, n, o, ö, p, r, s, t, u, ü, v, y, z.

Ynganiad:

Llfariaid:a [a], ä [ja], e [e], ë [je], I [i], o [o], ö [jo], u [u], ü [ju], y [ɨ]

Deuseiniau: au, ao, ae, ai, ou, oe, oi, oa, ei, ea

Cytseiniaid: b, c [ts], d, f, g, h [x], j [j], k, l, m, n, p, r, s, t, v, z

Geiriau golygu

  • Helo: Tëfr!
  • Hwyl fawr: Tlafr!
  • Os gwelwch yn dda: Log!
  • Diolch: Tës!
  • Noswaith dda: Ëfren!

Testun enghraifft yn yr Arahaweg Y fersiwn Cymraeg Canol (Gweddi'r Arglwydd)

Ein Tad ni, yr hwn sydd yn y nefoedd,
Cadarnhaer dy Enw di, Arglwydd.
Doed dy deyrnas di arnom ni.
Rho arnom dy [e]wyllys di megis y mae yn y nef
[ac felly] yn y ddaear.
Dyro di ein bara beunyddiol.
Maddau di, Arglwydd, ein pechodau i ni a wnaetham yn dy erbyn,
megis y maddeuwn ninnau i eraill, o'th drugaredd dithau,
yr hwnna wnaethant i'n herbyn ninnau.
Na ddwg ni i brofedigaeth.
Rhyddhâ di ni, Arglwydd, rhag y drwg.

Cyfieithiad:

Ëttange msuohusoer
Msfarfésarkv músgausaskecö
Soisiragsaguastaa coezetlo cosareasguoastaa
Ctaarë’skuoastaa. Coslavadorfaat
Nsaulsyrtaakl marcozusfarfsopl.

Gweler hefyd golygu

Dolenni Allanol golygu