Bwlio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: vi:Bắt nạt
Llinell 22:
 
===Bwlio mewn ysgolion===
Gall bwlio ddigwydd ymhob ardal o ysgol. Er ei fod yn gallu digwydd mewn unrhyw ardal o'r ysgol, mae'n cymryd lledigwydd yn aml mewn chwaraeon, amser egwyl, mewn neuaddau, tai bach, ar fysiau i'r ysgol ac ar y ffordd adref, mewn dosbarthiadau lle ceir gwaith grŵp a/neu mewn gweithgareddau ar ôl ysgol. Weithiau, bydd bwlio mewn ysgolion yn cynnwys criw o ddisgyblion yn cymryd mantais o, neu'n ynysu un disgybl. Byddant yn ennill cefnogaeth disgyblion eraill am eu bod hwythau eisiau sicrhau nad nhw fydd y dioddefwr nesaf. Bydd y bwlïod hyn yn pryfocio a phoeni eu targed cyn bwlio'r targed yn gorfforol. Yn aml, bydd targed y bwlïod yn ddisgyblion a ystyrir yn rhyfedd neu'n wahanol gan eu cyfoedion, a gwna hyn y sefyllfa yn anoddach iddynt ymdopi ag ef. Mae rhai bwlïod yn bwlio am eu bod yn unig, ac mae ganddynt angen mawr i berthyn, ond nid oes ganddynt y sgiliau cymdeithasol i gadw ffrindiau'n effeithiol. Fodd bynnag, mae yna beth ymchwil a awgryma nad yw canran sylweddol i blant ysgol "normal" yn ystyried trais mewn ysgol mewn ffordd mor negyddol a nifer o oedolion, a hyd yn oed yn cael rhyw fath o bleser ohono, ac felly nid ydynt yn gweld rheswm dros ei atal os yw'n dod a phleser iddynt ar ryw lefel.<ref>Kerbs, J.J. & Jolley, J.M. The Joy of Violence: What about Violence is Fun in Middle-School? American Journal of Criminal Justice. Vol. 32, Rhif. 1-2/ Hydref. 2007.</ref>
 
===Bwlio ar y We===