Shwmae, AlwynapHuw! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,423 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes,

Anatiomaros 16:34, 12 Awst 2010 (UTC)Ateb

Diolch am eich gwaith ar yr erthygl am Cynan. Anatiomaros 16:34, 12 Awst 2010 (UTC)Ateb

Gwaith caboledig ar Megan Lloyd George ayb! Ond seiliau cadarn Wici yw'r ffynhonnell. Mae ein credinedd yn dibynnu arno! Rwyt ti'n dweud pethau a all fod yn bwnc llosg yn yr erthygl am Frances Stevenson, ac felly mae'n hanfodol ein bod yn dyfynnu'r "cyfeiriadaeth" ("referances" yn Saesneg). Dw i wedi rhoi'r penawd hwn ar waelod yr erthygl i ti. Gelli ddefnyddio'r tagiau handi <ref> a diwedd ref (sef </ref) i gynnal y ffynhonnell. Unwaith eto, Alwyn, mi wna i dacluso unrhyw beth os nad wyt yn cael hwyl arni. Llywelyn2000 07:15, 1 Mawrth 2011 (UTC)Ateb


Am gôc oen bach digywilydd. Mae'n amlwg mae gwaith ar ei hanner yw'r erthygl ar Megan Lloyd George, deuddydd yn ôl y dechreuwyd arni, siawns bydda ddyn yn cael cyfnod i gwblhau prosiect cyn cael ei feirniadu am ei ddiffygion! A ti a Mrs Lloyd George, fe ymddengys yw'r unig dau yn y byd i gyd sy'n anymwybodol bod Dafydd yn mocha gyda Frances Stevenson, Darllena llyfr Ffion Hague!----

Does dim angen suddo i lawr i'r gwaelodion! Nid fy lle i (na'r darllenydd) ydy prynnu llyfr Ffion Hague. Os ei di drwy holl erthyglau Wici mi weli ein bod yn rhoi'r cyfeiriadau yn eu lle. Os nad, yna bydd yn rhaid dileu'r hyn sydd yn yr erthygl. Hebddyn nhw, fe all yr hyn rwyt ti wedi'i roi yn yr erthygl gael ei ystyried yn athrod. Llywelyn2000 07:15, 1 Mawrth 2011 (UTC)Ateb
Mae 7 Ffynhonnell i'r erthygl Saesneg ar Frances Stevenson; mae Wiki, felly'n amlwg, yn credu fod angen dyfynnu'r ffynhonellau. Pe bawn i'n medru eu copio fe wnawn hynny. Ydy hynny'n dderbyniol? John Jones 16:18, 1 Mawrth 2011 (UTC) John Jones 16:23, 1 Mawrth 2011 (UTC)Ateb
Newydd geisio gwneud hynny. John Jones 16:23, 1 Mawrth 2011 (UTC)Ateb
Sori bach, ond mae'n amlwg bod cam ddealltwriaeth yma!
Yr wyf yn gwbl fodlon ategu ffynonellau diymwad i'r hyn yr wyf wedi dweud am Fegan LlG, ac i'r pethau pellach yr wyf am gyfrannu eto i'r erthygl. Does dim raid iti brynu copi o unrhyw lyfr, hwyrach y gwnaf nodyn ffynhonnell i dudalen 347 paragraff 4 ac ati o'r llyfr.
Yr hyn sy'n fy nghythruddo yw feirniadaeth ar ei chyfer ar erthygl sydd yn amlwg o dan waith. Os nad oes ffynhonnell wedi ei nodi ymhen y mis digon teg cwyno - ond o fewn ddwy awr? Callia!
Gyda llaw does dim modd athrodi'r meirw; Mae DLlG a Ms Stevenson wedi mynd o'u gwaith i'w gwobr
AlwynapHuw 03:22, 2 Mawrth 2011 (UTC)Ateb
Beirniadaeth? Pa feirniadaeth? Awgrymu dy fod yn defnyddio <ref>Cyfeiriadau</ref> wnes i.
Yn ail, mae angen defnyddio'r rhain wrth fynd ymlaen gyda'r gwaith. Does yr un erthygl ar Wici na en yn orffenedig! Proses sy'n parhau ydy hi. Gweler yma.
Yn olaf, gwylia sut rwyt ti'n siarad efo pobol. Efallai, gyfaill, y caret gymryd cip ar un o chwe phrif colofn farmor Wici: Wicipedia:Cwrteisi. Llywelyn2000 06:32, 2 Mawrth 2011 (UTC)Ateb


Pobl annwyl "Rheolau Marmor", sef Deddfau'r Persiaid a'r Mediaid yn cael eu defnyddio fel modd i feirniadu cyfraniad gwirfoddol i wefan Cymraeg yn 2011!

Os nad yw fy nghyfraniadau yn ddigon da, iawn groeso i chi eu dileu, mae gennyf lawer gwell pethau i'w gwneud na derbyn cic rhwng y coesau am gynnig gwybodaeth, yn wirfoddol, i wefan anniolchgar.

Ac eto: "Pa feirniadaeth" a fu arnat? Llywelyn2000 05:28, 5 Ebrill 2011 (UTC)Ateb


Cyfieuthu Awtomatig o Iaith arall golygu

A oes modd cyfieithu "rhestrau" o Wikepedia Saesneg i Wicipedia Cymraeg yn awtomatig?

Neu a oes modd greu system cyfieithu awtomatig?

Wedi cyfrannu bywgraffiadau ar gyfer bron pob un AS o Feirion (eraill ar y gweill) ac efo gwybodaeth am nifer fawr o ASau eraill Cymru, mae meddwl am fynd drwy'r broses o ail greu tudalenau am bethau megis "Infobox Election" i "Dechrau Bocs Etholiad" ar gyfer pob un yn codi pwys arnaf.

Yn sicr byddai modd trosglwyddo pethau megis rhestrau cyffredinol am etholiadau seneddol yn rhyngieithol heb amlhau gwaith yn fanteisiol.

Nid ydwyf am Gwgl Dransleitio cynnwys Saesneg i'r Gymraeg, dim ond cyfnewid rhestrau!

A oes modd gwneud hynny yn barod? Os nad oes a oes modd creu "bot" cyfieithu cyfrifiadurol rhyng ddefnyddiol Wicawol Cymraeg / Saesneg?

Bore da. Mae hyn yn bosib i'w wneud; yn wir fe'i gwnaed gan Fotwm Crys gyda thua 7 mil o drefi a phentrefi Lloegr. Os oes na ddigon i wneud y giam yn werth y gannwyll fe af ati i roi cic yn din y bot. Ond mae gen i restr o bethau eisiau i'w wneud yn gyntaf e.e. dw i ar ganol newid yr enwau technegol ar wledydd o fersiwn Yr Atlas Gymraeg i fersiwn Bruce. Mae na le ar y dudalen i osod dy gais - mae cof yr hen Fotwm Crys yn byrhau pob dydd! Cofia lofnodi efo 4 sgwigl! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:32, 15 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Categoriau golygu

Diolch i ti am yr erthyglau difyr am wleidyddion Cymreig ac eraill, sy'n ychwanegiad gwerthfawr i'r Wici. Ond cofiwch geisio rhoi o leia un categori neu mi fydd yr erthyglau ar goll ymhlith y miloedd o erthyglau eraill sydd yma (oni bai bod rhywun yn chwilio'n benodol trwy deipio'r enw). Dyma enghraifft. Does dim disgwyl i ti wybod am bob categori sydd yma ond byddai'r categorïau 'Genedigaethau...' a 'Marwolaethau...' yn ogystal â 'Gwleidyddion Cymreig' neu gategori tebyg yn gymorth mawr i rywun cael hyd i'r erthyglau yn hawdd. Anatiomaros (sgwrs) 23:59, 14 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Gwahaniaeth rhwng yr hyn a sgwennaist a'r hyn sydd yn y Bywgraffiadur ar lein golygu

Mae gwahaniaeth rhwng dy gyfraniad yn fama a'r hyn sydd yn y Bywgraffiadur ar lein yn fama. Fedri di esbonio pam?

  1. Ti: ' aeth i Brifysgol Caeredin lle graddiodd ym 1847.' BAL: 'Penderfynodd fyned yn fargyfreithiwr , ymaelododd yn y Middle Temple yn Llundain , a galwyd ef at y Bar yn Ionawr 1847.' Rwyt ti'n awgrymu iddo raddio yng Nghaeredin ym 1847. Beth ydy dy ffynhonnell?
  2. Ti: 'aeth yn ddisgybl bargyfreithiwr i dafarn llys y Deml Canolog yn Llundain' Pam wyt ti'n defnyddio'r gair "tafarn"? Ai oherwydd iddo fynd i'r "bar"? Wyt ti o ddifri?

Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:44, 19 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Camgymeriad oedodd dweud bod Morgan Lloyd wedi graddio o Gaeredin ym 1847, fe gymhwysodd fel bargyfreithiwr yn y flwyddyn honno - mi af ati i newid fy nghamsyniad rŵan.AlwynapHuw (sgwrs) 17:23, 19 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Er ei fod yn swnio'n wirion y ffordd mae dyn yn cymhwyso i fod yn fargyfreithiwr yw trwy dalu bil y bar tair gwaith mewn un o dafarnau'r llys. Er eu bod nhw'n awdurdodau proffesiynol bellach tafarnau go iawn, lle 'roedd cyfreithwyr yn cwrdd i drafod y gyfraith dros lymaid a phryd, oedd Lincolns Inn, The Temple a Gray's Inn yn wreiddiol AlwynapHuw (sgwrs) 17:16, 19 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Wedi meddwl amdani, er fy mod yn gywir i ddefnyddio'r term tafarn ar gyfer un o inns y llys, mae 'na berygl i odrwydd y defnydd yn y Gymraeg tynnu sylw oddi wrth yr "hanes", fel petai. Gan hynny yr wyf wedi ei ddileu. Os caf gyfle i sgwennu pwt ar hanes y fath dafarnau rhywbryd, hwyrach na'i ail adfer y defnydd yn erthygl Morgan Lloyd a bargyfreithwyr eraill. AlwynapHuw (sgwrs) 06:13, 20 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Gyda llaw, oes unrhyw sail i;r hyn glywais mae'r Morgan Lloyd dan sylw yw'r Morgan Lloyd sy'n cael ei gofio yn enw tafarn o'r un enw ar Sgŵar Caernarfon AlwynapHuw (sgwrs) 06:46, 20 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Defnydd o luniau golygu

A oes modd dwyn / benthyg lluniau o Wikipedia Saesneg (neu iaith arall) heb eu lawr lwytho yn bersonol ac wedyn eu hail uwch lwytho?

Ac o son am luniau. A oes gytundeb efo'r LLGC am ddefnyddio lluniau o'u casgliadau sydd, mewn gwirionedd, yn eiddo'r Genedl yn hytrach nag eiddo'r llyfrgell?AlwynapHuw (sgwrs) 07:06, 20 Hydref 2013 (UTC)Ateb

I'r cwestiwn cyntaf, mae'r rhan fwyaf o luniau'r Wicipediau ar gael ar Gomin a gellir eu defnyddio ar unrhyw Wicipedia. I'r ail gwestiwn, dwi ddim yn gwybod - rhaid i rywun arall ateb. Cathfolant (sgwrs) 08:12, 20 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Mae'n ddrwg gen i am beidio ac ateb ynghynt. Fel yr awgryma Cathfolant, os chwili di ar Gomin Wicimedia, fe ddeui di ar draws dros 20 miliwn o luniau. Y cwbwl sydd angen ei wneud wedyn ydy copio'r teitl a mi wneith ymddangos. Defnyddia'r fformat: [[Delwedd:Enw'r ddelwedd yn fama|bawd|Ychydig am y llun yn fama]]
LLGC: Os yw'r llun dros 70 mlynedd yna gelli ei lawrlwytho ar dy ddisg di, a'i huwchlwytho i Comin (dolen uchod) neu i Wicipedia Cymraeg (botwm ar y chwith: 'Uwchlwytho ffeil'), dan drwydded 'Defnydd Teg' neu 'Parth Cyhoeddus'. Mae gennym brosiect efo'r LLGC, Peilot o 50 lluniau a all agor y drws i dros gan mil yn rhagor. Mae hawl gennym hefyd i ddefnyddio unrhyw lun gan John Thomas (ffotograffydd). Llywelyn2000 (sgwrs) 10:10, 5 Rhagfyr 2013 (UTC)Ateb

cyfeiriadau golygu

Mae dy gyfraniad Joe Wilson yn hynod ddiddorol; mae'n ddibynu ar un ffynhonnell, fodd bynnag: sef 'Who's Who', sydd angen tanysgrifiad i weld y manylion perthnasol, ac felly'n annerbyniol fel cyfeiriad agored, rhydd, yn fy marn i. Fedri ychwanegu cyfeiriadaeth cadarn, rhydd ac agored? Llywelyn2000 (sgwrs) 09:56, 5 Rhagfyr 2013 (UTC)Ateb

Pa hwyl? Dw i wedi newid y cyfeiriadau am ddau arall. Mi driais gofrestru a'r LLG, ond ar ol hanner awr o ymbalfalu, fe gollwyd fy manylion! Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:37, 5 Ionawr 2014 (UTC)Ateb

Ychwanegu delweddau i'r blychau 'Etholaethau' / 'Etholiadau'??? golygu

Henffych! Dw i wedi ychwanegu un ddelwedd ar y dudalen Gorllewin Sir Ddinbych (etholaeth seneddol) a greaist fel arbrawf i geisio eu bywiocau. Dydy hyn ddim yn digwydd ar en - ond dydy hynny ddim yn bwysig! Gei di ddewis, ei gadw, neu ei ddiddymu? Mi fedraf dy gynorthwyo i ychwanegu rhai o'r delweddau ar erthyglau eraill, pe baet yn dewis ei gadw. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:15, 2 Mawrth 2014 (UTC)Ateb

Diddorol, rwy'n sgit am luniau mewn erthyglau. Rwyf wedi rhoi ambell i lun mewn rhestr canlyniadau, (pethau hynod ddiflas heb lun) ond wrth ochr y canlyniad yn hytrach na thu mewn i'r bocs canlyniad. Mater esthetig, am wn i yw'r gwahaniaeth. Mae llun tu mewn i'r bocs yn gwneud y bocs yn fawr ofnadwy - ac, o bosib, yn tynnu oddi wrth y data noeth; ond ar y llaw arall mae llun wrth ymyl yn gallu "gwaedu" dros sawl ganlyniad (yn arbennig pan nad oes ond ddau ymgeisydd). A oes modd ychwanegu colspan rowspan i focs etholiad fel cyfaddawd i gynnwys y llun "yn y bocs" heb amharu ar yr hyn sy'n dod ar ôl y bocs? AlwynapHuw (sgwrs) 07:46, 2 Mawrth 2014 (UTC)Ateb
Arbrofa! Dydw i heb ddefnyddio'r rhain, ond fel titha, dwi'n credu fod lluniau'n bywiogi erthygl! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:41, 2 Mawrth 2014 (UTC)Ateb

Cerrig milltir golygu

Alwyn - os y cei di funud i'w sbario, tybed a wnei di gymryd cip ar Rhestr o gerrig milltir pwysig yng ngwleidyddiaeth Cymru. Oes na gerrig i'w hychwanegu yma? Dw i'n cymryd nad ydy John eto wedi'i orffen. Hen dro am yr Alban; ond efallai mai nhw enillith yn y diwedd! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:18, 2 Tachwedd 2014 (UTC)Ateb

Y cyntaf yn fy rhestr i fyddai ffurfio Tŷ'r Cyffredin er mwyn cyfiawnhau dienyddio Dafydd ap Gruffudd ym 1283 - (cofio cael ffrae danllyd efo George Thomas am y pwnc adeg y 700 mlwyddiant ym 1983). Pan fyddwyf wrthi yn chwilota rwy'n mynd yn flin os yw pobl yn rhoi eu pig i mewn yn rhy gynnar i wirio fy erthyglau (oce ar Wici byd eang mewn iaith fel y Fain rhaid disgwyl ymyrraeth barhaus - ond yn y Gymraeg rhaid dangos amynedd parchus). Yr wyf wedi ychwanegu yr erthygl i fy mharth "gwylio" - os ddaw'n amlwg bod John wedi rhoi’r gorau iddo mi ychwanegaf at ei waith.--AlwynapHuw (sgwrs) 06:53, 2 Tachwedd 2014 (UTC)Ateb
Diolch Alwyn. Mi sgwennais i englyn i'r hen GT ddiwrnod ei farw, a oedd yn gorffen gyda'r linell: 'Ac uwch ei fedd, cachaf i.' Ond erbyn heddiw, efallai y byddwn wedi dal yn ôl ychydig! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:58, 2 Tachwedd 2014 (UTC)Ateb

Gwybodlen cyn etholaeth golygu

Dw i wedi ehangu dy erthygl Conwy (etholaeth Cynulliad) ac eraill, gyda gwybodlen (chydig bach gwell a mwy hyblyg na'r hen un. Mae'r wybodlen 'Nodyn:Gwybodlen Etholaeth y DU' ar gael rwan, sy'n cynnwys un o'r mapiau yma ar Comin. Mae'r un wybodlen hefyd yn addas ar gyfer cyn etholaeth y Cynulliad ee Caernarfon (etholaeth Cynulliad). Diolch am yr ysgogiad! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:25, 21 Tachwedd 2014 (UTC)Ateb

Richard Grosvenor, Barwn 1af Stalbridge golygu

Rhag ofn na welais fy nhipyn tamed - cymer olwg ar fy nhudalen Sgws yma. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:19, 7 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb

Cader Idris golygu

Diolch am y sylwadau diweddar yn y Caffi. Rwyf hefyd wedi ychwanegu fy marn ar y dudalen sgwrs ar gyfer Cadair Idris ar y Wikipedia Saesneg. Mae'n debyg bod rhai ohonom wedi cael ein siomi gan ddefnyddwyr trendi o'r Gymraeg! ApGlyndwr (sgwrs) 09:37, 8 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb

