Characteristicks of Men, Manners, Opinions, Times: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
#wici365 Tagiau: Golygiad cod 2017 |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 17:39, 7 Mawrth 2021
Casgliad o draethodau ar amryw bynciau gan yr athronydd Seisnig Anthony Ashley-Cooper, 3ydd Iarll Shaftesbury yw Characteristicks of Men, Manners, Opinions, Times a gyhoeddwyd mewn tair cyfrol ym 1711.
Arwyddlun a engrafwyd ar gyfer wynebddalen Characteristicks of Men, Manners, Opinions, Times, yn ôl cyfarwyddiadau'r awdur. | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith creadigol |
---|---|
Awdur | Anthony Ashley-Cooper, 3ydd Iarll Shaftesbury |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1711 |
Genre | athroniaeth |
Mae'r casgliad yn cynnwys ysgrifau a gyhoeddwyd o'r blaen, wedi eu hadolygu, gydag ychwanegiadau. Bu'n hynod o boblogaidd ymhlith darllenwyr yng Ngwledydd Prydain ac ar gyfandir Ewrop trwy gydol y 18g, a chafodd ei ystyried yn un o brif gyfraniadau Lloegr at athroniaeth yr Oleuedigaeth. Er bod ysgrifeniadau Shaftesbury wedi colli ffafr ym maes athroniaeth yn y ddwy ganrif ddiwethaf, mae'r Characteristicks o hyd yn ffynhonnell bwysig i ysgolheigion am hanes crefydd ac anghrefydd, moeseg, estheteg, y ddisgwrs wleidyddol, y celfyddydau, garddio, a rhywedd yn Lloegr yn nechrau'r 18g.
Mewn cyflwyniad i argraffiad un-gyfrol Cambridge University Press o'r Characteristicks, ysgrifennai'r golygydd Lawrence E. Klein ei fod yn cynnwys "asesiad optimistaidd o gosmos trefnus, hyder mewn cymdeithasgarwch a chydymdeimlad dynol, cysoni profiad moesegol ac esthetaidd, pwysleisiadau ar ryddid a goddefiad, ac ymroddiad i rôl athroniaeth mewn addysgu'r ddynolryw".[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Lawrence E. Klein (gol.), Anthony Ashley Cooper, Third Earl of Shaftesbury: Characteristics of Men, Manners, Opinions, Times (Caergrawnt: Cambridge University Press, 2000), t. vii