Tarddiad gwerin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat Tagiau: Golygiad cod 2017 |
cyfeiriad at GPC ayyb |
||
Llinell 1:
Mae '''tarddiad gwerin''' yn cyfeirio at ddadansoddiad o [[geirdarddiad|darddiad]] gair sy ddim yn gyson â'i darddiad hanesyddol. Yn aml mae tarddiadau gwerin yn ymddangos oherwydd bod siaradwyr yn gweld neu yn dychmygu tebygrwydd rhwng geiriau sy'n awgrymu perthynas rhyngddynt, er nad oedd perthynas o'r fath yn hanesyddol. Mae rhai tarddiadau gwerin yn dod yn lled gyffredin. Gall tarddiad gwerin arwain at newid i ffurf y gair i adlewyrchu'r dadansoddiad newydd ohono neu ffurfiau newydd eraill wedi'u seilio ar y dadansoddiad. Er enghraifft:
* Mae'r gair ([[Tafodiaith|tafodieithol]]) [[Cymraeg]] ''cadben'' neu ''cadpen'' yn adlewyrchu ffrwyth tarddiad gwerin. [[Benthycair|Benthyciad]] ydyw o'r [[Saesneg]] ''captain'' fel ''capten'', wedi'i ddeall fel [[gair cyfansawdd]] o ''cad'' 'brywdr' a ''pen'' 'arweinydd' ac yn newid ei ffurf i adlewyrchu hyn.<ref>{{dyf
* Cafodd y gair ''mwnci'' ei ddeall fel gair cyfansawdd o ''mwng'' a ''ci'' mewn rhai [[tafodiaith|tafodieithoedd]], er enghraifft [[tafodiaith Bangor|Bangor]]
Mae'r newidiadau hyn yn fath ar [[cydweddiad|gydweddiad]]. Gwelir tarddiad gwerin weithiau fel camgydweddiad.
Llinell 9:
Ceir tarddiad gwerin yn lled aml mewn llawer o ieithoedd. Ymysg enghreifftiau eraill y mae:
* Mae siaradwyr [[Saesneg]] wedi dadansoddi'r gair ''hamburger'', a fenthyciwyd yn wreiddiol o'r [[Almaeneg]] lle daw o enw'r ddinas [[Hamburg]], fel gair cyfansawdd o ''ham'' ac elfen anhysbys ''burger''. O ganlyniad rhoddwyd yr ystyr 'cacen gig' i ''burger'' gan greu geiriau newydd megis ''cheeseburger'' neu ''fishburger''
* Camsillafir y gair Saesneg ''harebrained'' yn aml fel ''hairbrained''. Mae'r sillafiad newydd yn adlewyrchu tarddiad gwerin sy'n awgrymu'r ystyr 'ag ymennydd o wallt' yn lle'r tarddiad hanesyddol 'ag ymennydd fel ymennydd ysgwarnog'
==Ffynonellau==
*Campbell, Lyle. 1998. ''Historical linguistics: An introduction''. Caeredin: Edinburgh University Press, 100–102 ('Folk etymology').
*Fynes-Clinton, O. H. 1913. ''The Welsh vocabulary of the Bangor district''. Rhydychen: Oxford University Press.
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Ieithyddiaeth hanesyddol]]
|