Gorfodaeth filwrol yn y Deyrnas Unedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: ag eithrio → ac eithrio using AWB
Llinell 3:
== Y Rhyfel Byd Cyntaf ==
{{prif|Deddf Gwasanaeth Milwrol 1916}}
Cychwynnodd gwasanaeth gorfodol yn ystod cyfnod y [[Y Rhyfel Byd Cyntaf|Rhyfel Byd Cyntaf]] pan basiodd llywodraeth Prydain [[Deddf Gwasanaeth Milwrol 1916]]<ref>The Military Service Act 1916 - HL/PO/PU/1/1916/5&6G5c104</ref>. Nododd y ddeddf fod dynion sengl rhwng 18 a 40 oed yn agored i gael eu galw am wasanaeth milwrol oni bai eu bod yn dynion gweddw gyda phlant neu'n weinidogion crefyddol. Bu system o Dribiwnlysoedd Gwasanaeth Milwrol i ddyfarnu ar hawliadau am eithriad ar sail cyflawni gwaith sifil o bwysigrwydd cenedlaethol, caledi domestig, iechyd a gwrthwynebiad cydwybodol<ref>[http://www.parliament.uk/parliamentary_publications_and_archives/parliamentary_archives/archives____ww1_conscription.cfm CALLED TO ACTIVE SERVICE] adalwyd 16 Mawrth 2018</ref>. Aeth y gyfraith trwy nifer o newidiadau cyn i'r rhyfel ddod i ben. Roedd dynion priod wedi'u heithrio yn y Ddeddf wreiddiol, er y cafodd hyn ei newid ym mis Mehefin 1916. Codwyd y terfyn oedran yn y pen draw i 51 oed. Cafodd cydnabyddiaeth o waith o bwysigrwydd cenedlaethol ei dynhau, ac yn ystod blwyddyn olaf y rhyfel bu rhywfaint o gefnogaeth i'r syniad o beidio agac eithrio clerigwyr<ref>Chelmsford, J. E. "Clergy and Man-Power", ''[[The Times]]'' 15 Ebrill 1918, tud. 12</ref>. Parhaodd gorfodaeth filwrol hyd ganol 1919.
Oherwydd y sefyllfa wleidyddol yn [[Iwerddon]], ni chafodd gorfodaeth ei ddefnyddio yno; dim ond yng [[Cymru|Nghymru]], [[Lloegr]] a'r [[Yr Alban|Alban]].
 
Llinell 42:
Yn ystod y 1950au roedd gwaharddiad ar aelodau o'r lluoedd arfog rhag sefyll ar gyfer [[etholiad]] i'r [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Senedd]]. Gwnaeth rai Gwasanaethwyr Cenedlaethol sefyll etholiadau cyffredinol [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1951|1951]] a [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1955|1955]] er mwyn cael eu diarddel o'r gwasanaeth. Roedd disgyblion ysgol a oedd yn cyrraedd 17 cyn i'w cyfnod yn yr ysgol dod i ben cael gohirio ymuno a'r lluoedd ac os oeddynt yn cael lle mewn prifysgol roedd modd gohirio hyd ddiwedd eu cyfnod coleg.
 
Daeth Gwasanaeth Cenedlaethol i ben yn raddol o 1957. Penderfynwyd na fyddai raid i'r sawl a anwyd ar neu wedi 1 Hydref 1939 gwasanaethu. Roedd y sawl a anwyd cyn 1 hydref 1939 a chafodd ohiriad i'w gwasanaeth yn gorfod cyflawni eu dyletswydd. Ymunodd y rhai olaf i gael eu gorfodi a'r lluoedd ym mis Tachwedd 1960 ac fe ymadawodd y Gwasanaethwyr Cenedlaethol olaf a'r lluoedd ym mis Mai 1963.
 
==Cyfeiriadau==