David Jones (Llan-gan): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →Teulu |
B Gwybodlen Wicidata using AWB |
||
Llinell 2:
Roedd '''David Jones''' ([[10 Gorffennaf]] [[1736]] - [[12 Awst]] [[1810]]) yn [[offeiriad]] Cymreig, cafodd dylanwad mawr ar ddatblygu a lledaenu Methodistiaeth cynnar yng [[Cymru|Nghymru]] <ref>[https://bywgraffiadur.cymru/article/c-JONE-DAV-1736 David Jones - Y Bywgraffiadur Cymreig]</ref><ref>[https://doi.org/10.1093/ref:odnb/14992 David Jones - Bywgraffiadur Rhydychen]</ref>. Roedd yn cael ei adnabod fel ''Angel Llan-gan''.
==Cefndir==
Ganwyd Jones yn Aber Ceiliog ym mhlwyf [[Llanllwni]], [[Sir Gaerfyrddin]], yn fab i Richard Jones (ffermwr) a Gwenllian ei wraig. Syrthiodd i mewn i faril o [[Llaeth|laeth]] berwedig pan oedd yn blentyn ifanc, wnaeth ei adael hogyn ychydig yn eiddil. O ganlyniad, penderfynwyd y dylai fynd i mewn i'r eglwys yn hytrach na gweithio ar fferm ei dad.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin.
Llinell 13 ⟶ 12:
Ordeiniwyd Jones yn ddiacon yn [[Eglwys Loegr]] ym 1758. Gwasanaethodd am gyfnod byr fel curad [[Tudweiliog]] (1758-9) ac yna yn [[Llanafan Fawr]], [[Sir Frycheiniog]] (1759-60) cyn ei ordeinio’n offeiriad ym mis Awst 1760. Ym 1761 fe symudodd i guradiaethau [[Trefddyn]] a [[Cil-y-coed|Chil y coed]], [[Sir Fynwy]], lle daeth o dan ddylanwad y mudiad efengylaidd. Symudodd i [[Bryste|Fryste]] ac yna i Crudwell yn [[Wiltshire]]. Yn ystod y cyfnod hwn yn Lloegr y cyfarfu â Selina, iarlles Huntingdon. Defnyddiodd iarlles Huntingdon ei dylanwad gael bywoliaeth [[Llan-gan, Bro Morgannwg|Llan-gan]] iddo gan yr Arglwyddes Charlotte Edwin ym 1767.
Yn Llan-gan daeth Jones yn adnabyddus am ei allu fel pregethwr efengylaidd.
==Teulu==
Llinell 19 ⟶ 18:
==Marwolaeth==
Bu farw ym Maenorowen ar 12 Awst 1810, y flwyddyn cyn i'r mudiad Methodistaidd sefydlu ei hun yn enwad ar wahân i Eglwys Loegr. Cafodd ei gladdu ym Maenorowen.
==Cyfeiriadau==
|