Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg

Digwyddodd trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain a'r cyfnod wedi iddynt ymadael. Cafodd y Rhufeiniaid, a'u hiaith Lladin, ddylanwad trwm ar y Frythoneg. Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid cafwyd cyfnod ansefydlog iawn i drigolion Prydain, heb gyfundrefn ganolog gref, a thramorwyr o bob tu yn ymosod arni neu'n ymsefydlu ynddi. Cymaint y bu'r newid ar y Frythoneg fel y bu iddi esgor ar ieithoedd newydd, sef Cymraeg Cynnar a Hen Gernyweg.

Oherwydd y diffyg tystiolaeth ysgrifenedig, ni ellir dweud yn sicr pryd y cafodd trawsnewidiad y Frythoneg i Gymraeg Cynnar ei gwblhau. Mae'r arysgrif Gymraeg cynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o tua OC 700. Fe'i ceir ar faen coffa sydd yn awr yn eglwys Tywyn, Meirionnydd. Er bod rhai yn meddwl y gallasai'r Gymraeg fod wedi ymwahanu'n bendant o'r Frythoneg yn gynnar yn y 6g, derbynnir amcangyfrif gan y mwyafrif o ysgolheigion fod oes Cymraeg Cynnar yn dechrau yn ail hanner y 6g.

Gan nad oedd y Frythoneg yn iaith ysgrifenedig, tystiolaeth anuniongyrchol yn unig sydd i'r newidiadau a ddigwyddodd iddi wrth iddi gael ei thrawsnewid i'r Gymraeg.[1]

Mae ieithyddion wedi dyfalu y bu i enwau ac ansoddeiriau'r Frythoneg ffurfiau goddrychol, gwrthrychol, genidol a derbyniol, sef y 'cyflyrau' a oedd yn nodweddu ieithoedd Indo-Ewropeg Gorllewinol yr adeg honno. Roedd gan enwau yn y Frythoneg ffurfiau unigol, deuol a lluosog. Terfyniadau gwahanol ar y geiriau oedd yn gwahaniaethu un ffurf oddi wrth y llall. Roedd cenedl enw Brythoneg yn wrywaidd, benywaidd neu'n ddiryw. Dim ond un ffurf unigol ac un luosog ar enw ac ansoddair sydd gan y Gymraeg, ac ambell i ffurf ddeuol megis dwylo. O ran cenedl, dim ond gwrywaidd a benywaidd a erys yn Gymraeg.

Datblygodd y Gymraeg gyfundrefn newydd o derfyniadau neu newidiadau yn llafariaid bôn y gair i wahaniaethu rhwng geiriau unigol a lluosog, e.e. bardd/beirdd, ac i wahaniaethu rhwng ansoddeiriau sy'n disgrifio enwau gwrywaidd, benywaidd a lluosog, megis gwyn/gwen/gwynion. Cafwyd llawer o newidiadau seiniol yn ystod y trawsnewid. Gellir dirnad proses ffurfio patrymau treiglo yn y newidiadau seiniol. Ceir isod ddisgrifiad o'r trawsnewid a ddigwyddodd i enwau ac ansoddeiriau'r Frythoneg.


Colli cyflyrau

golygu

Roedd cyflyrau goddrychol, gwrthrychol a genidol i enwau Brythoneg, a'r rheini'n wahanol ar gyfer enwau unigol, deuol a lluosog, e.e. y Frythoneg am yr enw 'bardd' yw [2]:

Cyflwr unigol lluosog
goddrychol       bardos bardī
gwrthrychol       bardon       bardōns neu bardōs
genidol       bardī bardon

Roedd cyflyrau tebyg hefyd i'r ansoddeiriau. Byddai terfyniadau ansoddeiriau a rhifolion yn amrywio i ddangos cenedl gair a allai fod yn wrywaidd, benywaidd neu ddiryw megis trumbos (gwrywaidd), trumba (benywaidd), trumbon (diryw). Collwyd y terfyniadau hyn oherwydd yr acen cryf a ddatblygodd ar y sillaf olaf ond un, gan atal y sillaf olaf rhag cael ei hyngan; e.e. enwau bardosbardd, maposmab, ansoddeiriau u̯indosgwyn, u̯indagwen, trumbostrwm, trumbatrom, rhifolion oinosun. Collwyd y genedl ddiryw.

Cyfnewidiadau seiniol

golygu

Newidiwyd rhai o'r llafariaid a'r cytseiniaid a rhai cyfuniadau o lythrennau, lle y byddai ynganiad y gair Cymraeg yn ddiymdrech o'i gymharu â'r wreiddiol Frythoneg. Byddai t yn troi'n th ar ôl r megis yn nertonnerth ond byddai llafariad+t+r yn achosi i'r t droi'n d megis yn natrīcsneidr.

Newidiwyd y llafariaid fel a ganlyn:

āaw, o; īi, üi; aeoe; eiwy; oiu; auu, aw, au

Newidiwyd ar ddechrau gair i gw, e.e. u̯indosgwyn. Weithiau byddai'r seiniau yn newid lawer gwaith, e.e. brĭctosbrĭchtosbrĭchthosbrĭghthosbrĭi̯thosbrithosbrith. Byddai llafariad yn gallu dylanwadu ar lafariad gyfagos gan achosi newid mewn proses a elwir yn affeithiad. Câi y llafariad gyntaf ei newid fel bod siâp y geg yn debycach i siâp y geg wrth yngan yr ail lafariad, e.e. affeithiodd yr ā yn uĭndā yr ĭ yn y sillaf o'i blaen a'i throi'n e yn uendā. Troes hwnnw yn gwen.

