Anne Hathaway (actores): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 7:
Mae '''Anne Jacqueline Hathaway''' (ganed [[12 Tachwedd]] [[1982]]) yn actores Americanaidd. Cafodd ei swydd actio gyntaf ym [[1999]] yn y gyfres deledu ''Get Real'', ond cafodd ei gyrfa fel actores ei ystyried o ddifrif pan gafodd ei rôl flaenllaw gyntaf yng [[comedi|nghomedi]] deuluol [[Disney]], ''[[The Princess Diaries]]'' lle gweithiodd gyda [[Julie Andrews]].
 
Parhaodd i ymddangos mewn ffilmiau teuluol dros y dairtair blynedd nesaf, gan chwarae'r prif ran yn ''[[Ella Enchanted]]'' a ''[[The Princess Diaries 2: Royal Engagement]]'' yn [[2004]]. Yn ddiweddarach, dechreuodd Hathaway actio mewn ffilmiau mwy beiddgar fel ''[[Havoc (ffilm)|Havoc]]'' a ''[[Brokeback Mountain]]''. Actiodd hefyd yn ''[[The Devil Wears Prada (ffilm)|The Devil Wears Prada]]'', gyda [[Meryl Streep]]; ''[[Becoming Jane]]'', lle portreadodd [[Jane Austen]], a ''[[Get Smart]]'' gyda [[Steve Carell]]. Yn [[2008]] derbyniodd ganmoliaeth eang am ei rôl yn y ffilm ''[[Rachel Getting Married]]''. Derbyniodd amrywiaeth o wobrau am y rôl, gan gynnwys enwebiad am [[Gwobrau yr Academi am yr Actores Orau|Wobr yr Academi am yr Actores Orau]].
 
Mae ei dull o actio wedi cael ei gymharu i ddull [[Judy Garland]] ac [[Audrey Hepburn]] <ref>[http://entertainment.timesonline.co.uk/tol/arts_and_entertainment/article644623.ece Jeff Dawson. "Dressed for Success" ''[[The Sunday Times]]'' Medi 24, 2006 Adalwyd 26 Chwefror 2009]</ref> ac mae'n cyfeirio at Hepburn fel un o'i hoff actoresau a Meryl Streep fel ei heilun. Enwodd y cylchgrawn ''[[People (cylchgrawn)|People]]'' Hathaway fel un o brif actorion newydd 2001 ac yn [[2006]], cafodd ei henwi fel un o 50 Person Mwyaf Prydferth y byd.<ref>[http://www.people.com/people/anne_hathaway Cylchgrawn ''[[People (cylchgrawn)|People]]'' Adalwyd 26 Chwefror 2009]</ref>