Altneuland: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Holder (sgwrs | cyfraniadau)
B corr
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Altneuland.jpg|250px|dde|Clawr ''Altneuland'', 1902]]
Mae ''''Altneuland'''' yn nofel iwtopaidd, [[dyfodoliaeth]] gan y newyddiadurwr a'r ymgyrchwyddymgyrchydd [[Seioniaeth|Seionistaidd]] Iddewig, [[Theodor Herzl]] (1860-1904), a gyhoeddwyd gyntaf yn yr Almaeneg 1902 yn Leipzig.<ref>"Altneuland" - Cyhoeddiad gyntaf yn Iddeweg - Warsaw, 1902. Kedem Auctions,[https://www.kedem-auctions.com/content/altneuland-first-yiddish-edition-warsaw-1902 2018]</ref> acCafodd fewncyfieithiad i[[Iddew-Almaeneg]] a chyfieithiad [[Hebraeg]] gan Nahum Sokolow feldan y teitl '''''Tel Aviv''''' תֵּל־אָבִיב (hefydeu Warsaw,cyhoeddi 1902)yn yr un flwyddyn, ill ddau yn [[Warsaw]].<ref>"Tel Aviv" - First Hebrew Translation of Theodor Herzl's "Altneuland". Kedem Auctions,[https://www.kedem-auctions.com/content/tel-aviv-first-hebrew-translation-theodor-herzls-altneuland 2016]</ref> Cyhoeddwyd fel '''The Old New Land''' yn y Saesneg yn 1902
 
Herzl oedd un o brif ladmeryddion [[Seioniaeth]] wleidyddol. Cyhoeddwyd Altneuland chwe blynedd ar ôl ei lyfr ffeithiol a chysyniadol, ''[[Der Judenstaat]]'' ("Y Wladwriaeth Iddewig") ar sut oedd creu gwladfa Iddewig ym Mhalesteina (neu man arall).
Llinell 9:
==Stori==
[[Delwedd:Herzl22.jpg|bawd|Theodor Herzl]]
Mae'r nofel yn adrodd hanes Friedrich Löwenberg, deallusyn a chyfreithwirchyfreithiwr ifanc Iddewig yn Fienna sydd wedi blino â bywyd ffals, llesg Ewrop ac yn penderfynnupenderfynu ymuno ag uchelwr Prwsiaidd Americanaidd o'r enw Kingscourt sy'n edrych am gwmni gydag ef (gyda'r holl dreuliau wedi eu talu) iddo ymddeol i ynys o bellennig y Môr Tawel (fe'i crybwyllir yn benodol fel rhan o'r [[Ynysoedd Cook]], ger Rarotonga) ym 1902. Mae Löwenberg yn gwerthu ei eiddo ac yn rhoi hynny o arian sydd ganddo yn gardod i Iddew ifanc dlawd, David Littwak a gwrddodd mewn caffe.
 
Wrth deithio i'r Dwyrain mae Löwenberg a Kingscourt yn galw ym mhorthladd [[Jaffa]] ym [[Palesteina|Mhalesteina]], oedd ar y pryd yn rhan o [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] (ac fel gwnaeth Herzl ei hun yn 1898). Maent yn canfod Palesteina yn wlad diffrwyth, dlawd, fel y gwnaeth i Herzl yn ystod ei ymweliad.
Llinell 15:
Mae Löwenberg a Kingscourt yn treulio'r ugain mlynedd ganlynol ar yr ynys, yn fwriadol wedi eu dad-gysylltu oddi wrth wareiddiad. Wrth ddychwelyd i'r Gorllewin maent, unwaith eto'n galw ym Mhalesteina a hynny am fod camlas newydd wedi ei hagor drwyddi gan danseilio pwysigrwydd [[Camlas Suez]]. Mae hi bellach yn 1923 ac maent yn canfod ym Mhalesteina gwlad wedi'i drawsnewid yn sylweddol.
 
