Vicente Guerrero: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365 Tagiau: Golygiad cod 2017 |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 2:
Milwr a gwleidydd [[Mecsicanwyr|Mecsicanaidd]] oedd '''Vicente Guerrero''' ([[10 Awst]] [[1782]] – [[14 Chwefror]] [[1831]]) a fu'n arlywydd y Weriniaeth Ffederal Gyntaf o Ebrill i Ragfyr 1829, yr ail arlywydd yn [[hanes Mecsico]].
Ganed i deulu o werinwyr
Cychwynnodd ar ei yrfa filwrol ym 1810 fel un o wrthryfelwyr Hermenegildo Galeana, ac ymhen fawr o dro fe'i dyrchafwyd yn gapten am ei ddewrder a'i allu tactegol. Comisiynwyd gan y chwyldroadwr [[José Maria Morelos]] i arwain yr ymgyrch annibyniaeth yn ucheldiroedd de-orllewin Mecsico ac enillodd reng cyrnol am ei fuddugoliaethau yn erbyn y Sbaenwyr.<ref name=EWB/> Yn sgil marwolaeth Morelos ym 1815 aeth Guerrero a'i ddynion ar herw yn y mynyddoedd i wrthsefyll cyrchoedd gan y lluoedd Brenhinol. Ym 1821 ymunodd â lluoedd [[Agustín de Iturbide]], cyrnol a drodd yn erbyn [[Ymerodraeth Sbaen]]. Cyhoeddwyd Cynllun Iguala gan Iturbide a Guerrero ym 1821 ac enillodd Mecsico ei hannibyniaeth oddi ar Sbaen.
|