Anufudd-dod sifil: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Godson18 (sgwrs | cyfraniadau)
#WPWP #WPWPARK
 
Llinell 1:
[[File:Schienenblockade.jpg|thumb|Anufudd-dod sifil]]
{{Gwleidyddiaeth}}
Gwrthod i ufuddhau i orchmynion yr awdurdodau neu ddeddfau'r [[llywodraeth]] yw '''anufudd-dod sifil''' ac hynny â'r nod o orfodi newid mewn polisi neu ryw agwedd o'r drefn wleidyddol. Gallai'r gyfraith a dorrir ei hun ei hystyried yn annilys neu'n anfoesol, neu allai'r troseddu fod yn ffordd o dynnu sylw at anghyfiawnder neu achos arall. Fel rheol mae'n cyfeirio at ddulliau di-drais a goddefol o droseddu, ac wrth ymwrthod â [[trais|thrais]] dyma gyfiawnhad yr anufuddhäwr dros dorri'r gyfraith ar dir cydwybod.