Dolig Llawen Alwyn! golygu

Nadolig Llawen yr hen goes! A diolch am ddod a chydig o ddyfalbarhad a rhuddin i'r hen wici! Llywelyn2000 (sgwrs) 03:49, 25 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb

A Nadolig Llawen i tithau hefyd Llywelyn2000AlwynapHuw (sgwrs) 04:02, 25 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb

Presant i ti! golygu

Gweler Nodyn:Arglwyddi Rhaglaw Cymru. Gobeithio fod o'n gweithio'n iawn. Bydd rhaid newid {{Arglwyddi Rhaglaw}} i {{Arglwyddi Rhaglaw Cymru}} yn yr ethyglau a greuwyd yn barod. Anatiomaros (sgwrs) 00:59, 8 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Diolch, mae'n edrych llawer yn well na'r hen un 01:05, 8 Ionawr 2015 (UTC)

Dau newid bach wedi'u gwneud: uffudd-dod (gweler y Porth Termau: http://termau.org/#ufudd%20dod) a 'roedd'; os caf sel dy fendith mi fedraf newid y rhain ym mhob un o'r erthyglau efo'r Bot AWB. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:25, 16 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

Diolch mae cywiro yn cael sêl fy mendith, yn amlwg, ond oes modd rhoi dolen i enghreifftiau "cynt" o le rwyf wedi pechu, er mwyn imi gael gweld y troseddau yn eu cyd-destun, gan obeithio eu hosgoi mewn erthyglau newydd?AlwynapHuw (sgwrs) 07:34, 16 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
Pechu wir! Haha; dyma'r ddau llia rioed. Hwyl! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:41, 16 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
Mae'n gas gennyf Plismyn Iaith sy'n dilorni camgymeriadau eraill; ond gyda gair caredig i egluro gwallau mae sgwennu pwt o erthygl i Wicipidia yn ffordd wych o loywi iaith i ddysgwyr a defnyddwyr cynhenid y Gymraeg. AlwynapHuw (sgwrs) 07:52, 16 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
Ti isio i mi eu newid? Llywelyn2000 (sgwrs) 08:06, 16 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
Haia Alwyn. Mi alla i wneud y rhain hefyd os ti isio? Gwira nhw yn gyntaf plis cyn rhoi'r o-ce! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:00, 16 Chwefror 2015 (UTC)Ateb
Diolch, does dim rhaid gofyn caniatâd pob tro cofiwch, os yw'r sillafu a / neu'r gramadeg yn anghywir mae'n anghywir ac mae angen ei newid. Os oes gen ti beiriant i chwilio am wallau cyffredin a'u cywiro ar nifer o dudalennau oes modd iti chwilio am "Gyrfa gwleidyddol" a'i newid i "Gyrfa wleidyddol" ?(Dyma ddrwg defnyddio sgerbwd ar gyfer nifer o erthyglau, os oes camgymeriad yn y sgerbwd gall y camgymeriad ymddangos ar ddegau o dudalennau cyn cael ei sbotio). AlwynapHuw (sgwrs) 00:49, 17 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

WiciGyfarfod yn y Fro golygu

Ddim yn siwr os yw Bangor yn cyfri, ond gellir neilltuo un o'r slotiau yn ystod Hacio'r Iaith eleni i fod yn Wicigyfrafod o ryw fath.--Rhyswynne (sgwrs) 21:34, 16 Chwefror 2015 (UTC)Ateb

Golygydd Gweledol golygu

Mae'n gas gennyf y "Golygydd Gweledol" newydd hefyd, am sawl rheswm, yn cynnwys y ffaith ei fod yn danseilio'r defnydd o Destun Wici (sgwennu'n syth ar dudalen) sy'n sylfaenol i'r Wicipedia ei hun (dyna pam mae'n cael ei alw yn Wikipedia). Ar ôl rhoi cynnig arno ddwywaith i wneud golygiadau eitha syml collais fy amynedd yn llwyr efo'r teclyn gwirion. Y peth gorau i'w wneud ydy cael gwared ohono trwy ei ddad-ddewis - "Diffodd VisualEditor tra ei fod yn nodwedd beta" - yn yr adran Golygu yn dy Ddewisiadau (yma). "Cynydd" sy'n fwy o boen nac mae'n werth! Cofion a hwyl, Anatiomaros (sgwrs) 00:40, 16 Ebrill 2015 (UTC)Ateb

Translating the interface in your language, we need your help golygu

Hello AlwynapHuw, thanks for working on this wiki in your language. We updated the list of priority translations and I write you to let you know. The language used by this wiki (or by you in your preferences) needs about 100 translations or less in the priority list. You're almost done!
 
I ychwanegu neu newid y cyfieithiad ar gyfer pob wici, defnyddiwch translatewiki.net, sef prosiect lleol MediaWiki.

Please register on translatewiki.net if you didn't yet and then help complete priority translations (make sure to select your language in the language selector). With a couple hours' work or less, you can make sure that nearly all visitors see the wiki interface fully translated. Nemo 14:06, 26 Ebrill 2015 (UTC)Ateb

John Morgan Rees golygu

Mae Charles ar WiciDestun en yn gofyn a wyddom ddyddiadau John Morgan Rees. tybed a fedri ei helpu? Can diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:08, 30 Ebrill 2015 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000: Rwyf wedi chwilio ym mhob man heb cael hyd i ddyddiadau'r gwron yn anffodus. Roedd on gweithio i Brifysgol Aberystwyth ym 1919 ac i Brifysgol Bangor ym 1949 ond rwy'n methu canfod ysgrif goffa iddo er chwilio llwyth o bapurau rhwng 1949 a 2009 03:40, 2 Mai 2015 (UTC) 03:39, 2 Mai 2015 (UTC)Ateb

Croes Fictoria golygu

Dim ond nodyn sydyn i ddweud fy mod innau, hefyd, wedi cychwyn ar y gwaith o nodi y Cymry sydd wedi eu hurddo â'r Groes Fictoria heb sylwi dy fod tithau wedi cychwyn! Rhag ein bod ni'n dyblygu gwaith ein gilydd, dwi wrthi'n gweithio ar y rhai a'i hyrddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Rho floedd os ydw i'n mynd ar draws yr hyn wyt ti eisoes yn ei wneud! Blogdroed (sgwrs) 10:31, 4 Mai 2015 (UTC)Ateb

@Blogdroed: Yr unig "brosiect Wicipedia" sydd gennyf ar y gweill yw ceisio cael canlyniad pob etholiad cyffredinol a byr fywgraffiad o bob AS Gymreig o 1832 i 2015. Mae dilyn un prosiect mor fawr yn gallu bod yn undonog weithiau, gan hynny byddwyf yn cael toriad paned a mygyn pob hyn a hyn a sgwennu am rywbeth cwbl wahanol, boed Cannu rhefrol, y Bale neu'r VC. Os wyt am ddilyn trywydd y VC nid ydwyt yn sathru arnaf o gwbl - pob hwyl i ti yn dy ymchwil.AlwynapHuw (sgwrs) 05:49, 6 Mai 2015 (UTC)Ateb
@AlwynapHuw: Ha!Ha! Mae'r "rhagolwg" ar y Cannu rhefrol newydd beri i mi boeri fy nghoffi ar hyd y ddesg!! Dwi wedi bod yn creu ymchwil ar y VC o'r Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer rhaglen ddogfen dwi'n gynhyrchu felly meddwl byddai'n bechod ei weld yn mynd yn wastraffus oeddwn i! Os oes 'na unrhywbeth alla'i helpu efo'r ASau rho floedd! Blogdroed (sgwrs) 10:57, 6 Mai 2015 (UTC)Ateb

Lliwiau'r pleidiau golygu

Bore da! Mae rhai lliwiau wedi mynd i'w lle'n daclus, ond mae na broblem efo rhai eraill, fel y gweli ee Official Monster RL. Fedra i ddim mo'i weld. Er gwaetha hyn, dwi'n gweld dy fod wedi dod dros y broblem. Gwych! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:47, 13 Mai 2015 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000: Mi af ati i chwilio am / creu lliwiau a phwt o erthyglau am y pleidiau man sydd yn ymddangos yn aml toc. Moen cyhoeddi'r canlyniadau llawn yn gyntaf - (wedi gwneud!) AlwynapHuw (sgwrs) 06:46, 13 Mai 2015 (UTC)Ateb
Ew, gret! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:10, 13 Mai 2015 (UTC)Ateb

Gwerthfawrogiad golygu

  Gwerthfawrogiad o waith Arbennig Alwyn ap Huw
Carwn gyflwyno'r seren hon i ti, rhen gyfaill, fel gwerthfawrogiad o'th waith arbennig. Cyflwyniad personol ydyw, ond gwn hefyd fod dy waith yn cael ei werthfawrogi gan y gymuned gyfan a'n darllenwyr. Diolch! Ymlaen!!! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:35, 5 Gorffennaf 2015 (UTC)Ateb
Diolch o galon, dylwn sgwennu ymateb hir o ddiolch, megis y rhai o dderbyn Oscar, ond yn anffodus byddai sgwennu'r fath eiriau yn afradu'r amser sydd gennyf i ysgrifennu llith am ryw g** oen o AS Geidwadol! AlwynapHuw (sgwrs) 04:49, 5 Gorffennaf 2015 (UTC)Ateb
Yn hollol! Dal i fynd, mae'n anodd dal fyny efo ti'r dyddiau hyn!!! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:53, 5 Gorffennaf 2015 (UTC)Ateb

Delweddau LlGC golygu

Bore da! Dw i wedi uwchlwytho delwedd o blant Pryse Pryse o wefan Your Paintings y BBC. Mae na rai eraill yno, fydd wrth dy ddant! Mi driai uwchlwytho rhai, ond mae amser yn brin gythreulig y dyddiau yma, fel y gwyddost. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:23, 8 Medi 2015 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000: Ansicr o werth y neges - a ydy pob llun ar BBC Your Paintings ar gael i ni. Neu dim ond rhai sydd wedi eu cyfranu gan LLGC?

