Anufudd-dod sifil

Gwrthod i ufuddhau i orchmynion yr awdurdodau neu ddeddfau'r llywodraeth yw anufudd-dod sifil ac hynny â'r nod o orfodi newid mewn polisi neu ryw agwedd o'r drefn wleidyddol. Gallai'r gyfraith a dorrir ei hun ei hystyried yn annilys neu'n anfoesol, neu allai'r troseddu fod yn ffordd o dynnu sylw at anghyfiawnder neu achos arall. Fel rheol mae'n cyfeirio at ddulliau di-drais a goddefol o droseddu, ac wrth ymwrthod â thrais dyma gyfiawnhad yr anufuddhäwr dros dorri'r gyfraith ar dir cydwybod.

Anufudd-dod sifil

Modd o wrthdystio neu wrthsefyll ydyw sydd yn tynnu sylw i achos yr anufuddhäwr ac yn peri rhywfaint o aflonyddwch, trafferth, neu wastraff i'r awdurdodau. Gweithred symbolaidd ydyw yn hytrach na gwrthwynebiad i'r drefn wleidyddol a'r gyfraith gyfan, a gobaith yr anufuddhäwr yn aml ydy gosod esiampl foesol drwy dderbyn ei gosb am dorri'r gyfraith. Trwy herio'r awdurdodau yn gyhoeddus a thynnu sylw ei gyd-ddinasyddion at ei achos, ei nod yw gwthio'r llywodraeth i weithredu. Mae rhai ymgyrchwyr yn arddel anufudd-dod sifil yn athroniaeth gyffredinol er newid cymdeithas, ac eraill yn ei ystyried yn dacteg i'w defnyddio pan nad oes ffyrdd cyfreithlon o weithredu. Yn achos hwnnw, moesoldeb sydd yn sail i rym y protestwyr, yn niffyg grym gwleidyddol, cyfreithiol, neu economaidd ganddynt.

I gael effaith ar ei darged, mae'n rhaid i anufudd-dod sifil nid yn unig fod yn niwsans i'r drefn ond hefyd i apelio at foesoldeb y gymdeithas. Bu anufudd-dod sifil yn dacteg bwysig gan sawl mudiad cymdeithasol a gwleidyddol, gan gynnwys cenedlaetholwyr a gwrthdrefedigaethwyr ar draws Affrica ac Asia, ymgyrchwyr hawliau sifil, undebau llafur, y mudiad heddwch, ac ymgyrchwyr iaith, ac amgylcheddwyr. Ymhlith y dulliau cyffredin o anufudd-dod sifil mae ymwrthod â thalu treth, atal ffyrdd, a gorymdeithio neu feddiannu adeilad heb ganiatâd.

Diffiniad golygu

Yr hyn sydd yn gwahaniaethu anufudd-dod sifil oddi ar dor-cyfraith arferol ydy'r cyfiawnhad moesol, didreisedd, a chyhoeddusrwydd. Oherwydd cymhelliad anhunanol honedig yr anufuddhäwr, câi anufudd-dod sifil ei ystyried yn wahanol ei fwriad i weithgareddau anghyfreithlon eraill, ac yn ôl ei gefnogwyr yn haws ei amddiffyn. Fel arfer dadleuant bod protestiadau o'r fath er budd y gymdeithas oll, gan eu bod yn tynnu sylw at anghyfiawnderau neu broblemau cymdeithasol sydd yn effeithio ar les pawb.[1]

Athroniaeth a syniadaeth wleidyddol golygu

Democratiaeth ryddfrydol golygu

Mae nifer o ddemocratiaid a rhyddfrydwyr yn dadlau bod y rheidrwydd moesol yn cyfiawnhau tor-cyfraith mewn achosion arbennig.

Anarchiaeth golygu

Er bod anarchwyr yn gwrthwynebu awdurdod gwleidyddol a chyfreithiol ac yn debyg o gefnogi gweithredoedd sydd yn gwrthsefyll y llywodraeth, nid ydynt yn gyffredinol yn arddel anufudd-dod sifil yn rhan o'u syniadaeth. Mae nifer o anarchwyr a meddylwyr radicalaidd eraill yn gwrthod athroniaeth anufudd-dod sifil ac yn ei chondemnio am iddi dderbyn y strwythur wleidyddol sydd ohoni. Dadleuasant nad oes angen i unigolion gyfiawnhau eu penderfyniad i wrthsefyll yr awdurdodau yn nhermau sydd yn cydnabod awdurdod y llywodraeth.