Mae gwladwriaeth Iddewig, a enwir yn swyddogol y "Gymdeithas Newydd", wedi codi ers i Iddewon Ewrop ail-ddarganfod ac ail-fywio yn eu 'Altneuland' ("hen wlad newydd"), gan adennill eu hunanbarchhunan barch eu hunain yn eu tir ei hunain, Israel. Yn y wlad, y mae ei Löwenberg yn bwrw fewn iar hen gydnabyddwyrgydnabod o Fienna, megis Littwak y cardotyn. Maent, fel gweddill y trigolion bellach yn ffyniannus ac yn boblogaidd, yn ymfalchïo mewn diwydiant cydweithredol ffyniannus yn seiliedig ar dechnoleg ddiweddaraf, ac mae'n gartref i gymdeithas fodern, rydd a chosmopolitan. Mae gan yr Arabiaid hawliau cyfartal llawn gydag Iddewon, gyda pheiriannydd Arabaidd ymysg arweinwyr y Gymdeithas Newydd, ac mae'r rhan fwyaf o fasnachwyr yn y wlad yn Armeniaid, Groegiaid ac aelodau o grwpiau ethnig eraill. Mae'r deuawd yn cyrraedd adeg ymgyrch etholiad cyffredinol, lle mae rabbi ffosiynolffasiynol yn sefydlu llwyfan gwleidyddol yn dadlau bod y wlad yn perthyn i Iddewon yn unig ac yn gofyn i ddinasyddion anewnad Iddigydynt yn Iddewon gael eu diddymuhamddifadu o'u hawliau pleidleisio, ond yn cael eu trechu yn y pen draw.
 
===Themâu===
Llinell 21:
Fel pob nofel iwtopaidd, cerbyd yw'r stori ar gyfer cyflwyno agenda wleidyddol a chymdeithasol. Mae'r cymeriadau, at ei gilydd, yn gymeriadau stoc heb fod llawer o ots am eu datblygiad fel bodau llawn. Prif bwrpas y llyfr, fel [[Wythnos yng Nghymru Fydd]] gan [[Islwyn Ffowc Elis]] yw cyflwyno agenda a maniffesto ar ffurf haws a mwy phoblogaidd i'w darllen ar gyfer aelodau'r cyhoedd na fyddai fel rheol yn darllen pamffledi gwleidyddol. Mae ffurf ffuglennol y nofel hefyd yn rhoi rhyddid i'r awdur, yn wahanol i'w waith flaenorol, ''Der Judenstaat'' i beidio gorfod cyfiawnhau pob polisi neu ddyhead. Nofel iwtopaidd yw hi wedi'r cyfan.
 
Cig y nofel yw disgrfio'r Gymdeithas Newydd gan ddangos yr hyn gall yr Iddewon ei gyflawni wrth sefydlu gwladwriaeth yn Israel ac fel ffenest siop i'r darllennydddarllenydd Iddewig a chenedl-ddyn y byddai sefydlu gwladwriaeth o'r fath o les i bawb ac heb fod yn fygythiad i drefn y byd na buddiannau llywodraethau na phobl yn fyd-eang nac yn lleol.
 
==Y "Gymdeithas Newydd"==
Rho Herzl ran helaeth o'r nofel i geisio disgrifio cystal peth fyddai sefydlu Gwladwrieth Iddewig ym Mhalesteina. Efallai, gyda llygad ar ddryswch a chymlethdodchymhlethdod y fenter, mae'n galw'r fenter yn 'Gymdeithas Newydd' yn hytrach na'r 'Judenstaat'.
 