Sant @ Sant golygu

Helo. Mae'r Sant John roberts eisioes ar waelod y rhestr, fel y gweli. Ond efallai nad ydyw'n ddigon clir! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 16:01, 17 Medi 2015 (UTC)Ateb

Mi sylwais ar ôl ychwanegu'r ddau sant "diweddar" eu bod ar waelod y rhestr, ond, gan ei fod yn rhestr mor hir, dim ond trwy chwilio am William Davies a chanfod tudalen Rhestr o seintiau Cymru yn y blwch chwilio! Trwy fod yn rhestr yn ôl gwyddor mae'n rhestr hir, o'i hanfod, mae cael is-restr yn cymhlethu, yn arbennig o nodi mae dim ond tua 10% o seintwar Cymru sydd yn y rhestr gyfredol!08:55, 18 Medi 2015 (UTC)

Dolig Llawen Alwyn! golygu

Dolig llawen rhen frawd! F'adduned flkwyddyn newydd ydy ein bod yn cyfarfod am beint a sgwrs! Diolch am d'amynedd dros y misoedd diwethaf! Fel ti'n dweud, fe ddaw pethau'n ara deg, ac 'Dal ati fe ddaw y 70K cyn diwedd y flwyddyn!'. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:07, 25 Rhagfyr 2015 (UTC)Ateb

Yr hen gyfyng gyngor ar Wicipedia, nifer yr erthyglau V sylwedd yr erthyglau; gallwn greu digon o egeinion wleidyddol i gyrraedd y 70K cyn y flwyddyn newydd, ond y gost bydd gwario 2016 yn rhoi cig ar esgyrn yn hytrach na chreu erthyglau newydd! Nadolig Llawen Iawn i ti a'r tylwythAlwynapHuw (sgwrs) 07:11, 25 Rhagfyr 2015 (UTC)Ateb

Baneri golygu

Bore da! Rhag ofn fod hyn o help - does dim rhaid newid enwau gwledydd gyda llaw - gelli ei wneud yn otomatig drwy newid (replace) y gair 'flag' efo 'flagcountry' hy Mae {{flagcountry|Iraq}} a {{flagcountry|New Zeland}} yn ymangos fel   Irac a   Seland Newydd. Mae {{flag|New Zeland}}, yn aros yn Saesneg -   New Zeland. Mae   a Rhestr o wledydd sydd wedi mynd yn annibynol o'r Deyrnas Unedig ar gael hefyd, os ydy o unrhyw ddefnydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:45, 6 Mawrth 2016 (UTC)Ateb

Diolch - dtyna arbed proses araf!AlwynapHuw (sgwrs) 04:53, 6 Mawrth 2016 (UTC)Ateb
Croeso. Newydd roi'r un Saesneg ar dudalen sgwrs en:Talk:British Empire. Cha i fawr o lwc, dwi'n siwr! Cawn weld. Mae hi'n frwydr ar ol brwydr ar bob ffrynt yn tydy! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:22, 6 Mawrth 2016 (UTC)Ateb

'Arwyr dewr Iwerddon...' golygu

Diolch am yr arweiniad! Dw i 'di creu dwy neu dair erthygl newydd fel rhan o ddathliadau canrif Gwrthryfel y Pasg ee Byddin Weriniaethol Iwerddon (1922–69). Mae na sawl mudiad / byddin o'r enw IRA di bod a charwn pe taet yn bwrw golwg er mwyn sicrhau eu bod yn niwtral (!) ac yn gywir. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:09, 13 Mawrth 2016 (UTC)Ateb

Deffro'r Ddraig golygu

Henffych AlwynapHuw. A hoffech chi gymryd rhan yng nghystadeluaeth Deffro'r Ddraig, ar gyfer creu a gwella erthyglau am Gymru, ym mis Ebrill? Mae cyfle i ennill tocynnau rhodd gwerth hyd at £200 oddi wrth Amazon. Mae llwyth o erthyglau posib i'w creu o'r newydd ar y rhestr o erthyglau hanfodol, gan gynnwys Brwydr Cilmeri, Senedd-dy Owain Glyn Dŵr ym Machynlleth a nifer o aelodau'r Cynulliad. Gallwch gofrestru fan hyn. Ham II (sgwrs) 15:49, 31 Mawrth 2016 (UTC)Ateb

@Ham II: Dwi ddim yn cyfrannu at Wicipedia am wobr. Am wn i pwrpas cynnig gwobrau yw ceisio annog mwy o bobl i gynnig erthyglau; byddai'n annheg i mi bod yn rhan o'r cystadlu gan fy mod yn cyfrannwr gweddol cyson ta waeth, ond diolch am y cynnig. AlwynapHuw (sgwrs) 03:36, 1 Ebrill 2016 (UTC)Ateb

Yr etholiad golygu

@AlwynapHuw, AledPowell, Anatiomaros: Dw i rhwng dau feddwl - naill ai mynd i Landudno ar ddiwrnod yr etholiad i dynnu lluniau (dau gyfri), neu aros adra a chael wici-flits golygu / diweddaru drwy'r nos. Unrhyw syniadau? Llywelyn2000 (sgwrs) 18:43, 15 Ebrill 2016 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000, AledPowell, Anatiomaros: Da byddid cael lluniau o'r ymgeiswyr / ACau; rwy'n hapus i uwchlwytho'r canlyniadau wrth iddynt cael eu cyhoeddiAlwynapHuw (sgwrs) 18:58, 15 Ebrill 2016 (UTC)Ateb
Gwych. Af rhagof parth a'r Cyfri! A dygaf gyda mi fy nghanon 350D! Unrhyw ymgeiswyr yn arbennig? Mi driai gael y cwbwl lot, wrth gwrs! Byddaf angen cymorth gyda'u henwau, wedyn! Mae nhw i gyd yn reit debyg i'w gilydd, i mi! ON Mi faswn yn gwerthfawrogi dy farn ar ein defnydd o enwau'r canrifoedd yn fawr iawn, os cei funud i feddwl. Gweler yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:01, 16 Ebrill 2016 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000, AledPowell, Anatiomaros: Cymerwch olwg ar waelod fy nhudalen (adran 38) Defnyddiwr:AlwynapHuw; ydy hyn yn ffordd dderbyniol o ddangos llun o ragor nag un ymgeisydd mewn blwch etholiad? Os ydyw tynna llun pob ymgeisydd; os nad ydyw tynna llunia'r buddugol un unig (ac unrhyw un enwog / lliwgar). Os ceir caniatâd, llun o'r swyddog etholiadau (dim erthygl Cymraeg eto) a lluniau cyffredinol o'r cyfrif (dim erthygl Cym na Saes)AlwynapHuw (sgwrs) 02:54, 28 Ebrill 2016 (UTC)Ateb
Pam lai? Llawer gwell na lluniau bach llia rioed yn mynd ar i lawr. Piti nad oes ffordd i'r rhes o luniau ffitio maint sgrin y darllenwr, yn otomatig. Siwr bod rhywsut. Edrych ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:12, 28 Ebrill 2016 (UTC)Ateb
Mi dynnais i chydig o luniau; dydyn nhw ddim yn wych, ond efallai fod un neu ddau'n ddefnyddiol. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:28, 8 Mai 2016 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000: Wedi ddefnyddio rhai fel galeri o dan y canlyniadau yn y ddwy etholaeth Gorllewin Clwyd (etholaeth Cynulliad) ac Aberconwy (etholaeth Cynulliad). Defnydd deche neu fler? AlwynapHuw (sgwrs) 06:57, 8 Mai 2016 (UTC)Ateb
Whaw! Deche iawn! Piti na fyddai gennym ni ffotograffwyr ym mhob cyfri y tro nesaf! Fe ddaw, pan sylweddola pobl mai wici ydy llwyfan parhaol holl wybodaeth y genedl! Job da iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:11, 8 Mai 2016 (UTC)Ateb

Participate in the Ibero-American Culture Challenge! golygu

Hi!

Iberocoop has launched a translating contest to improve the content in other Wikipedia related to Ibero-American Culture.

