Y Greal Santaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Golygu cyffredinol (manion), replaced: yn ran → yn rhan using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Cred rhai ysgolheigion, er enghraifft [[Roger Sherman Loomis|R. S. Loomis]], fod hanes y Greal yn deillio o ffynhonnell [[Y Celtiaid|Geltaidd]], gan gymharu'r llestr â'r cyfeiriadau niferus yn y chwedlau Celtaidd at beiriau rhyfeddol fel y [[Pair Dadeni]], a'r peiriau hynny yn eu tro yn cynrychioli'r [[duwies]]au Celtaidd a gysylltir â ffrwthlondeb, dadeni, a ffynhonnell ddihysbydd bywyd ei hun. Cred eraill mai dim ond tarddiad Cristnogol sydd i'r chwedl.
 
Yn Gymraeg, nid yw ''[[Peredur fab Efrawg]]'' yn [[y Tair Rhamant]] yn crybwyll y Greal wrth ei enw, er bod y Greal yn elfen bwysig yn y fersiwn Ffranged cyfatebol, ''[[Perceval, le Conte du Graal]]'' gan [[Chrétien de Troyes]], lle mae Perceval yn cyfarfod y [[Brenin-Bysgotwr]] sydd wedi ei anafu, ond nid yw'n gofyn y cwestiwn a fyddai wedi ei iachau. Pan ddaw i wybod am hyn, mae'n ymdynghedu i gael hyd i gastell y Greal. Daw'r cyfeiriad cyntaf at yr enw yn Gymraeg yn ''[[Ystoryaeu Seint Greal]]'', cyfeithiadcyfieithiad yn y [[14g]] o ddau destun [[Ffrangeg]] cynharach.
 
Mewn fersiynau diweddarach o stori'r Greal yn Ffrangeg a Saesneg, [[Galahad]], mab [[Lawnslot]], yw'r unig farchog sy'n ddigon pur i lwyddo yn yr ymchwil am y Greal.
Llinell 13:
Yn ddiweddarach, cysylltwyd y Greal a phlasdy [[Nanteos]] yng [[Ceredigion|Ngheredigion]]. Roedd llestr yno a elwid wrth yr enw "[[Cwpan Nanteos]]". Dywedid mai hwn oedd y Greal, wedi ei gludo o [[Ynys Wydrin]] i [[Abaty Ystrad Fflur]] ac yna i Nanteos.
 
[[Categori:Cristnogaeth|Greal Santaidd, Y]]
[[Categori:Cylch Arthur|Greal Santaidd, Y]]
[[Categori:Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol|Greal Santaidd, Y]]
[[Categori:Cristnogaeth|Greal Santaidd, Y]]