Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 1 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
gramadeg
[[Plaid wleidyddol]] a dyfodd allan o blaid y [[Wigiaid]] i fod yn un o dair plaid fawr y [[DU]] oedd y '''Blaid Ryddfrydol'''. Unodd y blaid â'r [[SDP]] yn yr wythdegau i ffurfio blaidplaid newydd y [[Democratiaid Rhyddfrydol]].
 
Uchafbwynt [[hanes]] y blaid oedd o ganol y [[19eg ganrif]] hyd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] dan y [[Prif Weinidog|prif weinidogion]] Rhyddfrydol [[William Ewart Gladstone]], Sir [[Henry Campbell-Bannerman]], [[Clement Asquith]] a [[David Lloyd George]]. Yn y cyfnod hwnnw y Rhyddfrydwyr oedd y blaid fwyaf o lawer yng [[Cymru|Nghymru]] ac yn rhan o'r mudiad [[Radicaliaeth yng Nghymru|Radicalaidd]] oedd yn galw am [[ymreolaeth]] i Gymru ac [[Iwerddon]]. Arweiniodd anghydfod rhwng Lloyd George ac Asquith at ymraniad yn y blaid ar ôl y Rhyfel Mawr a chollodd y Rhyddfrydwyr dir i'r [[Plaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] a gymerodd le'r Rhyddfrydwyr fel [[gwrthblaid]] yn [[1922]].
 
Mwynheodd y blaid gyfnod o adfywiad dan arweinyddiaeth [[Jo Grimond]] ([[1956]]-[[1957]]) ac wedyn [[Jeremy Thorpe]] ([[1967]]-[[1976]]) tan i'r olaf orfod ymddiswyddo yn sgîl [[sgandal]] am ei fywyd personol. Dan [[David Steel]] daeth y blaid mewn cytundeb â'r Blaid Lafur a ffurfiwyd y [[Pact Lib-Lab]] i gadw'r [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Torïaid]] allan o [[llywodraeth|lywodraeth]] ([[1977]]-[[1978]]). Yn [[1981]] ffurfiwyd cynghrair gyda'r [[SDP]] a arweiniodd yn y pen draw iat lawnsio plaid newydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
 
 
9,149

golygiad