Sindarin
Iaith artiffisial a ddyfeisiwyd gan J. R. R. Tolkien[1] yw Sindarin, ac fe'i defnyddiwyd yn ei fyd eilaidd, a elwir yn Ganol-ddaear fel arfer. Yn chwedloniaeth Tolkien, roedd Sindarin yn iaith y Sindar, ‘yr Ellyllon Llwydion’. Seliwyd Sindarin ar y Gymraeg yn ei ffurf ac yn ei sain.
Sindarin | ||
---|---|---|
Eglathrin | ||
Crëwyd gan | J. R. R. Tolkien | |
Dyddiad a sefydlwyd | c. 1915 – 1973 | |
Sefyllfa a defnydd | Y byd ffuglennol, Middle Earth | |
Cyfanswm siaradwyr | Sindar | |
Categori (pwrpas) | Ieithoedd artiffisial | |
Categori (ffynonellau) | iaith a priori, ond mae ganddi gysylltiau i ieithoedd yr ellyllon eraill. Dylanwadwyd Sindarin gan y Gymraeg yn bennaf. | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | Dim | |
ISO 639-2 | art | |
ISO 639-3 | sjn | |
Wylfa Ieithoedd | – |
GramadegGolygu
FfonolegGolygu
Mae ffonoleg y Sindarin yn debyg i ffonoleg y Gymraeg.
CytseiniaidGolygu
gwefusol | deintiol | gorfannol | taflodol | felar | glotal | ||
---|---|---|---|---|---|---|---|
eglur | ochrol | ||||||
ffrwydrol | ynganiad: [p b] | ynganiad: [t d] | ynganiad: [k]3 ynganiad: [g] | ||||
trwynol | ynganiad: [m] | ynganiad: [n] | ynganiad: [ŋ]4 | ||||
ffrithiol | ynganiad: [f v] | ynganiad: [θ ð]1 | ynganiad: [s] | ynganiad: [x]5 | ynganiad: [h] | ||
tril | ynganiad: [r̥] 6 ynganiad: [r] | ||||||
lled-gyffwrdd | ynganiad: [l l̥]2 | ynganiad: [j] | ynganiad: [ʍ]7 ynganiad: [w] |
- ysgrifennir <th> a <dh>
- ysgrifennir <lh>
- ysgrifennir <c>
- ysgrifennir <ng>
- ysgrifennir <ch>
- ysgrifennir <rh>
- ysgrifennir <wh>
Dyma gymhariaeth rhwng cytseiniaid y Sindarin gyda cytseiniaid y Gymraeg:
Sindarin | p | b | f | v | th | dh | t | d | n | s | r | rh | l | lh | i | c | g | ng | ch | w | wh | h |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cymraeg | p | b | ff | f | th | dd | t | d | n | s | r | rh | l | ll | i | c | g | ng | ch | w | chw | h |
TreigladauGolygu
Mae gan Sindarin system dreigladau sy'n debyg i'r a geir yn y Gymraeg:
Sindarin1 | Cymraeg | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
|
- Gweld ‘Consonant mutations in conceptual evolution of Noldorin/Sindarin phonology’ (Saesneg) gan Ryszard Derdzinski ac yr adran berthnasol yn ‘Sindarin — yr iaith ardderchog’ (Saesneg), gan Helge Fauskanger.
Enghreifftiau o testunauGolygu
Llythyr y BreninGolygu
Fersiwn arall (gyda Thechtar)
Yn Sindarin | Elessar Telcontar: Aragorn Arathornion Edhelharn, aran Gondor ar Hîr i Mbair Annui, anglennatha i Varanduiniant erin dolothen Ethuil, egor ben genediad Drannail erin Gwirith edwen. Ar e aníra ennas suilannad mhellyn în phain: edregol e aníra tírad i Cherdir Perhael (i sennui Panthael estathar aen) Condir i Drann, ar Meril bess dîn; ar Elanor, Meril, Glorfinniel, ar Eirien sellath dîn; ar Iorhael, Gelir, Cordof, ar Baravorn, ionnath dîn. A Pherhael ar am Meril suilad uin aran o Minas Tirith nelchaenen uin Echuir. |
---|---|
Yn Gymraeg | Elessar Telcontar: Bydd Aragorn, marchogwr Edhelharn, brenin Gondor ac arglwydd Gwledydd y Gorllewin, yn mynd at Bont Farandwyn ar yr wythfed dydd o'r Gwanwyn, neu, yng nghyfrif y Sir ar yr ail ddydd Ebrill. Ac yno mae eisiau cyfarch ei holl gyfeillion arno : yn enwedig mae eisiau gweld y Tywysog Perhael [Hanercof] arno (a ddylid ei alw yn Banthael [Llawngof]) Maer y Sir, a Meril ei wraig; ac Elanor, Meril, Glorffinniel, ac Eirien ei ferched; ac Iorhael, Gelir, Cordof, a Baraforn, ei feibion. I Berhael ac i Feril, cyfarchiad Brenin Minas Tirith; y 31ain dydd o'r Cynhyrfiad. |
Mae recordiad o'r llythyr ar gael yn Sindarin yma.
Cân y Ellyllon ImladrisGolygu
Y gân, yn Nhegwar Beleriand, o ‘The Road Goes Ever On’
Yn Sindarin | A Elbereth Gilthoniel / silivren penna míriel / o menel aglar elenath! / Na-chaered palan-díriel / o galadhremmin ennorath, / Fanuilos le linnathon / nef aear, sí nef aearon |
---|---|
Yn Gymraeg | O Elbereth Gilthonel / wrth serennu fel gemau / disgyn gogoniant y sêr o'r nefoedd! / Wedi edrych ymhell bell / o canol-wledydd coed-wehyddol, / Bytholwen, mi ganaf i chi / ar yr ochr honno y môr, yma ar yr ochr honno y cefnfor |
Record Tolkien o'r gân:
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Conley, Tim (2006). Encyclopedia of Fictional and Fantastic Languages. Greenwood Publishing Group. ISBN 978-0313331886
Dolenni AllanolGolygu
- Sindarin — yr iaith ardderchog, gan Helge K. Fauskanger. (Saesneg)