Aria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
Llinell 1:
Cân hir yw '''Aria''' <ref>[http:////www.oxfordmusiconline.com/grovemusic/view/10.1093/gmo/9781561592630.001.0001/omo-9781561592630-e-0000043315Westrup, J., McClymonds, M., Budden, J., Clements, A., Carter, T., Walker, T., Heartz, D., & Libby, D. (2001, Ionawr 01). Aria. Grove Music Online] adalwyd 10 Hydref 2018</ref> sy'n cyd-fynd â llais unigol. Fel arfer mae aria i'w glywed mewn [[opera]]. Mae'n air [[Eidaleg]] o'r 18 ganrif sy'n golygu "aer" (hy tôn). Defnyddir ychydig bach o destun yn unig mewn aria. Mae nodweddion yn cynnwys defnyddio melisma, ailadrodd a dilyniannau. Yn nodweddiadol, byddai cyfeiliant llawn i'r llais unigol yn yr aria er nad yw hyn yn wir yn [[Dido ac Aeneas]], [[Henry Purcell|Purcell]], lle mai dim ond rhan continuo'r aria sydd dan gyfeiliant yn y rhan fwyaf o'r ariâu.
 
Mewn operâu o'r cyfnod [[Baróc]] roedd y rhan fwyaf o'r gerddoriaeth naill ai'n "[[adroddgan]]" neu'n "aria". Cafodd adroddgan (sy'n golygu: "i adrodd" neu "i ddweud") ei ganu yn gyflym, bron fel petai'n cael ei siarad, gyda dim ond ychydig o gordiau yn cyfeilio'r canwr, ac fel arfer ar harpsicord. Roedd y stori yn cael ei "ddweud" yn yr adroddgan. Unwaith y byddai naws y stori yn newid yna ddaw'r aria lle byddai'r [[canwr]] yn canu cân i fynegi ei deimladau. Roedd gan yr Aria mwy o sylwedd cerddorol na'r adroddgan. Fel arfer, roedd ariâu yn yr hyn a elwir ar ffurf "ABA" neu ar ffurf "Da Capo". Roedd prif adran, yna rhan ganol ac yna, ailadrodd y brif adran ("Da Capo" yw: "yn ôl i'r dechrau" <ref>(Eidaleg) [http://www.treccani.it/vocabolario/daccapo/ Enciclopedia Treccani]</ref>). Yn adran Da Capo, roedd y canwr, fel arfer, yn cael ychydig o ryddid byrfyfyr, i ychwanegu llawer o addurniadau lleisiol. Rhoddodd yr aria yn gyfle i berfformwyr arddangos eu dawn.
Llinell 9:
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Eginyn cerddoriaeth}}
 
[[Categori:Opera]]
Llinell 15 ⟶ 17:
[[Categori:Termau Cerddoriaeth]]
[[Categori:Caneuon opera]]
 
{{Eginyn cerddoriaeth}}