Eileen Beasley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: nds-nl:Eileen Beasley
Llinell 3:
 
==Cefndir ac Ymgyrch==
Un o ardal Hendy-gwyn ar Daf oedd Eileen James. Aeth i Goleg Prifysgol Caerdydd a daeth yn athrawes. Glöwr ym Mhwll y Morlais [[Llangennech]] oedd Trefor. Fe wnaethant gwrdd yng nghyfarfodydd [[Plaid Cymru]] a daethant o dan ddylanwad [[D. J. Davies (economegydd)|D. J. Davies]] a'r [[WEA]]. Priododd y ddau ar 31 Gorffennaf 1951<ref>[http://familytreemaker.genealogy.com/users/p/r/y/Rhoslyn-Prys/WEBSITE-0001/UHP-0110.html Tudalen y teulu ar Genealogy.com]</ref> a phrynu tŷ yn yr Allt, Llangennech ym 1952.
 
Ar ôl priodi a symud i Langennech y gwnaethant benderfynu y dylent wrthod talu'r dreth ar y tŷ oni chaent gais yn Gymraeg. Buont yn y llys 16 gwaith ac fe fu'r bwmbeilïaid yno bedair gwaith, gan fynd â mwyafrif eu dodrefn o'r tŷ ar rai achlysuron.<ref> Darlith gan ŵyr i Trefor ac Eileen, Dr Cynog Prys, ym Mhabell y Cymdeithasau, Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, 2012</ref> Ar ôl wyth mlynedd o ymgyrchu fe gawsant eu papur treth dwyieithog ym 1960.
 
==Arloesi a Dylanwad==