Adeiladu ffurfiau gramadegol newydd

golygu

Byddai gwahanol gyflyrau gair yn newid mewn gwahanol ffyrdd yn ôl y cyfuniadau llafariaid yn y geiriau, e.e. troes bardos (unigol enwol) yn bardd (dim newid yn y llafariad). Troes bardi (lluosog enwol) yn beirdd (yr i ar ddiwedd bardi yn affeithio'r a a'i newid yn ei, wedyn y terfyniad yn cael ei golli). Yn y ffordd hon, wedi colli'r terfyniadau rheolaidd Brythoneg ar eiriau, ffurfid patrymau newydd o ffurfiau unigol/lluosog. Pan fyddai colli terfyniad yn creu unigol a lluosog yn gywir yr un fath byddai siaradwyr yn cymathu'r gair i un o'r patrymau unigol/lluosog newydd, e.e. ceiliog/ceiliogod yn dilyn y patrwm a fodolai eisoes o ychwanegu –od i ffurfio lluosog.

Terfyniad –ā oedd i ffurf fenywaidd ar ansoddair yn y Frythoneg. Affeithid llafariad fôn y gair gan yr –ā derfynol, e.e. dŭbnādofn (o'i gymharu â'r newid yn y ffurf wrywaidd dŭbnosdwfn). Gwelwn ddechrau ffurfio patrymau newydd i wahaniaethu rhwng ansoddeiriau benywaidd a gwrywaidd yn tyfu o'r hen derfyniadau Brythoneg. Yn yr un modd byddai'r terfyniad i ar ffurf luosog ansoddair yn affeithio'r llafariad yn y sillaf blaenorol ac yna weithiau'n newid ei hunan gan greu patrymau newydd i'r ffurf luosog ar ansoddair. Yn Gymraeg heddiw lluosog dwfn yw dyfnion.

Rhai patrymau treiglo

golygu

Gallai'r newidiadau yn y seiniau effeithio ar seiniau mewn cyfuniadau o eiriau yn ogystal ag o fewn un gair. E.e. byddai m yn troi'n f pan fyddai'r ddwy lafariad a o'i amgylch: abŏna māraafona fāraafon fawr. Gan fod llawer o enwau benywaidd yn y Frythoneg yn terfynu gyda'r llafariad a dyma ddechrau ffurfio patrwm o dreiglo cytsain flaen yr ansoddair dilynol. Parhaodd y treiglad wedi i'r geiriau golli'r llafariad derfynol. Gyda threigl amser cymhwyswyd y patrwm i'r holl ansoddeiriau a ddilynent enwau benywaidd (proses o gydweddiad) gan ffurfio 'rheol' bod ansoddair yn treiglo'n feddal ar ôl enw benywaidd.

Terfynai ffurf enwol enw yn y rhif deuol yn y Frythoneg mewn llafariad. Megis gyda'r ansoddeiriau yn dilyn enwau benywaidd ffurfiwyd treiglad meddal mewn ansoddair yn dilyn enw deuol. Dyma wraidd y patrwm Cymraeg o dreiglo enw wedi'r rhif dau neu dwy.

Gweler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • Henry Lewis, Datblygiad yr Iaith Gymraeg (Prifysgol Cymru, 1931)
  • T Arwyn Watkins, Ieithyddiaeth: Agweddau ar Astudio Iaith (Prifysgol Cymru, 1961)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Yn ystod y 19eg ganrif dechreuwyd astudio hanes datblygiad ieithoedd a'r perthynas rhyngddynt. Cymerwyd y dystiolaeth ysgrifenedig a oedd ar gael, a'i chymharu â'r hyn a oedd ar gael ar gyfer ieithoedd eraill a ddyddiai o'r un adeg hanesyddol. Dilynwyd felly hynt iaith ar hyd yr oesau. O ddeall patrymau newid ieithyddol mae modd ail-lunio ieithoedd diflanedig. Mae ieitheg gymharol yn adeiladu ar dystiolaeth enwau llefydd a phobl Brythonig, ac ambell i enw cyffredin a gofnodwyd yn Lladin neu yng Ngroeg. Y technegau hyn sydd wedi galluogi ieithyddion i ddirnad peth o eirfa a gramadeg y Frythoneg.
  2. Defnyddir confensiwn ieithegwyr sef yr Wyddor Seinegol Gydwladol i gyfleu seiniai ar bapur fel a ganlyn:
    • Dynoda ac i-gytsain ac w-gytsain fel y'i ceir yn iach, y wasg
    • Dynoda ˉ ar ben llafariad lafariad hir fel y'i ceir yn haf, hedd, gof, hir, dyn
    • Dynoda ˘ ar ben llafariad lafariad fer iawn fel y'i ceir yn cwt, het, hap
    • Dynoda ˜ ar ben llafariad bod iddo sain drwynol fel y'i ceir yn dianc