DreamWorks Pictures: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 10:
Yn 2005 cytunodd y sylfaenwyr i werthu'r stiwdio i [[Viacom]], sy'n rhiant i [[Paramount Pictures]]. Cwblhawyd y gwerthiant ym mis Chwefror 2006 ("DW Studios" yw enw'r fersiwn hon bellach). Yn 2008, cyhoeddodd DreamWorks ei fwriad i ddod â’i bartneriaeth â Paramount i ben a gwnaeth gytundeb i gynhyrchu ffilmiau gyda Grŵp Reliance Anil Dhirubhai Ambani India, a chafodd DreamWorks Pictures ei ail-greu fel endid annibynnol. Y flwyddyn ganlynol, ymrwymodd DreamWorks i gytundeb dosbarthu gyda [[Walt Disney Studios Motion Pictures]], lle byddai Disney yn dosbarthu ffilmiau DreamWorks trwy [[Touchstone Pictures]]; parhaodd y drefn tan 2016. Ers 2016, mae [[Universal Pictures]] wedi dosbarthu a marchnata'r ffilmiau a gynhyrchir gan DreamWorks Pictures. Ar hyn o bryd, lleolir swyddfedd DreamWorks yn [[Universal Studios Hollywood]].
 
Mae DreamWorks Pictures yn wahanol i [[DreamWorks Animation]], ei hen adran animeiddio a gafodd ei ddeillio yn 2004 ac a ddaeth yn is-gwmni i [[NBCUniversal]] yn 2016. Mae cwmni Spielberg yn parhau i ddefnyddio nodau masnach gwreiddiol DreamWorks dan drwydded gan [[DreamWorks Animation]].
 
{{eginyn sinema'r Unol Daleithiau}}