We would love to have you on board :)

Please find the contest here: https://en.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Translating_Ibero_-_America/Participants_2016

Hugs!--Anna Torres (WMAR) (sgwrs) 14:20, 10 Mai 2016 (UTC)Ateb

Carreg Filltir - y 70,000fed erthygl golygu

Er ei fod wedi'i gofnodi yn y Caffi, mae'n bwysig ei ddweud yma hefyd - ti a sgwennodd y 70fed erthygl ar cywici - Richard Vaughan (Corsygedol). Llongyfarchiadau ar honno - erthygl deilwng, gynhwysfawr. Diolch Alwyn! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 13:21, 12 Gorffennaf 2016 (UTC)Ateb

@John Jones: Diolch ond nid yr un sgwenodd erthygl rhif 70K sy'n haeddu'r clod ond y sawl a chyfranodd y 69,999 erthygl blaenorol! AlwynapHuw (sgwrs) 07:53, 17 Awst 2016 (UTC)Ateb
Go dda! On the shoulders of giants! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 11:03, 23 Awst 2016 (UTC)Ateb

Départementau Ffrainc golygu

Er gwybodaeth, mae'r gair 'département' yn cael ei ddefnyddio gennym, cofia, ac felly hefyd erthyglau fel Ardennes (département); gh Categori:Départements Ffrainc. [Jyst rhag ofn i ti ail-greu'r olwyn!] Ar y llaw arall, does dim erthyglau ar y 'dosbarth' Almaenig y Kreis (Saesneg: 'Departments'). Os wyt ti isio mi fedraf ganfod cronfa ddata, er mwyn eu gwneud gyda AWB, bot. Mae'n gymharol hawdd, a gallaf dy helpu. Neu gyda llaw, wrth gwrs! Y gwaith anoddaf ydy cael gafael ar gronfa ddata cynhwysfawr. Cofion - Llywelyn2000 (sgwrs) 05:22, 18 Awst 2016 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000: Rwyf wedi gosod y rhestr o gymunedau yma Cymunedau Aodoù-an-Arvor, ond mae'n goch i gyd. Mae 'na erthyglau Saesneg tebyg i'r un am Andel (ar fy nhudalen defnyddiwr) byddai'n hawdd eu cyfieithu, gan eu bod i gyd yn dilyn yr un patrwm; ond rwy'n methu cael y map yn y bocs gwybodaeth (gan gynnwys y darn sy'n dweud show/hide) i weithio ac yn methu gweld be sy'n gyfrifol am greu'r mapiau er mwyn ceisio eu trwsio. Oes gen ti unrhyw awgrymiadau?AlwynapHuw (sgwrs) 23:23, 18 Awst 2016 (UTC)Ateb
Henffych! Mae'r rhifau INSEE sydd gen ti'n mynd i fod yn help! Arferid defnyddio 'Region' i alw'r map. Y rhif INSEE hwn sy'n ei alw bellach OND bydd yn rhaid i mi roi'r cod diweddaraf yn Nodyn:Infobox French commune! Dim probs. Fe weli fod region = Pays de la Loire yng ngwybodlen yr erthygl ar Entrammes, sy'n gweithio yn iawn. Rho glic-dde ar y map cuddiedig ac fe weli'r patrwm: Delwedd:Pays de la Loire region location map.svg H.Y. mae'r cod yn galw 'Delwedd:' + y gair a ddaw ar ol 'Region= yn y wybodlen ac yna 'region location map.svg' a coiala - ymddengys y llun! Felly gad i mi weithio ar hwn. Gyda llaw, un cliw i mi fydd y frawddeg 'Lleoliad o fewn Brittany ' - chwilio am 'Brittany' mae'r cod ac nid 'Bretagne', felly mae angen newid hwn.
Sut wyt ti am eu rhoi ar Wici? Y mwyaf o ddata fedrwn ei gael, mwyaf o sylwedd fydd i'r erthygl, wrth gwrs. Fedrwn ni ychwanegu ychwaneg o golofnau i'r tabl? ee y pellter o Gwened, Paris? Paid a rhuthro - oherwydd os fedri di gael llond llaw wedi'u cymeradwyo yn y Caffi, gelli wedyn greu 30,000 eraill! Yr ychwanegiad mwyaf i wici erioed! Ond paid a rhuthro! Mi ruthrais i roi tua 6,000 o bentrefi a threfi Lloegr arno un tro ac roedd nam yn y wybodlen! Felly mae dysgu. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:22, 19 Awst 2016 (UTC)Ateb
Roedd angen creu Nodion fel Nodyn:Location map France Bretagne - un ar gyfer pob Département; mae 4 Llydaw wedi'u gwneud a thua 6 arall. Fodd bynnag, mae rhai ohonyn nhw'n dal heb eu creu ar en! Mae o i'w weld yn eitha, namyn y 'show' a'r cyfesurynnau bondigrybwyll - dal i ddisgwyl ateb gan ffrind i mi o en. I bwmpio'r db ychydig, beth am fwrw golwg dros Nodyn:Infobox French commune am syniadau - y wybodlen lawn ee | ethnic - nifer tramorwyr. Faswn i ddim yn rhoi'r Maer, gan fod hwnnw'n mynd a dod mor aml. Tyrd nol os fedra i wneud rhan o'r gwaith, cofia. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:57, 19 Awst 2016 (UTC)Ateb

Cymunedau Llydaw golygu

Gwych iawn! I mi fod yn bendantig... fedri di roi chydig o ddolenau (Ffrangeg, Llydaw, Llydaweg) o fewn dolen? Mwya o ddolennau sydd ar dudalennau, mwyaf o 'ddyfnder' sydd i cywiki. Ni ddylid dyblu'r dolennau, wrth gwrs. Jyst y cyntaf. Yn ail, Ro'n i'n gweld fod graff o nifer y boblogaeth ar yr erthyglau cynta wnest ti, a oedd yn wych iawn. Ydy hi'n bosibl i ti ychwanegu graffiau ar y cwbwl lot? Llywelyn2000 (sgwrs) 16:32, 23 Awst 2016 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000: Ar fy nhudalen sgwrs yr wyf wedi gosod y frawddeg agoriadol ar gyfer pob gymuned yn Departamant Aodoù-an-Arvor a'rgraff poblogaeth. Rwyf wedi cadw copiau or gwybodaeth ar ddogfen word ac ar lyfr exel ar fy nghyfrifiadur. Wyt wedi son bod modd defnyddio peiriant bot i gychwyn erthygl efo'r fath wybodaeth, sut mae mynd ati i ddefnyddio'r peiriant. AlwynapHuw (sgwrs) 22:21, 23 Awst 2016 (UTC)Ateb
Cofia, i weithredu bot yn swyddogol (neu yn dy enw di) bydd angen caniatad yn y Caffi, ond wela i ddim problem gan fod gwybodlen dda a mwy na tair brawddeg. Defnyddia en:Wikipedia:AutoWikiBrowser (AWB). Darllen amdano, yna ei lawrlwytho. Cyn ei agor, lawrlwytho ategyn ('plugin') ar gyfer ffeiliau csv, sef en:Wikipedia:CSVLoader (CSV Loader). Cofia: efo cadw ffeiliau yn Excel - bydd angen parchu'r to bach / acenion ayb drwy optio am gadw fel csv.file a dewis UTF8 neu uwch. Mi wneith y en:Wikipedia:CSVLoader/Walkthrough dy gerdded drwy'r broses. Does dim angen codio ac mae'n eitha hawdd - efallai y cymerith ddiwrnod i ti wneud yr uchod. Gelli ei weithredu ar y cychwyn HEB ddewis y dull otomatig - hy gwiro nhw efo llygad cyn mynd ati iw otomeiddio. OND mae o'n nigli - un tic yn lle rong a ti'n treulio hanner awr yn chwilio am ateb! Mam ini yw amynedd! pia hi. Cod y ffon, neu gysyllta a mi driai helpu ymhellach. Pob lwc! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:46, 24 Awst 2016 (UTC)Ateb

Wel wir mi rwyt ti wrthi fel lladd nadroedd a'th gyfraniad yn un gwych iawn! Un neu ddau o fanion:

  1. Ga i gynnig creu 'ailgyfeiriadau' o'r enwau Ffrengig i'r enwau Llydewig efo'r BOT, neu ddangos sut i'w wneud efo AWB? Y cwbwl sydd ei angen ydy'r ddwy golofn ar ffeil csv.
  2. Byddai'n wych ychwanegu brawddeg ynghylch pellter y cymunedau o brifddinas Llydaw, Roazhon, a gellid ychwanegu ar y rhai a wnaed yn barod.
  3. Fyddai dangos y map sydd ar br-wici ddim yn well na'r un presennol sydd gennym ni? Mae'r un presennol yn cynnwys rhannau sydd ddim yn Llydaw: gweler Klison, a'r map a ddangosir (Pays de la Loire). Efallai hefyd mai hwn ddylid ei roi'n gyntaf, a'r map o Ffrainc yn ail, wedi'i guddio?

