Datganiad Obar Bhrothaig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 21:
 
== Llofnodwyr ==
Mae 39 enw - wyth iarll a thri deg un barwn - ar ddechrau'r ddogfen, y gallai pob un ohonyn nhw fod â'u seliau wedi'u hatodi, dros gyfnod o rai wythnosau a misoedd mae'n debyg, gydag uchelwyr yn anfon eu seliau i'w defnyddio. Dim ond 19 sêl sydd ar y copi sy'n bodoli o'r Datganiad, ac o'r 19 o bobl hynny dim ond 12 sydd wedi'u henwi yn y ddogfen. Credir ei fod yn debygol y gallaibod o leiaf 11 yn fwy o seliau na'r 39 gwreiddiol fod wedi eu hatodi. <ref>{{Cite web|title=The seals on the Declaration of Arbroath|publisher=Archif Genedlaethol yr Alban|url=http://www.nas.gov.uk/about/doaSeals.asp|access-date=4 Ebrill 2020}}</ref> Yna aethpwyd â'r Datganiad i'r llys Pabaidd yn [[Pabaeth Avignon|Avignon]] gan yr Esgob Kininmund, Syr Adam Gordon a Syr Odard de Maubuisson. {{Sfn|Barrow|1984}}
 
Fe wnaeth y pab wrando ar y dadleuon a gynhwyswyd yn y Datganiad. Cafodd ei ddylanwadu gan gynnig o gefnogaeth gan yr Albanwyr ar gyfer ei groesgad hir ddymunol os nad oedd yn rhaid iddynt ofni goresgyniad gan Loegr mwyach. Anogodd y pab, trwy lythyr i [[Edward II, brenin Lloegr|Edward II]] i wneud heddwch â'r Albanwyr. Y flwyddyn ganlynol perswadiwyd y Saeson y pab i gymryd eu hochr hwy eto a chyhoeddodd chwe bwla i'r perwyl hwnnw. {{Sfn|Scott|1999}} Ddim tan wyth mlynedd yn ddiweddarach, ar 1 Mawrth 1328 arwyddodd [[Brenhinoedd a breninesau Lloegr|brenin]] newydd [[Brenhinoedd a breninesau Lloegr|Lloegr]], [[Edward III, brenin Lloegr|Edward III,]] gytundeb heddwch rhwng yr Alban a [[Teyrnas Lloegr|Lloegr]], Cytundeb Caeredin-Northampton. Yn y cytundeb hwn, a oedd i bob pwrpas am bum mlynedd hyd 1333, ymwrthododd Edward â holl hawliadau Lloegr ar yr Alban. Wyth mis yn ddiweddarach, ym mis Hydref 1328, cafodd y ddedfryd o waharddiad a roddwyd ar yr Alban, a'r ddedfryd o ysgymuno ar ei brenin, eu dileu gan y Pab. {{Sfn|Scott|1999}}
 
== Copïau llawysgrif ==