Germaniaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B gwa
Tagiau: Golygiad cod 2017
Torvalu4 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{cys-gwa|Pwnc yr erthygl hon yw'r bobloedd hanesyddol. Am y bobloedd fodern sydd yn siarad ieithoedd Germanaidd, gweler [[pobloedd Germanaidd]].}}
[[Delwedd:MarcusAureliusSacrificeRelief.jpg|200px|bawd|Yr ymerodr [[Marcus Aurelius]] a'i deulu'n offrymu mewn diolch am fuddugoliaeth yn erbyn llwythau Germanaidd]]
Y '''Germaniaid''' ([[Lladin]]: '''Germani''') oedd y bobloedd hanesyddol oedd yn byw yng [[Germania|Ngermania]]. Roeddynt yn ffurfio mwyafrif y boblogaeth yn yr ardal honno ond rhannant ran o'r diriogaeth â llwythau [[Celtiaid|Celtaidd]], ynghyd â [[ScythiaidSgythiaid]] a [[Slafiaid]] yn y dwyrain. Yn ôl yr hanesydd [[Tacitus]] yn ei lyfr ''[[Germania (llyfr)|Germania]]'', defnyddiai'r [[Rhufeiniaid]] yr enw i gyfeirio at y llwyth cyntaf i groesi [[Afon Rhein]] ond daeth i gael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r holl lwythau cytras oedd yn byw yr ochr arall i'r afon yn ogystal.
 
Roedd [[cymdeithas]] y Germaniaid yn seiliedig ar batrymau llwythol dan benaethiaid a [[Brenhiniaeth|brenhinoedd]] traddodiadol. Ar sawl ystyr roedd eu [[diwylliant]] a'u ffordd o fyw yn agos i eiddo'r Celtiaid, eu cymdogion, ac yn rhan o etifeddiaeth ieithyddol, crefyddol a diwylliannol a oedd yn cynnwys pobloedd [[Indo-Ewropeaidd]] eraill fel yr [[Italiaid]], y [[Groegiaid]] a'r pobloedd [[Indo-Iraniaid|Indo-Iranaidd]] yn gyffredinol.