Ond fel dw i'n dweud, mae'r erthyglau yma'n ychwanegiad bendigedig a dylid dy longyfarch! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:45, 27 Tachwedd 2016 (UTC)Ateb

Awgrym golygu

Bril gweld yr erthyglau newydd. Un awgrym: beth am newid 'yng ngwlad Llydaw ' i 'yn Llydaw '? Mi fedraf newid yr hen rai efo'r bot, os wyt ti'n cytuno? Llywelyn2000 (sgwrs) 12:59, 8 Rhagfyr 2016 (UTC)Ateb

Y rheswm am yng Ngwlad Llydaw yn erthyglau Cymunedau Liger-Atlantel yw bod y Département yn rhanbarth Ffrenig Pays de la Loire, yn hytrach nag yn rhanbarth Llydaw, ysywaeth
Alwyn: oes na unrhyw siawns y medri ychwanegu brawddeg neu ddwy at yr egin hyn? Er enghraifft 'Poblogaeth x yn 2011 oedd xx.' ac un frawddeg arall (y maer? uchder uwch y mor? pencadlys weinyddol?) Mae gennym reol am erthyglau - fod yn rhaid iddyn nhw fod o leiaf dwy baragraff; mae'r graff yfmi yn cyfri fel un, ond byddai pwmpio'r testun o un frawddeg i dair yn sicr yn ateb y gofyn! Beth am drafod hyn yn y caffi, fel sy'n arferol? Dw i ddim yn gweld problem, ac efallai y cei syniadau gwerthfawr a sel bendith y golygyddion i greu miloedd! Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:13, 15 Ionawr 2017 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000: Iawn, bu'n fwriad gennyf ers y dechrau i fynd yn ôl trwy'r holl erthyglau am Lydaw i roi dipyn o gig ar eu hesgyrn wedi imi ddarfod creu tudalennau amrwd ar gyfer y cyfan. Wedi creu tudalen am y gymuned Lydewig olaf ar fy rhestr y bore 'ma, sylwais fod ni tua 200 erthygl yn brin o 90K, a gan fod ychydig dros 200 cymuned yn Département Maine-et-Loire, mi benderfynais roi erthygl un frawddeg ar eu cyfer hwy hefyd. Wrth adolygu'r tudalennau Llydewig mi wnaf yr un peth efo rhain hefyd. Fel mae'n digwydd mae 'na bwt mwy o wybodaeth ar y tudalennau Cymraeg yn barod na sydd ar y rhai Saesneg cyffelyb ar hyn o bryd - y cyfan sydd yn y Saesneg yw Xxxx is a community in western France.
Argian fawr! Ti wedi bod wrthi! Gwych iawn! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 16:23, 17 Ionawr 2017 (UTC)Ateb

Rhestr y rhestri! golygu

Mae dy gyfraniadau diweddar yn handi iawn, ac yn ychwanegiad gwerthfawr; beth am ddalen Rhestrau o aelodau seneddol Cymru er mwyn rhestru pob un? Dw i'n siwr dy fod wedi meddwl am y peth yn barod! Naill ai ar ei liwt ei hun, neu'n isbenawd ar yr erthygl Aelod Seneddol? Melys moes...miloedd! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:33, 13 Ionawr 2017 (UTC)Ateb

Hugh Hughes yr arlunydd golygu

Ai fferm ynteu ardal ydy Meddiant? Os fferm, ai hwn? Basa ffoto gwell o'r ty lle'i ganed yn wych!

Y Ddau, ond hyd y gwyddwn ganed Huw Huws ar dir y fferm, mi ofynaf gwybodaeth pellach parthed meddiant uchaf neu isaf, ac mi ofynaf ganiatad am lun. AlwynapHuw (sgwrs) 03:37, 12 Mawrth 2017 (UTC)Ateb

Share your experience and feedback as a Wikimedian in this global survey golygu

WMF Surveys, 18:40, 29 Mawrth 2018 (UTC)Ateb

Illinoi County, Swydd neu Sir? golygu

Pa hwyl Alwyn? Whaw mae rhain yn argoeli'n dda! Dw i'n gweld Sir yn chwithig ar y naw - efallai gan mod i wedi clywed y fersiynau Saesneg mor amal! Yna mi ddois ar draws Gabriel Prosser lle defnyddir yr enw gwreiddiol 'Henrico County' ( a hynny gan Anatiomaros - y Wicipediwr uchel iawn ei barch a fu mor brysur tan rhyw 3 blynedd yn ol. Yna, wrth feddwl rhagor mi gofiais i ddarllen yn rhywle mai 'Swydd' ddylid ei ddefnyddio am bob sir y tu allan i Gymru! Efallai y dylem ni ddechrau gyda'r Coleg Cymraeg, neu lyfrau diweddar i weld pa un o'r tri sy'n cael ei ddefnyddio? Oes gen ti deimlada cry am un o'r rhain? Yn ail, ar en mae nhw'n rhoi enw'r dalaith ar ei ol, ee Illinois - does dim rhaid i ni gopio hynny wrth gwrs, ond efallai ei fod yn help gwahaniaethu mwy nag un o'r un enw. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:06, 11 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000: Rwy'n cytuno bod y gair sir yn edrych yn hurt braidd o flaen enw Saesneg, yn arbennig o flaen enw rhanbarth gweinyddol sydd wedi enwi er anrhydedd i enw bedydd dyn. O gyfieithu James County neu Henry County does dim help ond darllen y gair sir fel Syr. Mae Swydd yn well, ond, o ddwys ystyried y mater; i fod yn gyson efo arfer mewn ieithoedd eraill megis, Llydaweg (Cymunedau Penn-ar-Bed), Sbaeneg (Sevilla) ac ati oni ddylem ddefnyddio'r enw gwreiddiol oni bai bod enw Cymraeg ee (Efrog Newydd) wedi hen sefydlu? (Ac mae cadw at y gair County yn llawer lai o waith cyfieithu, o ystyried bod bron i 10 mil o'r diawled yn UDA. Rwyf wedi rhoi enw'r Dalaith ar ôl y rhan fwyaf ee Sir Cass, Illinois, camgameriad yw Sir Bureau AlwynapHuw (sgwrs) 12:18, 11 Ebrill 2018 (UTC)Ateb
Cytuno'n llwyr! Mae'r meddwl yn ein twyllo i weld 'syr'; cofiaf rhywun yn son stalwm am iddynt weld llyfr am y gyfraith ers talwm gyda'r teitl ychydig yn od, er cystal eu saesneg, ac er craffu am funud cyfan! Wedi hir a hwyr sylweddolwyd mai llyfr Cymraeg ydoedd - O Law i Law! Mi fyddaf yn troi at wybodlenni daearyddol / lleoedd cyn nhir - felly rho wybod os ga i wneud rhywbeth. Gwych iawn! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:50, 12 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Reminder: Share your feedback in this Wikimedia survey golygu

WMF Surveys, 01:39, 13 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Dyfalbarhad! golygu

Er mod i hanner dy oed ( ;-) lol), mi rydwi'n edmygu dy ddyfalbarhad a'th stamina anhygoel! Mi wna i seren fechan fwyn i ti fel gwerthfawrogiad - pan gaf amser! Yn ddiffuant... Llywelyn2000 (sgwrs) 19:11, 16 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Your feedback matters: Final reminder to take the global Wikimedia survey golygu

WMF Surveys, 00:48, 20 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Golygu rhy sydyn! golygu

Mi dynais y nodyn 'Gwella' o'r erthygl EuroMillions heb edrych pryd oedd y golygiad diwethaf! Hanner awr, ac felly f'ymddiheuriadau os wenes i dy ffwndro! A dweud y gwir wnes i ddim meddwl bod neb yn effro am chwech y bore ar wahan i fi! ÔN Edmygaf dy ddyfalbarhad ar Wici! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:46, 29 Gorffennaf 2018 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000:. Gwell siawns bod Cymro arall yn golygu am 6 y bore na'r 1 mewn 139,838,160 o ennill yr EuroMillions AlwynapHuw (sgwrs) 05:55, 29 Gorffennaf 2018 (UTC)Ateb
Haha! Ond siawns go dda gan Geraint Thomas y pnawn ma o ennill ras fwya'r byd! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:15, 29 Gorffennaf 2018 (UTC)Ateb

Wici365 golygu

Mae na ddalen prosiect, bellach ar hyn! Gweler Wicipedia:Wicibrosiect Wici365. Fe weli ddolen i dy erthyglau di yno; ond dim ond os wyt ti wedi cofrestru fel Defnyddiwr:AlwynapHuw pan wnest ti gadw / cyhoeddi'r erthygl. Fel arall, bydd yn rhaid i ti eu hychwanegu gyda llaw. Mae hyn yn ffordd o weld os fyddwn ni wedi cyrraedd 365 erthygl mewn blwyddyn, hy un y dydd ar gyfartaledd! Unrhyw syniadau neu awgrymiadau eraill - tyrd a nhw! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:24, 20 Medi 2018 (UTC)Ateb

Results from global Wikimedia survey 2018 are published golygu

19:25, 1 Hydref 2018 (UTC)

Etholaethau seneddol Cymru golygu

Bore da Alwyn! Dw i wedi creu switsis i otomeiddio enwau ASau. Gweler Etholaethau seneddol Cymru. Felly, os bydd un AS yn gadael, neu mewn etholiad, yna bydd angen newid yr enw unwaith yn unig. Tybed a wnei di wiro'r rhestr os gweli di'n dda? Ac unrhyw awgrymiadau. AC nesa! Ond cyn hynny, dw i am edrych ymhle arall y gellir ychwanegu'r swits, er mwyn otomeiddio'r WP! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:16, 12 Hydref 2018 (UTC)Ateb

