Sgwrs:Biwmares: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 18:
:Wedi gwneud hyn bellach [[Defnyddiwr:D22|D22]] 22:05, 22 Awst 2006 (UTC)
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
----
 
Nid yw Biwmares yn gywir - nid oes sillafiad Cymraeg (na Saesneg) i'r dref. Beaumaris ydi'r unig sillafiad a byddwn yn pwyso'n gryf i newid hyn ar holl erthyglau'r dref ar Wiki Cy [[Defnyddiwr:Blogdroed|Blogdroed]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Blogdroed|sgwrs]]) 14:39, 22 Ebrill 2018 (UTC)
 
: Fel rhywun sy'n byw yn y dref ac un sy'n ymwneud â sefydliadau yn y dref, nid oes unrhyw un yn defnyddio'r sillafiad "gwneud" yma. Ac mae'r erthygl yn dweud mai enw "Saesneg" ydi Beaumaris ... byddwn i'n dadalau mai Normanaidd ydi o! [[Defnyddiwr:Blogdroed|Blogdroed]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Blogdroed|sgwrs]]) 09:14, 30 Ionawr 2021 (UTC)
 
::Rwy'n cymryd eich pwynt. Ond mae'r mater o sillafu enwau lleoedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Fôn. Mae'n rhaid i ni barchu'r sillafiad sy'n cael ei ddefnyddio gan drigolion y dref, ond nid dyna'r unig ffactor. Nid oes unrhyw un sy'n byw yn Tsieina yn ei galw'n "Tsieina" (neu "China" chwaith!). Beth sy'n bwysig yw nid yr hyn y ''dylid'' ei alw'n lle, ond y ffurf rydych chi'n debygol o ddod ar ei draws wrth ddarllen llyfr neu adroddiad newyddion, neu beth bynnag.
 
::Yn anffodus, nid yw Gwefan Comisiynydd y Gymraeg yn gweithio ar hyn o bryd (o achos yr ymosodiad seiber ym mis Rhagfyr), felly ni allaf edrych ar y rhestr swyddogol o enwau lleoedd er mwyn gweld beth mae'r llywodraeth yn ei ddweud.
 
::Rwy'n credu ei bod yn rhesymol dweud bod "Beaumaris" yn air Saesneg. Dyna'r sillafiad y byddech chi'n ei ddefnyddio pe byddech chi'n ysgrifennu Saesneg. Efallai mai tarddiad y gair yw Normanaidd, ond nid yw hynny'n ei atal rhag bod yn enw Saesneg.
 
::Ond mae'r hyn rydych chi'n ei ddweud yn ddiddorol iawn. Diolch. --[[Defnyddiwr:Craigysgafn|Craigysgafn]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Craigysgafn|sgwrs]]) 12:09, 30 Ionawr 2021 (UTC)
Nôl i'r dudalen "Biwmares".