Ceidwadaeth golygu

Mae rhai meddylwyr, fel arfer ceidwadwyr, yn gwrthod anufudd-dod sifil yn llwyr. Maent yn dadlau nad oes hawl gan yr un ddinesydd i wrthod rheol y gyfraith, hyd yn oed os yw'r gyfraith ei hun yn anghyfiawn, a bod hawl o'r fath yn tanseilio'r holl drefn gyfreithiol. Dywed bod rhwymedigaeth wleidyddol yn mynnu ufuddhad llwyr gan y dinesydd i awdurdod y wladwriaeth. Trwy'r broses wleidyddol ffurfiol yn unig y dylai'r dinesydd fynegi ei wrthwynebiad i'r drefn a cheisio'i newid, a thor-cyfraith ac anhrefn trwy ddiffiniad ydy anufudd-dod sifil.

Hanes golygu

Bathwyd y term Saesneg civil disobedience gan yr Americanwr Henry David Thoreau yn ei ysgrif sydd yn dwyn yr enw hwnnw, a gyhoeddwyd yn 1849. Mae'n dadlau bod gan unigolyn ddyletswydd i wrthwynebu gweithredoedd anghyfiawn llywodraeth sifil.

Gandhi golygu

Datblygodd y syniad fodern o anufudd-dod sifil yn bennaf dan arweiniad Mohandas Karamchand Gandhi, cenedlaetholwr o India a fu'n arwain yr ymdrech i ennill annibyniaeth oddi ar yr Ymerodraeth Brydeinig. Tynnodd Gandhi ar athroniaeth y Gorllewin a'r Dwyrain, gan gynnwys yr ysgrif Civil Disobedience gan Thoreau, wrth lunio satyagraha, ei athrawiaeth o wrthsafiad di-drais. Arddelai satyagraha yn gyntaf yn Ne Affrica wrth ymgyrchu dros hawliau i'r Indiaid. Yn ddiweddarach dychwelodd i'w famwlad ac arweiniodd sawl ymgyrch ar sail satyagraha, gan gynnwys y Gorymdaith Halen yn 1930.

Y Mudiad Hawliau Sifil golygu

Mabwysiadwyd dulliau anufudd-dod sifil gan Americanwyr Affricanaidd yn y Mudiad Hawliau Sifil yn y 1950au a'r 1960au i geisio dod â therfyn i arwahanu ar sail hil yn nhaleithiau deheuol Unol Daleithiau America. Cynhaliwyd sit-ins i feddiannu busnesau hiliol yn ogystal â gorymdeithiau a boicotiau a ostegwyd gan yr awdurdodau. Prif arweinydd a lladmerydd yr anufudd-dod sifil oedd Martin Luther King, a chyferbynnir ei ymgyrchoedd ef â defnydd grym gan eraill megis y Pantherod Duon a Malcolm X.

Cymdeithas yr Iaith golygu

 
Protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Bont Trefechan, Aberystwyth, yn 1963.

Defnyddiwyd anufudd-dod sifil gan Gymdeithas yr Iaith i ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg ers y brotest dorfol gyntaf yn 1963, a hynny ar Bont Trefechan yn Aberystwyth. Bu ymgyrchwyr hefyd yn paentio dros arwyddion ffordd unieithog.

Mudiadau amgylcheddol golygu

Mae sawl mudiad amgylcheddol, gan gynnwys Greenpeace a Gwrthryfel Difodiant, yn defnyddio anufudd-dod sifil i gyhoeddi eu neges.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Ron J. Bigalke, Jr, "Civil Disobedience" yn The Encyclopedia of Political Science cyfrol 1, golygwyd gan George Thomas Kurian et al. (Washington, D.C.: CQ Press, 2011), t. 236.

Darllen pellach golygu

  • Terence Ball, Civil Disobedience and Civil Deviance (Beverly Hills, Califfornia: Sage Publications, 1973).
  • Christian Bay a Charles Walker, Civil Disobedience: Theory and Practice (St Paul, Minnesota: Black Rose Books, 1975).
  • Hugo Bedau, Civil Disobedience: Theory and Practice (Efrog Newydd: Pegasus, 1969).
  • James F. Childress, Civil Disobedience and Political Obligation (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 1971).
  • Ernest van den Haag, Political Violence and Civil Disobedience (Efrog Newydd: Harper & Row, 1972).
  • Elliot M. Zashin, Civil Disobedience and Democracy (Efrog Newydd: Free Press, 1972).