Crwth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 2A00:23C6:7984:3100:8850:7377:A984:7803 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Llygadebrill.
Tagiau: Gwrthdroi
Rescuing 2 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 1:
[[Delwedd:Britannica Crowd 9th Century Crwth.png|200px|bawd|Crythor yn chwarae'r crwth. ''Beibl'' [[Siarl Foel]], 9fed ganrif. Dyma'r llun cyntaf o'r crwth ac mae'r gwreiddiol i'w weld yn y ''Bibliothèque Nationale, Paris''.]]
[[Delwedd:David Teniers d. J. 003.jpg|200px|bawd|Cerddor (mewn coch) yn chwarae'r crwth, 17eg ganrif.]]
Hen [[offeryn cerdd]] llinynno ydy'r '''crwth''', ([[Lladin Llafar]]: ''chrotha''; [[Gaeleg]]: ''cruit''; [[Saesneg]]: ''crwth'' neu ''crowd''; [[Almaeneg]]: ''chrotta'', ''hrotta''). Mae'n eithaf tebyg i'r ffidil (neu'r [[fiolin]]), ond fod ganddo fel arfer chwe thant. Caiff ei ganu'n wreiddiol drwy blycio ac yn ddiweddarach gyda [[bwa]] ac mae ganddo ffrâm betryal, bren; y rhan isaf yn flwch sain a'r rhan uchaf gyda thyllau o boptu i'r tannau; byddai'r crythor yn rhoi bysedd ei law chwith trwy'r tyllau hyn er mwyn dal y tannau ac yn symud y bwa â'i law dde. Ceir y cyfeiriad ysgrifenedig cyntaf at y crwth yng [[Cyfreithiau Hywel Dda|Nghyfreithiau Hywel Dda]] yn y 12g.<ref>[http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/rhagor/erthygl/crwth/ Gwefan Amgueddfa Werin Sain Ffagan; Erthygl ar y crwth] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20131231073403/http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/rhagor/erthygl/crwth/ |date=2013-12-31 }} adalwyd 18/04/2013</ref> Cyfeiria'r cyfreithiau hyn at y ffaith mai'r uchelwyr yn bennaf oedd yn ei ganu, fel y pibau a'r delyn.
 
Cafwyd cystadleuaeth cannu'r crwth yn [[Eisteddfod Aberteifi 1176|Eisteddfod]] yr [[Rhys ap Gruffudd|Arglwydd Rhys]] yng [[Castell Aberteifi|Nghastell Aberteifi]] ym 1176, lle urddwyd deunaw crythor. Ceir cywydd gan [[Rhys Goch Eryri]], tua 1436, yn canu clodydd y dewiniaid, yr acrobatiaid a'r cerddorion (gan enwi'r crythwyr) a gai eu croesawu i gartrefi'r uchelwyr. Tua 1600, wrth i sgiliau'r [[saer]] wella, a'r crythau'n haws eu prynu, gwelir bod gan lawer o'r werin grwth er mwyn adloniant mewn ffeiriau ayb. yn y 18g fe'i ystyriwyd yn un o offerynnau cenedlaethol Cymru (gyda'r delyn a'r pibgorn).<ref>[http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3113689/ART30/crwth Tarian y Gweithiwr;] 12 Tachwedd 1885; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 19 Mai 2013.</ref>
Llinell 8:
 
==Tarddiad y gair==
Daw'r gair o'r hen Frythoneg am "fol crwm, beichiog" ("croto"): yr un yw tarddiad "croth" mae'n debyg.<ref>[http://www.indo-european.nl/cgi-bin/response.cgi?root=leiden&morpho=0&basename=\data\ie\celtic&first=581] {{Webarchive|url=https://web.archive.org/web/20090618100853/http://www.indo-european.nl/cgi-bin/response.cgi?root=leiden&morpho=0&basename=%5Cdata%5Cie%5Cceltic&first=581 |date=2009-06-18 }} Matasovic: Etymological lexicon of Proto-Celtic</ref> Mae'n debygol i gefn y crwth fod ar un adeg yn grwm fel bol merch feichiog a'r [[mandolin]]. Defnyddir y gair "crwth" yn Saesneg hefyd, fel benthyciad o'r Gymraeg, ac mae'n un o lond dwrn o eiriau yn yr iaith sydd heb lafariad. Daw'r cyfenwau "Crowder" a "Crowther" o'r gair crythor.
[[Delwedd:1-ac-crwth Sain Ffagan.jpg|160px|bawd|chwith|Crwth Sain Ffagan; delwedd drwy ganiatâd.]]
[[Delwedd:2-nl-crwth.jpg|160px||bawd|chwith|Crwth y Llyfrgell Genedlaethol; delwedd drwy ganiatâd.]]