Meddwl amdanat! golygu

Gobeithio fod y driniaeth yn mynd cystal a'r disgwyl, Alwyn. Mae llawer ohonom yn meddwl amdanat! Os yw'r nifer o olygiadau ar wici yn brawf o lwyddiant y driniaeth (ac o'th ddyfalbarhad!) yna mi rwyt ti'n gwneud yn wych iawn! Yn hedfan! Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 08:32, 7 Rhagfyr 2018 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000: Diolch Robin. Mae fy sefyllfa yn un gwbl absẃrd. Cefais gwybod fy mod yn dioddef o salwch, sy'n gallu fod yn farwol, trwy brawf gwaed. Heb y prawf byddwn dim callach fy mod yn sâl. Rwyf wedi gwario rhai misoedd yn cael triniaeth ar gyfer y salwch, ac wedi bod yn sâl o sgil effeithiau triniaeth, heb unrhyw glem os yw'r driniaeth yn gwella'r clwyf ta beidio. Mae'r driniaeth yn dod i ben canol wythnos nesaf, ond bydd canol mis Chwefror cyn gwybod os bu'r driniaeth yn llwyddiant neu beidio. Mae ceisio canfod pwy oedd y Cymro cyntaf i sgorio cais yn erbyn Lloegr neu pwy oedd Ysgrifennydd India ym 1880 yn foddion creu gwrthdyniad imi o boeni am yr absẃrd. AlwynapHuw (sgwrs) 04:33, 8 Rhagfyr 2018 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000: Mae canol mis Chwefror wedi dod, ac yn ôl pob tebyg mae'r canser wedi mynd. Mae'n debyg bydd sgil effeithau'r driniaeth yn para am o leiaf chwe mis arall. Bydd rhaid gwirio pob chwe mis am bum mlynedd i sicrhau bod pob dim yn ddeche a bod y salwch heb dychwelyd. Felly mae creu erthyglau i dynnu sylw yn parhau'n ran o'r driniaeth AlwynapHuw (sgwrs) 06:00, 16 Chwefror 2019 (UTC)Ateb
Dw inna'n deall y teimlad hwnnw: mae sgwennu'n gartharsis, yn ffocws hefyd! Cadwa mewn cysylltiad rhen goes! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:20, 16 Chwefror 2019 (UTC)Ateb

Gwerthfawrogiad golygu

    Gwerthfawrogiad o'th Waith Arbennig
Carwn gyflwyno'r seren hon i ti, rhen gyfaill, fel gwerthfawrogiad o'th waith arbennig, a diflino, yn enwedig am fod y cyntaf i gwbwlhau prosiect #wici365! Cyflwyniad personol ydy hwn, ond gwn hefyd fod dy waith yn cael ei werthfawrogi gan y gymuned a'r darllenwyr! Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:06, 28 Mawrth 2019 (UTC)Ateb

Manion golygu

Haia Alwyn! Rho wybod os ti isio i mi archifo dy dudalen Sgwrs; newydd wneud cwpwl ohonyn nhw. Hefyd - gwaedda os oes problem efo'r AWB. yn ola - diolch am dy erthyglau neithiwr! Whaw! Tair erthygl o fewn awr neu ddwy i lansiad y WiciBrosiect:Arabeg! Oherwydd arholiadau meddygol yng Ngwlad yr Iorddonen, bydd hi'n bythefnos dda, cyn y byddan nhw'n dechrau arni. Ond, o leia mae gennym ni head-start ar bethau! Cofion.... Llywelyn2000 (sgwrs) 06:39, 11 Ebrill 2019 (UTC)Ateb

Poblogaeth golygu

Bore da Alwyn! Mae croeso i ti ddefnyddio'r cod poblogaeth otomatig ar ddechrau erthyglau am lefydd ee Douglas County, Illinois: Jyst copia a gluda'r canlynol:

Mae ganddi boblogaeth o {{wikidata|properties|qualifier|references|normal+|best|Q242|P1082|P585}}.

sy'n ymddangos fel:

Mae ganddi boblogaeth o {{wikidata|properties|qualifier|references|normal+|best|Q242|P1082|P585}}.

Mae'r dyddiad a'r gyfeiriadaeth yn cael eu rhoi'n otomatig ac yn daclus! Gweler Wicipedia:WiciBrosiect Cyfoes am ragor. Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 05:14, 14 Mai 2019 (UTC)Ateb


Dymunaf y gorau i chi. Deb (sgwrs) 07:21, 12 Mehefin 2019 (UTC)Ateb

Somdip Dey, requesting speedy deletion golygu

Sorry for english. I did not found correct template to tag, so requesting here. Delete this article Somdip Dey. This article created by a sock. This page is a biography of the page creator himself (or his sock). The information given in the biography is incorrect and misleading. there is nothing notable included on the entry and is clearly a case of self-promotionsee. Sources in this page doesn't mention his name & most of them aren't reliable source. This user also spamming other wiki by creating his article and trying to trick us (one can think, this person is notable becouse he has other wiki entry). see en:Somdip Dey, en:Draft:Somdip Dey, en:Wikipedia:Articles for deletion/Somdip Dey, en:Wikipedia:Sockpuppet investigations/Essex PR/Archive. So, requesting speedy deletion of this article. --আফতাবুজ্জামান (sgwrs) 00:23, 15 Gorffennaf 2019 (UTC)Ateb

@আফতাবুজ্জামান: Thanks for letting us know, the page has been deleted.

Diolch am eich gwaith ar WiciLlên golygu

Helo Alwyn. Heddiw mae prosiect WiciLlên wedi cyrraedd y targed o 500 o erthyglau newydd am llenorion. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb eich cyfraniad anhygoel, felly diolch yn fawr iawn am eich holl waith ar erthyglau perthnasol! Jason.nlw (sgwrs) 21:40, 13 Mawrth 2020 (UTC)Ateb

Siroedd UDA golygu

Haia Alwyn. Dw i'n gweld dy fod wedi creu llawer o erthyglau gwych ar siroedd Illinois. Ond dw i ddim yn siwr pam dy fod yn eu galw nhw'n 'rhanbarthau' fodd bynnag, neu ydw i wedi methu yn rhywle? Dw i'n cytuno efo ti (ac Anatiomaros, ac eraill) y dylid cadw'r ffurf wreiddiol 'xxx County' yn hytrach na bathiad artiffisial fel 'Swydd xxx'. Dw i wedi newid un (Adams County, Illinois) o Categori:Rhanbarthau Illinois i Categori:Siroedd Illinois, cyn gweld fod na swp eraill. Illinois yw'r eithriad yma, gweler y prif gategori: Categori:Siroedd Unol Daleithiau America yn ôl talaith. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:10, 21 Mawrth 2020 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000:Sut mae Robin? Dydy'r erthyglau am siroedd Illinois ddim yn rhai gwych o bell ffordd. Maent yn erthyglau a ysgrifennwyd, yn bennaf, ar spreadsheet Excel rhyw dair blynedd yn ôl pan oeddem wrthi fel lladd nadroedd yn ceisio cyrraedd 100,000 erthygl. Os wyt ti'n edrych ar fersiwn gynharaf yr erthyglau yn "Gweld yr hanes" mi weli fod y geiriad gwreiddiol yn defnyddio sir yn hytrach na rhanbarth (Sir Adams yw'r sir fwyaf gorllewinol yn Nhalaith Illinois, Unol Daleithiau America. Yn ôl cyfrifiad 2010, y boblogaeth yw 67,103. Prifddinas y sir yw Quincy) ond gofynnwyd imi, gennyt ti os gofiaf yn iawn, i gael gwared â'r gair Sir gen ei fod yn edrych gormod fel Syr Saesneg yn achos siroedd a enwyd ar ôl bobl. Yn hytrach na golygu'r erthyglau eto y peth gorau i wneud byddai eu dileu a chreu erthyglau gyda Wicidata, byddai hynny yn fodd o'u cadw yn gyfredol ar ôl cyfrifiadau, etholiadau arlywyddol ac ati. AlwynapHuw (sgwrs) 16:43, 21 Mawrth 2020 (UTC)Ateb
O, gret, mi wna i ddefnyddio'r bot i'w newid yn ol yn 'sir', felly, diolch i ti! Dw i ddim yn cofio'r drafodaeth gynt, ac ymddiheuraf os wnes i ddadlau dros newid 'sir' i 'ranbarth'! Sir ydyn nhw; mae na ormod o stwff da i'w dileu, felly mi ai drwyddwn nhw os ydy hynny'n iawn efo ti ac ychwanegu a chwynu fel y gwelaf orau. Edrych ar ol dy hun a'r teulu dros yr aflwydd firws ma! Cofion cynnes... Llywelyn2000 (sgwrs) 17:03, 21 Mawrth 2020 (UTC)Ateb
... a thrwy ddefnyddio'r iaith wreiddiol, 'Lincoln County', yn hytrach na 'Sir Lincoln', bydd yr amwyster yn diflanu! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:36, 21 Mawrth 2020 (UTC)Ateb
Mae'r rhestrau siroedd y taleithiau'n edrych yn dda Alwyn, ac yn sicrhau nad yw'r erthyglau newydd (siroedd a threfi) ddim yn amddifad! Diolch hefyd am y gwaith yn dadlau dros y defnydd o siroedd Cymru (yn hytrach na siroedd hanesyddol ayb) wrth ddisgrifio llefydd ym Mhowys ar Wicidata! Bydd yn rhaid cadw llygad ar y defnyddiwr - mae'n amlwg mai ei agenda ydy creu dryswch ynghylch pethau Cymreig. Cadwa'n saff! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:31, 21 Ebrill 2020 (UTC)Ateb

Universal Code of Conduct golygu

Hi AlwynapHuw

I was asked by Wikimedia Foundation to promote this call for participation on the planned Universal Code of Conduct.