Mae rhan helaeth o'r nofel yn disgrifio'r seilwaith a'r strwythur cymdeithasol. Mae'r ''Neue Gesellschaft für die Kolonisierung von Palästina'' ("Cymdeithas Newydd ar gyfer GwladychGwladychu Palesteina") yn rheoleiddio mewnfudo a goruchwilio busnes a rheoli cynllunio trefol, addysg, diogelwch mewnol a gofal iechyd. Fodd bynnag, nid yw'n wladwriaeth sofran ond yn hytrach yn debycach i gorfforaeth fawr sy'n gweithredu mewn modd cydweithredol ac sydd wedi dod i gytundeb gyda'r Ymerodraeth Otomanaidd ac sy'n talu treth dlynyddolflynyddol i'r llywodraeth yn Istanbul i gael yr hawl i weithredu. Dewisodd Herzl y drefn hon ar ôl i ddysgu am amheuon a phryder y llywodraethwyr Otomaniaidd oherwydd gwrthwynebiad y boblogaeth Arabaidd i wladwriaeth Iddewig ym Mhalestina yn ystod ei ymweliad.
 
==Economi==
Mae'r economaidd yn seiliedig yn sylfaenol ar eiddo preifat a'r farchnad rydd, sy'n bennaf wedi eu nodweddu gan gwmnïau mawr a chwmniauchwmnïau cydweithtredolcydweithredol. Fodd bynnag, mae'r tir yn eiddo'n unig i'r "Gymdeithas Newydd" a gall gan y perchnogion ond ddal y tir am hanner can mlynedd (sy'n debyg gysyniad y Jiwbilî yn yr Hen Destament). Gwneir hyn er mwyn osgoi crynhoi tir ac arian mewn llond llaw o ystadau mawrion gan achosi tlodi.
 
Mae'r nofel yn amlinellu trefn y gwladychu a datblygu'r economi. Y cyntaf i fudo yw'r gweithwyr di-grefft sydd yn clirio a pharatoi'r tir diffaith o dan arweiniad peirianwyr. Nhw felly sydd wedi sefydlu isadeiledd sylfaenol y wlad. Mae Herzl yn mynd i'r drafferth i nodi yn y llyfr fod coed [[ewcalyptws]] wedi sychu'r corsydd malaria. Yr haen nesaf i gyrraedd yw canghennau o gwmnïau siopau cadwyn ac adrannol. Mae'r rhain yn fwy effeithiol ym marn Herzl ac yn cael gwared ar yr angen am fan siopwyr, sydd, efallai'n arwydd o stigma yr Iddew ac aneffeithlonrwydd ym marn Herzl. Yn dilyn wedyn mae haen uchaf y gymdeithas. Dydy Herzl ddim yn bell ohoni y ei drefn heblaw, yn hytrach na gweithwyr di-grefft a gliriodd y tir a'r corsydd, deallusondeallusion ifanc (os di-grefft) ac nid gweithwyr di-grefft (llafurwyr) oedd trwch aelodau'r [[Aliyah]] cyntaf ac ail.<ref>https://www.jewishvirtuallibrary.org/immigration-to-israel</ref>
 
Yn y nofel, mae'r rhan fwyaf o fentrau busnes wedi'u trefnu'n gydweithredol. Felly, ceir papurau newydd perthnasol a "phapurau newydd Ffôn" (rhagflaenydd y radio, gweler théâtrophone) lle mae'r elw yn cael ei dalu yn flynyddol i'w danysgrifwyr. Mae Herzl yn tybio y bydd hyn yn hyrwyddo newyddiaduraeth ddifrifol. Yn ogystal, mae yna bapurau newydd mewn perchnogaeth breifat, ond maent wedi ymrwymo i fuddiannau gwleidyddol arbennig eu perchnogion.
Llinell 51:
Datblygiad iwtopaidd arall gan Herzl yw fod pobl yn swyddfeydd uchaf y Gymdeithas Newydd ddim yn cael eu llenwi gan bobl sy'n rhoi eu hunain ger bron etholiad ond yn hytrach cael eu dewis ar sail eu perfformiad a phersonoliaeth. Mae unrhyw un sy'n rhedeg ymgyrch etholiadol neu weithredol hyrwyddo yn ddatgymhwyso ei hun gan y ffaith yma. Ar ddiwedd y nofel felly, gwelir fod David Littwak wedi ei ddewis i Gynulliad y cynrychiolwyr yn y 'Gymdeithas Newydd' yn ei absenoldeb ac heb wybod iddo.
 
