Ffrwydrad Bishopsgate: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
#wici365 Tagiau: Golygiad cod 2017 |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 20:14, 5 Mawrth 2021
Ymosodiad terfysgol gan Fyddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon (PIRA) ar Ddinas Llundain oedd ffrwydrad Bishopsgate ar 24 Ebrill 1993. Ffrwydrodd y bom mewn lori yn Bishopsgate, un o brif ffyrdd trwodd y Ddinas. Bu farw un ac anafwyd 44 o bobl, ac achoswyd £350 miliwn o ddifrod.[1]
Cafodd y bom, a oedd yn cynnwys un dunnell o ffrwydron, ei osod mewn lori godi a gafodd ei chipio gan y PIRA a'i pharcio tu allan i adeilad HSBC yn 99 Bishopsgate, ger cyffordd Bishopsgate a Wormwood Street. Un awr cyn i'r bom ffrwydro, cafodd naw rhybudd ei ffonio i'r heddlu o giosg ffôn Forkhill, Swydd Armagh, a dechreuwyd symud pobl o'r ardal.[2] Ffrwydrodd y bom, a wnaed o amoniwm nitrad a thanwydd, am 10:27 o'r gloch y bore. Lladdwyd ffotograffydd i'r News of the World, Edward Henty, a anwybyddodd y gorchymyn i adael yr ardal.[3] Difrodwyd adeiladau o fewn 500 o lathenni, gan gynnwys Tŵr NatWest a gorsaf reilffordd Liverpool Street, a dinistriwyd Eglwys y Santes Ethelburga yn llwyr.[1]
Mewn ymateb i'r ymosodiad hwn, a ffrwydrad arall yn St Mary Axe yn Ebrill 1992, adeiladwyd system diogelwch o'r enw "cylch dur" (yn swyddogol y Parth Traffig ac Amgylcheddol) o amgylch Dinas Llundain.[1] Newidiwyd y mwyafrif o ffyrdd y Ddinas yn allanfeydd yn unig, a rhoddwyd heddweision ar bob un ffordd arall i mewn i'r Ddinas am bob awr o'r dydd.[4]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Jo Davy, "The Bishopsgate bomb: 25 years on", City Matters (24 Ebrill 2018). Adalwyd ar 5 Mawrth 2021.
- ↑ Toby Harnden, 'Bandit Country': The IRA and South Armagh (Llundain: Hodder & Stoughton, 1999), tt. 337–8.
- ↑ (Saesneg) Andrew Gliniecki, "The Bishopsgate Bomb: Toll of injured rises to 51", The Independent (25 Ebrill 1993). Adalwyd ar 5 Mawrth 2021.
- ↑ (Saesneg) "Bishopsgate bomb: Photos issued on 25th anniversary", BBC (24 Ebrill 2018). Adalwyd ar 5 Mawrth 2021.