Jeremy Corbyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 40:
Mae ef yn [[Aelod Seneddol]] [[Y Blaid Lafur (DU)|Llafur]] dros etholaeth [[Islington|Gogledd Islington]] ym [[Llundain]] ers [[9 Mehefin]] [[1983]]<ref>[http://www.parliament.uk/biographies/commons/jeremy-corbyn/185 www.parliament.uk]</ref> ac mae wedi ei ail-ethol ym mhob Etholiad Cyffrediol ers hynny. Ar 12 Medi 2015 cafodd ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur sef yr wrthblaid.<ref>{{Cite web|title = Jeremy Corbyn MP|url = http://www.parliament.uk/biographies/commons/jeremy-corbyn/185|website = UK Parliament|accessdate = 21 Gorffennaf 2015}}</ref> Mae hefyd yn aelod o'r Grŵp Sosialaidd (y ''Socialist Campaign Group''), yr Ymgyrch dros Balesteina (''Palestinian Solidarity Campaign''), [[Amnest Rhyngwladol]], yr [[CND|Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear]] ac ef yw Cadeirydd cenedlaethol ''Stop the War Coalition.'' Yn dilyn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2019|etholiad cyffredinol 2019]] lle na lwyddodd ennill mwyafrif i'r Blaid Lafur, penderfynodd sefyll lawr fel arweinydd. Cynhaliwyd gornest i ethol arweinydd newydd a daeth [[Keir Starmer]] yn arweinydd newydd ar 4 Ebrill 2020.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/prydain/566040-keir-starmer-arweinydd-newydd-blaid-lafur|teitl=Syr Keir Starmer yw arweinydd newydd y Blaid Lafur|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=4 Ebrill 2020}}</ref>
 
Fe'i ganed yn [[Chippenham]], [[Wiltshire]], Lloegr, a bu'n fyfyriwr yn ''North London Polytechnic''. Ar ôl gadael, cychwynodd weithio i Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Cyhoeddus ac yna'r ''National Union of Tailors and Garment Workers''. Ond yn 1974 y dechreuodd ei yrfa wleidyddol, pan gafodd ei ethol yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeisdrefol Haringey, Llundain. Yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1983|Etholiad cyffredinol 1983]] fe'i etholwyd yn [[Aelod Seneddol]] dros Ogledd Islington ac mae wedi dal ei afael yn y sedd ers hynny.
 
Galwa'i hun yn 'Sosialydd Democrataidd' ac mae'n cytuno gydag ailgenedlaetholi gwasanaethau cyhoeddus a rheilffyrdd ac ailagor rhai [[glo|pyllau glo]]. Mae'n credu hefyd y dylid bod yn fwy llawdrwm ar dwyllwyr treth yn hytrach na dilyn polisi 'toriadau llymder', fel roedd ei blaid ei hun yn ei argymell cyn ei benodi'n Arweinydd. Roedd llawer o'i syniadau'n perthyn yn nes at bolisiau'r [[SNP]] nag i'r Blaid Lafur. Lleisiodd ei farn droeon yn erbyn ffioedd myfyrwyr, gan droi'r cloc yn ôl ac ailgyflwyno'r system grantiau. Fel Tony Benn o'i flaen, bu hefyd yn dadlau dros y blynyddoed dros ddiarfogi niclear a [[lliniaru meintiol]] er mwyn ariannu prosiectau amgylcheddol adnewyddol.