Y Llenor (1922-55): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cats
Tagiau: Golygiad cod 2017
BDim crynodeb golygu
Llinell 6:
Cyhoeddwyd saith rhifyn cyntaf y [[cylchgrawn]] gan [[Y Cwmni Cyhoeddi Addysgol]], [[Caerdydd]], ac ar ôl hynny gan [[Hughes a'i Fab]], [[Wrecsam]].
 
Amcan ''Y Llenor'', yn ôl W. J. Gruffydd, oedd "darparu a hyrwyddo'r diwylliant llenyddol uchaf, a rhoddi i lenorion Cymru le y cyhoeddir eu gwaith ar un amod yn unig, sef teilyngdod llenyddol". I'r perwyl hwnnw, cyhoeddwyd llu o erthyglau beirniadol a chreadigol gan rai o lenorion amlycaf y cyfnod, yn cynnwys [[Ambrose Bebb]], [[R. G. Berry]], [[Saunders Lewis]], [[Robert Thomas Jenkins|R. T. Jenkins]], [[D. Myrddin Lloyd]], [[D. Tecwyn Lloyd]], [[T. H. Parry-Williams]], [[Ffransis G Payne]], [[Iorwerth Cyfeiliog Peate|Iorwerth C. Peate]], [[Kate Roberts]], a [[Griffith John Williams|G. J. Williams]], yn ogystal â W. J. Gruffydd ei hun.
 
Gadawodd ''Y Llenor'' fwlch mawr ym mywyd llenyddol y wlad ar ei ôl pan ddaeth i ben yn 1955. Yn [[1961]], fodd bynnag, dechreuwyd cyhoeddi ''[[Taliesin (cylchgrawn)|Taliesin]]'' fel olynydd teilwng iddo.