Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
 
Llinell 3:
Mae '''''Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru: o'r oesoedd boreuaf hyd yn awr, yn offeiriaid, bregethwyr, beirdd, hynafiaethwyr, gwyddonegwyr, llenorion, cerddorion yn nghyd a phob un o enwogrwydd mewn ystyr wladol neu grefyddol''''' yn gasgliad bywgraffyddol gan [[Josiah Thomas Jones]] ([[23 Medi]] [[1799]] - [[26 Ionawr]] [[1873]]).<ref name="yba">[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-JONE-THO-1799.html Y Bywgraffiadur Ar-Lein]</ref>. Cyhoeddwyd y gwaith mewn dwy ran, y gyntaf ym 1867 a'r ail ym 1870. Argraffwyd a chyhoeddwyd y cyfrolau gan J. T. Jones a'i fab yn Swyddfa yr Aberdare Times, [[Aberdâr]] (argraffwasg oedd yn eiddo i'r awdur).
 
Mae copiau digidol o'r llyfrau ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan ''Internet Archive''. <ref>{{Cite web|title=Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine|url=https://archive.org/|website=archive.org|access-date=2019-01-05}}</ref>
 
Mae'r llyfrau yn cynnwys dros 7,000 o erthyglau bywgraffiadol mewn 1,358 o dudalennau. Mae maint a manylder yr erthyglau yn amrywiol. Mae'r erthygl am [[David Owen (Dewi Wyn o Eifion)| Dewi Wyn]] yn cynnwys tua 3,500 o eiriau o hyd ac yn ymestyn dros 4 tudalen, mae'n cael ei olynu gan un i'r bardd Difwg syn cynnwys 26 air mewn dwy frawddeg: ''DIFWG, bardd a flodeuodd yn y ddegfed ganrif. Yr oedd yn fardd i Morgan Mwynfawr, brenin Morganwg. Nid oes dim o'i waith ar gael.''
 
Mae'r bywgraffiadau yn cael eu cyflwyno mewn arddull sydd dim ond yn lled trefn [[Gwyddor (iaith)|yr wyddor]]. Er bod pob erthygl i bobl a'r cyfenw ''Edwards'' er enghraifft, wedi casglu at ei gilydd daw hanes Thomas Edwards, gweinidog y Bedyddwyr yn Ystradyfodwg o flaen hanes John Edwards, gweinidog [[Troed-y-rhiw]]; hanes Y Parch John Jones, [[Tremadog]] yw erthygl olaf y gyfrol gyntaf <ref>{{Cite book|title=Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru: o'r oesoedd boreuaf hyd yn awr, yn ...|url=http://archive.org/details/geiriadurbywgra00jonegoog|publisher=Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan J.T. Jones a'i Fab, Aberdâr|date=1867|others=|last=Jones|first=Josiah Thomas|year=|isbn=|location=Y Gyfrol Gyntaf ar Internet Archive|pages=}}</ref> ond hanes Y Parch Benjamin Jones, [[Pwllheli|Pwllhel]]<nowiki/>i sy'n agor yr ail gyfrol <ref>{{Cite book|title=Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru: o'r oesoedd boreuaf hyd yn awr, yn ...|url=http://archive.org/details/geiriadurbywgra01jonegoog|date=1870|last=Jones|first=Josiah Thomas|publisher=J T Jones a'i fab, Aberdâr|year=|isbn=|location=yr ail gyfrol ar Internet archive|pages=}}</ref>.
Llinell 13:
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Bywgraffiaduron]]
[[Categori:Cyfeiriaduron Cymraeg]]