Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 45:
Byddai gwahanol gyflyrau gair yn newid mewn gwahanol ffyrdd yn ôl y cyfuniadau llafariaid yn y geiriau, e.e. troes '''bardos''' (unigol enwol) yn '''bardd''' (dim newid yn y llafariad). Troes '''bardi''' (lluosog enwol) yn '''beirdd''' (yr '''i''' ar ddiwedd '''bardi''' yn affeithio'r '''a''' a'i newid yn '''ei''', wedyn y terfyniad yn cael ei golli). Yn y ffordd hon wedi colli'r terfyniadau rheolaidd Brythoneg ar eiriau, ffurfid patrymau newydd o ffurfiau unigol/lluosog. Pan fyddai colli terfyniad yn creu unigol a lluosog yn gywir yr un fath byddai siaradwyr yn cymathu'r gair i un o'r patrymau unigol/lluosog newydd, e.e. '''ceiliog/ceiliogod''' yn dilyn y patrwm a fodolai eisoes o ychwanegu '''–od''' i ffurfio lluosog.
 
Terfyniad '''–ā''' oedd i ffurf fenywaidd ar ansoddair yn y Frythoneg. Affeithid llafariad fôn y gair gan yr '''–ā''' derfynol, e.e. '''dŭbnā''' → '''dofn''' (o'i gymharu â'r newid yn y ffurf wrywaidd '''dŭbnos''' → '''dwfn'''). Gwelwn ddechrau ffurfio patrymau newydd i wahaniaethu rhwng ansoddeiriau benywaidd a gwrywaidd yn tyfu o'r hen derfyniadau Brythoneg. Yn yr un modd byddai'r terfyniad '''i''' ar ffurf luosog ansoddair yn affeithio'r llafariad yn y sillaf blaenorol ac yna weithiau'n newid ei hunan gan greu patrymau newydd i'r ffurf luosog ar ansoddair. YnYng GymraegNghymraeg cyfoesheddiw lluosog '''dwfn''' yw '''dyfnion'''.
 
===Rhai patrymau treiglo===