Best regards --Holder (sgwrs) 04:35, 14 Awst 2020 (UTC)Ateb

At times, our contributor communities and projects have suffered from a lack of guidelines that can help us together create an environment where free knowledge can be shared safely without fear.

There has been talk about the need for a global set of conduct rules in different communities over time. Recently, Wikimedia Foundation Board of Trustees announced a Community Culture Statement, asking for new standards to address harassment and promote inclusivity across projects. [1]

The universal code of conduct will be a binding minimum set of standards across all Wikimedia projects, and will apply to all of us, staff and volunteers alike, all around the globe.. It is of great importance that we all participate in expressing our opinions and thoughts about UCoC and its values. We should think about what we want it to cover or include and what it shouldn’t include, and how it may create difficulties or help our groups.

This is the time to talk about it. Before starting drafting the code of conduct, we would like to hear from you and to solicit the opinions and feedback of your colleagues.

In order for your voice to be heard, we encourage and invite you to read more about the universal code of conduct (UCoC) [2] and then write down your opinions or feedback on the discussion page [3]. To reduce language barriers during the process, you are welcomed to translate the universal code of conduct english main page into your respective local language [4]. You and your community may choose to provide your opinions/feedback using your local languages.

Julian Bream golygu

Oes Yr Academi Gerdd Frenhinol a'r Coleg Frenhinol yr un peth? Deb (sgwrs) 08:40, 15 Awst 2020 (UTC)Ateb

Diolch @Deb:. Dau le gwahanol, cefais fy nrysu gan fod Mr Bream yn gweithio fel athro yn Yr Academi Gerdd Frenhinol ond cafodd ei addysg yn y Coleg Cerdd Frenhinol AlwynapHuw (sgwrs) 20:28, 15 Awst 2020 (UTC)Ateb
Diolch! Deb (sgwrs) 08:30, 16 Awst 2020 (UTC)Ateb

Gwybodlen 'Pethau' ar opera golygu

Rwy newydd gyfnewid yr hen wybodlen am un mwy diweddar, ond yn anffodus, 'dyw'r holl faesydd ddim yn ymddangos eto. @Llywelyn2000: angen ychwanegu 'Cyfansoddwr', 'Libretydd' a 'perfformiad cyntaf' os gwelwch yn dda. Celtica (sgwrs) 06:21, 12 Medi 2020 (UTC)Ateb

How we will see unregistered users golygu

Hi!

You get this message because you are an admin on a Wikimedia wiki.

When someone edits a Wikimedia wiki without being logged in today, we show their IP address. As you may already know, we will not be able to do this in the future. This is a decision by the Wikimedia Foundation Legal department, because norms and regulations for privacy online have changed.

Instead of the IP we will show a masked identity. You as an admin will still be able to access the IP. There will also be a new user right for those who need to see the full IPs of unregistered users to fight vandalism, harassment and spam without being admins. Patrollers will also see part of the IP even without this user right. We are also working on better tools to help.

If you have not seen it before, you can read more on Meta. If you want to make sure you don’t miss technical changes on the Wikimedia wikis, you can subscribe to the weekly technical newsletter.

We have two suggested ways this identity could work. We would appreciate your feedback on which way you think would work best for you and your wiki, now and in the future. You can let us know on the talk page. You can write in your language. The suggestions were posted in October and we will decide after 17 January.

Thank you. /Johan (WMF)

18:11, 4 Ionawr 2022 (UTC)

Caleb Morris golygu

According to his biography by David Tyssil Evans (page 300) Caleb Morris preached "for a few months at Eccleston Chapel, Ecclestone Square" after his Fetter lane ministry; so not at Ecclestone, Lancashire. Sorry I can't write this in Welsh. I accessed the article in automatic translation. --PeterR2 (sgwrs) 17:23, 23 Mawrth 2022 (UTC)Ateb

Thanks for the information, I have updated the article and added your reference. Thank you for using translation tools to access Wicipedia, it's good to know that our work is enjoyed by non Welsh speakers. AlwynapHuw (sgwrs) 19:15, 23 Mawrth 2022 (UTC)Ateb

Diolch am gyfrannu! golygu

  Diolch yn fawr i ti am dy olygiadau yn y Golygathon Celtaidd ar Meta. Ac yn bwysicach, efallai, diolch am dy holl waith ar Wicidestun! 'Dyfalbarhad' ddylai fod ar y seren! Diolch Alwyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:28, 4 Hydref 2022 (UTC)Ateb

Hyrwyddo dy waith da ar Wicidestun yn fama (WP) golygu

Tybed be ti'n feddwl o'r syniadau yma:

  1. creu Wicibrosiect ar Wicipedia yn nodi rhai o'r pethau o ddydd-i-ddydd y gall rhywun eu gwneud ar Wicidestun.
  2. defnyddio rhan o'r canllaw hwn ar Wicidestun mewn Wicibrosiect yno hefyd (rhyw fath o ddrych)
  3. mi hoffwn sgwennu blog byr i'w gyhoeddi o'r gwaith rwyt wedi'i wneud, yn cynnwys rhai o'r prif gerrig milltir.

Llywelyn2000 (sgwrs) 09:41, 13 Ebrill 2023 (UTC)Ateb

Llywelyn2000 Rwy'n credu fy mod i wedi bod yn gôr feddwl y ffurf o gael cymorth ar Wicidestun.

Mi gymerodd blynyddoedd i mi weithio allan sut i fynd o'r cam cyntaf o greu sgan, i droi'r sgan yn PDF, troi'r PDF yn  ffeil DjVu; uwch lwytho'r ffeil i Gomin, trosglwyddo'r ffeil o Gomin, creu ffeil indecs, gwirio ffeil indecs, trawsysgrifio, dysgu sut i ddefnyddio rheolau fformatio trawsysgrifio - gosod cerdd- gosod tab-gosod llun; troi'r trawsgrifiad yn dudalen llyfr a dod i ben drwy blethu'r tudalennau traws ysgrifenedig yn llyfr Wicidestun.
Rwyf wedi bod yn ceisio sut i roi'r holl wybodaeth yna i eraill ar unwaith, disgwyl iddynt hwy lyncu gormodedd o gig mewn pum munud a chymerodd i fi ei lyncu dros bum mlynedd.
Mae heddiw, 217 o destunau, sydd wedi cael eu sganio, eu huwch lwytho, gyda thudalennau indecs wedi eu creu ar gael ar s:Testunau sydd angen eu gwirio, bydd o leiaf 200 arall yn cael eu hategu at y dudalen, cyn y Dolig (bydd eraill yn cael eu tynnu hefyd wedi eu trawsysgrifio), os byddwyf fyw ac iach. Wedi i lyfr cael ei drawsysgrifio, mae ei droi yn llyfr Wicidestun yn un gweddol syml, ond yn un hynod ddiflas.
O ran "prosiect Wici" yr hyn byddid hawsaf byddai prosiect "llyfr y mis" (sy'n cael ei ddefnyddio ar Wicidestun ieithoedd eraill), lle mae nifer o bobl yn addo trawsysgrifio "hyn o hyn" o dudalennau cyn pen y mis gyda chymorth gweinyddwr.
Byddai s:Indecs:Cerrig y Rhyd.pdf yn un da i gychwyn. Dim ond 1 tudalen y dydd am fis gan 4 gwirfoddolwr; a byddai dim ond 4 gwirfoddolwr yn hawdd i mi ddelio efo wrth iddynt ymofyn cymorth ar y Sgriptoriwm, a chreu testun cymorth bach. AlwynapHuw AlwynapHuw (sgwrs) 05:40, 23 Ebrill 2023 (UTC)Ateb

WiciBrosiect Cymru golygu

Annwyl AlwynapHuw, byddai hi'n dda cael eich cwmni ar WiciBrosiect Cymru. Byddai eich barn a'ch cyfrananiadau yno yn werthfawr tu hwnt. Diolch yn fawr i chi Titus Gold (sgwrs) 15:20, 29 Ebrill 2023 (UTC)Ateb

 

You have been a medical translators within Wikipedia. We have recently relaunched our efforts and invite you to join the new process. Let me know if you have questions. Best Doc James (talk · contribs · email) 12:34, 13 August 2023 (UTC)