Isaac Carter: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Nodyn:Person using AWB
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 4:
 
==Bywgraffiad==
Ychydig a wyddys amdano. Mae ei ddyddiad geni yn anhysbys ond ymddengys yn bur sicr ei fod yn frodor o dref [[Caerfyrddin]]. Sefydlodd wasg yn hen fwrdeistref Trefhedyn ([[Adpar]]) yn [[1718]]. Cynnyrch cyntaf y wasg oedd dau bamffledyn, ''Cân o Senn i’w hen Feistr Tobacco'' gan Alban Thomas a ''Cân ar Fesur Triban ynghylch Cydwybod a’i Chynheddfau'' gan awdur anhysbys, a gyhoeddwyd yn 1719. Parhaodd y wasg hyd tua 1725 pan gafodd ei symud i dref Caerfyrddin. Roedd ei gyhoeddiadau eraill yn Adpar yn cynnwys ''Eglurhad o Gatechism Byrraf y Gymanfa'' (1719), ''Dwysfawr Rym Buchedd Grefyddol'' (1722) a ''Christion Cyffredin'' (1724). Parhaodd i gyhoeddi llyfrau tebyg yng Nghaerfyrddin. Bu farw yn 1741.
 
=== Ffynonellau ===
* James Ifano Jones, ''A History of Printing and Printers in Wales to 1810, and of Successive and Related Printers to 1923'' (Caerdydd, 1925)
* ''Journal of the Welsh Bibliographical Society'', i,1 (1983/4): 129-32;
* J.H. Davies, ''A Bibliography of Welsh Ballads Printed in the 18th Century'' (Llundain: 1908-11)
{{cyfeiriadau}}
 
{{Rheoli awdurdod}}