Sgwrs:Ynysoedd y Falklands: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Enw: Ateb
sylw ar ffurf yr enwau
 
Llinell 4:
 
:Ceisiodd defnyddiwr anhysbys gael gwared ar yr enw "Ynysoedd Malvinas" heddiw, gan ddweud, "Nid ydy'r enw Malvinas neu fachigyn yn cael ei ddefnyddio yn y Gymraeg." Mi wnes i dadwneud y golygiad, gan ddweud: "Efallai nad yw "Ynysoedd Malvinas" yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru. Ond mae yna siaradwyr Cymraeg yn yr Ariannin. Mae hyn yn rhywbeth y dylid ei drafod yn y Sgwrs cyn tynnu'r enw." Felly dyma fi yn ei sgwrsio. Mae ''Atlas Cymraeg Newydd'' , ein ffynhonnell arferol ar gyfer enwau daearyddol yn defnyddio "Ysdd. Falkland/Malvinas (D.U.)" fel label ar t.75, ac yn y mynegai "Falkland, Ysdd. (Malvinas)" a "Malvinas = Ysdd. Falkland". Mae'n ymddangos i mi felly y dylid newid enw yr erthygl o "Ynysoedd y Falklands" i "Ynysoedd Falkland" a newid "Ynysoedd Malvinas" i "Malvinas" yn syml. Bid siŵr, mae "Ynysoedd Falklands" yn gwneud mwy o synnwyr nag "Ynysoedd y Falklands", fel roedd Xxglenxx yn awgrymu 10 mlynedd yn ôl. [[Defnyddiwr:Craigysgafn|Craigysgafn]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Craigysgafn|sgwrs]]) 10:09, 5 Ionawr 2022 (UTC)
::O roi [https://www.google.com/search?q=%22Ynysoedd+Malvinas%22&safe=active&rlz=1C1GGRV_enGB814GB814&sxsrf=AOaemvK2l1HLJT2h0qZrDGNdIW43pr5wrw%3A1641401642093&ei=Ks3VYYGsBc2hgQa4rpb4AQ&ved=0ahUKEwiB6b3OiZv1AhXNUMAKHTiXBR8Q4dUDCA4&uact=5&oq=%22Ynysoedd+Malvinas%22&gs_lcp=Cgdnd3Mtd2l6EANKBAhBGAFKBAhGGABQ4ghYsQ9gzSZoAXAAeACAAVeIAe8BkgEBM5gBAKABAcABAQ&sclient=gws-wiz "Ynysoedd Malvinas" yn Google], daw ambell i ganlyniad annisgwyl, gan gynnwys [https://amgueddfa.cymru/curadurol/gwyddorau-naturiol/botaneg/ Amgueddfa Cymru], côr meibion, papur bro a hyd yn oed [https://agic.org.uk/sites/default/files/2019-05/160330argoedhomicidecy.pdf Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru]ǃ Mae BydTermCymru (Llywodraeth Cymru) [https://gov.wales/bydtermcymru/search/term/170825106 yn ffafrio 'Ynysoedd Falkland'], ac yn nodiː ''Gellid defnyddio'r ffurf "Malvinas" yn Gymraeg pe cyfyd y ffurf honno yn y testun Saesneg, ond dylid bod yn ofalus â sensitifrwydd gwleidyddol yr enwau.'' Felly dwi'n cydfynd â chynnigion Craigysgafn. --[[Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhyswynne|sgwrs]]) 17:19, 5 Ionawr 2022 (UTC)
Nôl i'r dudalen "Ynysoedd y Falklands".