O ran iaith y GymdeithsGymdeithas Newydd., Maemae Herzl yn cydnabod y bydd yr Iddewon yn siarad Almaeneg, Hebraeg neu Iddeweg a'r gymdeithas yn aml-ieithog ond, nid yw'n glir beth yw'r brif iaith. Mae'r Gymdeithas yn cadw at arferion a 'safonnau' bwrgais dosbarth canol Ewropeaidd gan fynychu'r opera a'r theatr yn gwisgo menygmenig gwynion i'r opera, fel nodir ganddo.
 
Nid yw crefydd yn chwarae rôl arbennig o flaenllaw yn Hen Wlad Newydd. Er bod Herzl yn gadael y Deml yn Jerwsalem yn cael ei hailadeiladu nid oes fawr o drafod ar y pwnc. Ar wahân i'r deml, ceir [[synagog]]au, eglwysi a [[mosg]]iau, ac yn y porthladdoedd mawrion hefyd temlau Bwdhaidd a Hindŵaidd. Bydd y Twrc, Reschid Bey yn cymryd rhan yn seremoni Seder yn Littwaks. Ceir cyfeiradcyfeiriad bychan i rôl rabbi gwrth-Seionistaidd a gwrth-Cymdeithas Newydd, sy'n gydnabyddiaeth o'r gwrthwynebiad oedd o du nifer o'r gymuned Iddewig Uniongred i sefydlu gwladfa yn Israel.
 
==''Tel Aviv''==
CyfieithwyrCyfieithwyd ''Altneuland'' o fewn y flwyddyn i'r Saesneg a'r Hebraeg. Gwnaethpwyd y cyfieithiad Hebraeg gan Nahum Sokolow a rhoddodd i'r nofernofel y deitl farddol, ''Tel Aviv'' (תֵּל־אָבִיב); sef ''Tel'' (twmpath aneddiad hynafol) yn sefyll am "hen" ac ''Aviv'' (Gwanwyn) am "newydd".<ref>http://www.haaretz.com/jewish/books/zionism-according-to-theodor-herzl-1.24821</ref> Roedd y cyfieithydd yn adnabod yr enw o'r llyfr Beiblaidd [[Eseciel]], lle mae'n cyfeirio at le yn Babylon lle'r oedd yr Iddewon wedi cael ei hailsefydlu (Esec 3:15). Enwyd dinas Tel Aviv, a sefydlwyd ym 1909, ar ôl y llyfr.
 
==Dylanwad ar Gymru==
Mae'n nofel [[dyfodoliaeth]] yma wedi bod yn sail ac ysbrydoliaeth i nofel wleidyddol genedlaetholaiddgenedlaetholgar, ''[[Wythnos yng Nghymru Fydd]]'' gan [[Islwyn Ffowc Elis]]. Ceisiodd Elis bortreadu Cymru y dyfodol iwtopaidd a hefyd Cymru distopiaidd. Fel Herzl, bwriad y nofel oedd hyrwyddo agenda wleidyddol, sef creu gwladwriaeth annibynnol Gymraeg ei hiaith.
 
Chwaraeir ar ystyr y teitl, '[[Hen Wlad Newydd]]' yn llyfr [[Judith Maro]], Iddewes a symudodd i Gymru yn 1947 wedi iddi fod yn rhan o frwydr annibyniaeth y wlad. Yn y llyfr maenmae'n cynnig awgrymiadau ar adeiladu y mudiad cenedlaethol yng Nghymru ar sail llwyddiant yr Iddewon yn Israel.<ref>https://www.independent.co.uk/news/obituaries/judith-maro-writer-and-jewish-patriot-who-fought-with-haganah-in-palestine-6272185.html</ref>
 
==Dolenni==