Giuseppe Verdi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 10:
Ganwyd Verdi yn Le Roncole, pentref ger Busseto, ar y pryd yn Département Taro. Roedd Département Taro ar adeg geni Verdi yn rhan o Ymerodraeth Gyntaf Ffrainc, gan fod Dugaeth Parma a Piacenza wedi eu gorchfygu gan Ffrainc ym 1808. Roedd yn fab i Carlo Giuseppe Verdi (1785-1867), tafarnwr, a Luigia Uttini (1787-1851), nyddwraig, ei wraig. {{sfn|Parker|n.d.|loc=§2}}  Roedd gan Verdi chwaer iau, Giuseppe, a fu farw yn 17 oed ym 1833. Dywedir mai hi oedd ei ffrind agosaf yn ystod ei blentyndod. {{sfn|Rosselli|2000|p=12}}
 
O bedair oed, cafodd Verdi wersi preifat mewn Lladin gan ysgolfeistr y pentref, Baistrocchi, ac yn chwech oed mynychodd yr ysgol leol. Ar ôl dysgu canu'r [[Organ (offeryn cerdd)|organ]], dangosodd gymaint o ddiddordeb mewn cerddoriaeth fel bod ei rieni wedi cael sbinet (harpsicord bychan) iddo. {{sfn|Rosselli|2000|p=14}} Roedd dawn gerddorol Verdi eisoes yn amlwg erbyn 1820-21 pan ddechreuodd ei gysylltiad â'r eglwys leol, gan wasanaethu yn y côr, gweithredu fel bachgen allor am gyfnod a chymryd gwersi organ. Ar ôl marwolaeth Baistrocchi, daeth Verdi, yn wyth oed, yn organydd cyfloged swyddogol yr eglwys. {{sfn|Phillips-Matz|1993|pp=17–21}}
 
Roedd Verdi yn honni, fel oedolyn, ei fod wedi ei fagu gan deulu tlodaidd, ond fel mae'r hanesydd cerdd Roger Parker wedi profi, roedd y ddau riant yn perthyn i dirfeddianwyr a masnachwyr ac yn bell o fod yn dlodion anwybodus. {{sfn|Parker|1998|p=933}}
 
Ym 1823, pan oedd yn 10 oed, trefnodd rhieni Verdi iddo fynychu'r ysgol yn Busseto, gan ei gofrestru mewn ''Ginnasio'' (ysgol uwchradd i fechgyn) a oedd yn cael ei rhedeg gan Don Pietro Seleta. Roedd Verdi yn dychwelyd i Busseto yn rheolaidd i ganu'r organ ar ddydd Sul, gan gwmpasu'r pellter o sawl cilometr ar droed. {{sfn|Phillips-Matz|1993|pp=20–21}} Yn 11 oed, derbyniodd Verdi addysg yn [[Eidaleg]], [[Lladin]] y [[dyniaethau]] a [[rhethreg]]. Erbyn iddo fod yn 12 oed, dechreuodd wersi gyda Ferdinand Provesi, ''maestro di cappella'' yn San Bartolomeo, cyfarwyddwr yr ysgol gerddoriaeth ddinesig a chyd-gyfarwyddwr y Societa Filarmonica (Cymdeithas Ffilharmonig) leol. {{sfn|Parker|2007|pp=2–3}}{{sfn|Parker|n.d.|loc=§3}}
 
Erbyn Mehefin 1827, roedd wedi graddio gydag anrhydedd o'r Ginnasio ac roedd yn gallu canolbwyntio'n llwyr ar gerddoriaeth dan Provesi. Ar hap, pan oedd yn 13 oed, gofynnwyd i Verdi gamu i mewn i gyflenwi mewn perfformiad. Dyma oedd ei berfformiad cyhoeddus cyntaf yn ei dref enedigol. Cafodd llwyddiant mawr wrth chwarae ei gerddoriaeth ei hun. {{sfn|Phillips-Matz|1993|pp=27–30}}
Llinell 20:
Erbyn 1829-30, roedd Verdi wedi sefydlu ei hun fel arweinydd y Ffilharmonig. Ysgrifennodd cantata wyth symudiad, ''I deliri di Saul'', yn seiliedig ar ddrama gan Vittorio Alfieri, pan oedd yn 15 oed a chafodd ei berfformio yn Bergamo. Cafodd ei ganmol gan Demaldè a Barezzi. [12] Erbyn diwedd 1829, roedd Verdi wedi cwblhau ei astudiaethau gyda Provesi. [13] Ar y pryd, roedd Verdi wedi bod yn rhoi gwersi canu a phiano i ferch Barezzi, Margherita; erbyn 1831, roeddent wedi dyweddïo yn answyddogol. {{sfn|Parker|n.d.|loc=§2}}
 
Gosododd Verdi ei olygon ar [[Milan]], ar y pryd prifddinas ddiwylliannol gogledd yr Eidal, lle gwnaeth gais aflwyddiannus i astudio yn y conservatoire. {{sfn|Parker|n.d.|loc=§2}} Gwnaeth Barezzi drefniadau iddo ddod yn ddisgybl preifat i Vincenzo Lavigne, a oedd wedi bod yn ''maestro concertatore'' yn La Scala, ac a ddisgrifiodd gyfansoddiad Verdi fel un "addawol iawn". {{sfn|Phillips-Matz|1993|p=46}} Anogodd Lavigne Verdi i gael tocyn tymor i [[La Scala]], lle clywodd Maria Malibran yn y gwaith gan Gioachino Rossini a Vincenzo Bellini. {{sfn|Parker|2007|p=1}} Dechreuodd Verdi wneud cysylltiadau defnyddiol ym myd cerddoriaeth Milan. Roedd y rhain yn cynnwys cyflwyniad gan Lavigne gymdeithas gorawl amatur, y Societa Filarmonica, dan arweiniad Pedro Massini. {{sfn|Werfel|Stefan|1973|pp=80–93}} Gan fynychu'r Gymdeithas yn aml ym 1834, buan y cafodd Verdi ei hun yn gweithredu fel cyfarwyddwr ymarferion (ar gyfer ''La Cenerentola'' gan [[Gioachino Rossini|Rossini]]) a chwaraewr bâs. Anogodd Massini iddo ysgrifennu ei opera gyntaf, dan y teitl ''Rocester'' yn wreiddiol, i libreto gan y newyddiadurwr Antonio Piazza. {{sfn|Parker|n.d.|loc=§2}}
 
== Operau ==