Morisgiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Mwslemiaid a orfodwyd i gyffesu Cristnogaeth ar ôl i frenhinoedd Castille oresgyn teyrnasoedd Mwslemaidd de Sbaen ar ddiwedd yr Oesoedd Canol oedd y '''Mor...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:58, 5 Mawrth 2007

Mwslemiaid a orfodwyd i gyffesu Cristnogaeth ar ôl i frenhinoedd Castille oresgyn teyrnasoedd Mwslemaidd de Sbaen ar ddiwedd yr Oesoedd Canol oedd y Morisgiaid (Sbaeneg, enw unigol, Morisgo).

Roedd nifer o Fwslemiaid yn ardaloedd fel Andalucia yn dal i fyw yn Sbaen ar ôl y goresgyniad. Yn ystod y 15fed ganrif fe'u gorfodwyd i dderbyn Cristnogaeth neu ffoi i alltudiaeth. Dewisai nifer aros yn Sbaen a chyffesu Cristnogaeth yn gyhoeddus tra'n proffesu Islam yn eu tai. Ar ddechrau'r 16eg ganrif penderfynodd llywodraeth Sbaen eu troi nhw allan o'r wlad ac rhwng 1609 a 1614 gorfodwyd tua 500,000 ohonyn nhw i ffoi. Ymsefydlodd y mwyafrif yn y Maghreb (gogledd Affrica). Gwnaethent gyfraniad arbennig i ddiwylliant y gwledydd hynny, yn arbennig yn Tunisia, gan dod â cherddoriaeth a pensaernïaeth arbennig gyda nhw, ffrwyth y croesffrwythloni rhwng y traddodiadau Islamaidd a Christnogol yn ne Sbaen.