Y Stafell Ddirgel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 193.62.43.1 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Llywelyn2000. |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:
[[Nofel]] hanesyddol am yr [[17eg ganrif]] wedi'i lleoli yn ardal [[Dolgellau]] yw '''''Y Stafell Ddirgel''''', gan [[Marion Eames]], a gyhoeddwyd yn [[1969]]. Mae'r nofel yn ymdrin â'r erlid a fu ar y [[Crynwyr]] yn dilyn dyfodiad [[Siarl II o Loegr a'r Alban|Siarl II]] i orsedd Lloegr. Mae'r nofel yn dechrau ym [[1672]], deuddeng mlynedd wedi'r [[Yr Adferiad|Adferiad]]. Dilyniant i ''Y Stafell Ddirgel'' yw ''[[Y Rhandir Mwyn]]''. Yn y nofel honno disgrifir helyntion y Cymry ar ôl iddynt ymfudo i [[Pennsylvania]] yn America gan obeithio osgoi'r erlid a fu arnynt yng Nghymru
Daw Rowland Ellis, prif gymeriad y nofel, yn Grynwr o ganlyniad i ddylanwad cymydog ond mae ei wraig yn gwrthwynebu hynny. Yn dilyn ei marwolaeth ail-brioda ei gyfnither sy'n cydymdeimlo â'r achos. Fe'u bradychir i'r awdurdodau gan un o'i gyn-weision. Carcharir Ellis a'i gyd-grynwyr a'u dedfrydu i farwolaeth. Fe'u rhyddheir ar ôl ymyrraeth uniongyrchol y brenin, a phenderfynant ymfudo i America am fywyd gwell.
===Prif Gymeriadau===
*Rowland Ellis
**Roedd [[Rowland Ellis]] yn gymeriad hanesyddol o Fryn Mawr, Dolgellau a oedd wedi cael addysg dda ac a ddaeth yn un o arweinwyr y Crynwyr
*Hywel Vaughan
*Marged Owen
*Ellis Puw
*Meg Ellis
*Huw Morris
*Malan
*Lisa
*Sinai Roberts
*Dorcas
*Jane Owen
*Hywel Vaughan
*Jeremy Mellor
*Gwallter
[[Category:Nofelau Cymraeg]]
[[Category:Nofelau 1969]]
|