Gerallt Lloyd Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9:
Derbyniodd Gerallt ei addysg yn [[Ysgol Tŷ Tan Domen]]. Tra yn y chweched dosbarth dyrchafwyd y tad a symudodd y teulu i Gaernarfon, ond arhosodd Gerallt gyda'i fodryb yn y Sarnau i adolygu ar gyfer ei arholiadau 'lefel A', ond gwell ganddo astudio'r [[cynghanedd|gynghanedd]] a darllen [[barddoniaeth]] ac ni chafodd y graddau angenrheidiol i fynd i'r brifysgol ac felly aeth i [[Coleg Normal, Bangor|Goleg y Normal, Bangor]] lle derbyniodd Dystysgrif Athro yn 1966.<ref name="Gwefan yr Academi" />
 
Treuliodd gyfnod o bum mlynedd fel athro: Ysgol Gynradd, Ysgol Glyn Dŵr (yr ysgol breifat Gymraeg a sefydlwyd ym [[Pen-y-bont ar Ogwr|Mhen-y-bont ar Ogwr]] gan y cenedlaetholwr brwd [[Trefor Morgan]]) ac Ysgol Gymraeg y Betws. Bu'n ysgrifennu comics i blant, gan gynnwys ''Llinos'' ac ''Yr Hebog''<ref>{{Cite news|title=Comics Cymraeg|url=https://www.bbc.com/cymrufyw/36341497|work=BBC Cymru Fyw|date=2016-05-28|access-date=2021-04-15|language=cy}}</ref>''.'' Sefydlodd [[Gwasg Gwynedd|Wasg Gwynedd]] ym 1972. Yn 1972 hefyd y priododd ag Alwena Jones o [[Deiniolen|Ddeiniolen]] gan fyw yn [[Llandwrog]], a chawsant dri o blant: [[Mirain Llwyd Owen|Mirain]], Bedwyr a Nest.
 
==Ei waith llenyddol==