R. Tudur Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau) B WPCleaner v1.14 - en dash or em dash (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia) |
|||
Llinell 19:
Erbyn y saithdegau symudodd ei ddiddordeb ymchwil rywfaint o gyfnod y Piwritaniaid i gyfnod llawer mwy diweddar sef crefydd yng Nghymru yn oes Fictoria. Ffrwyth yr ymchwil yma oedd cyhoeddi dwy gyfrol sylweddol yn dwyn y teitlau 'Ffydd ac Argyfwng Cenedl: Hanes Crefydd yng Nghymru, 1890-1914', cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf yn 1981 ac fe'i dilynwyd gan yr ail flwyddyn yn ddiweddarach. Mae peth anghytundeb ynglŷn ac arwyddocâd y cyfrolau hyn gyda rhai fel R. Geraint Gruffydd yn dadlau '...anodd meddwl nad y gwaith hwn a gyfrifir yn fwyaf arwyddocaol...' tra bod eraill yn dal mae 'Hanes yr Annibynwyr' oedd ei magnus opus gan ddadlau fod amgylchiadau'r cyfnod, pleidlais na '79, yn gysgod dros Tudur ar y pryd ac y bydda'i gasgliadau fymryn yn wahanol petai wedi ei ysgrifennu wedi Refferendwm 1997. Boed hon y gyfrol orau neu beidio ganddo does dim gwadu fod ynddo ddadansoddiad manwl a chraff o'r newid crefyddol a ddigwyddodd yng Nghymru droad yr Ugeinfed Ganrif. Gwerth nodi fod yr ail gyfrol yn cynnwys penodau gwerthfawr iawn yn adrodd hanes Diwygiad 04-05. Mae'r ddwy gyfrol yma wedi eu cyfieithu a'u cyhoeddi fel un cyfrol Saesneg, unwaith yn rhagor wedi ei olygu gan [[Robert Pope]] a'i cyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2004.
== Gwleidyddiaeth a
Yn ogystal
Nid dim ond meistr ar lunio ysgrifau a chyfrolau trymion oedd Tudur, roedd ganddo ddawn fel newyddiadurwr poblogaidd. Bu'n olygydd newyddiaduron Cymraeg a Saesneg Plaid Cymru am gyfnodau maith. Cyhoeddodd bentwr o ysgrifau yn y cylchgrawn ''[[Barn (cylchgrawn)|Barn]]'' yn ogystal
Roedd ei rôl fel arweinydd Eglwysig oedd a daliadau uniongred wedi ei asio a newyddiaduraeth a'i ymwnelo a Phlaid Cymru yn ei wneud yn ffigwr nid annhebyg i'r gwladweinydd [[Calfinaidd]] o'r [[Iseldiroedd]] [[Abraham Kuyper]] yn ôl Bobi Jones. Byddai Tudur yn gosod ei hun ar y sbectrwm diwinyddol yn agos at Kuyper a Chalfinwyr yr Iseldiroedd ond fe frysia R. Geraint Gruffydd i bwysleisio mai ei '...ddyn ei hun...' oedd Tudur a'i fod yn ddigon o feddyliwr i allu dod i'w gasgliadau ei hun. Ategu hyn a wna D. Densil Morgan pan ddywed
Erbyn yr wythdegau roedd Tudur yn ffigwr crefyddol o bwys rhyngwladol. Ef oedd llywydd Cynghrair Annibynwyr y Byd rhwng 1981-85 ac yn gymedrolwr Cyngor Eglwysi Rhyddion Lloegr a Chymru 1985-6. Ddechrau'r nawdegau fe'i gwahoddwyd, yn un o ugain yn unig, i gyfarfod tyngedfennol yn hanes undod efengylaidd ym Mhrydain i bwyso a mesur yr ymateb i Fendith Toronto; ef a ddaeth, gyda'i falans o gariad a doethineb, a heddwch i'r trafodaethau. Fe'i gipiwyd gan drawiad calon a hynny yn gwbl anisgwyliedig fis Gorffennaf 1998. Roedd yng nghanol gwaith sylweddol arall pan aeth at ei waredwr, cyfrol ar hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Erys y teyrngedau iddo gan ei wrthwynebwyr diwinyddol yn ogystal a'i gefnogwyr i R. Tudur Jones fod yn ffigwr sylweddol yn hanes crefyddol, cymdeithasol a gwleidyddol Cymru'r
== Ffynonellau ==
|