Eileen Beasley
Ymgyrchydd hawliau iaith oedd Eileen Beasley (4 Ebrill 1921 – 12 Awst 2012).[1] Gyda'i gŵr Trefor Beasley mae hi'n enwog am eu hymgyrch i fynnu papur treth Cymraeg (neu ddwyieithog) gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli yn ystod pumdegau'r ugeinfed ganrif. Yr adeg honno nid oedd statws i'r Gymraeg o gwbl: dim ffurflenni swyddogol gan gyrff cyhoeddus nac arwyddion ffyrdd dwyieithog. Mae Eileen Beasley wedi ei galw yn "fam gweithredu uniongyrchol" yng Nghymru ac yn "Rosa Parks Cymru".[angen ffynhonnell] Ysgrifennodd Angharad Tomos lyfr am ymgyrch Eileen sef 'Darn bach o bapur'[2]
Eileen Beasley | |
---|---|
Ganwyd | Catherine Eileen James 4 Ebrill 1921 Henllan Amgoed |
Bu farw | 12 Awst 2012 o canser y pancreas Henllan Amgoed |
Man preswyl | Llangennech |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro ysgol, ymgyrchydd iaith |
Priod | Trefor Beasley |
Cefndir ac ymgyrch
golyguUn o ardal Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin oedd Catherine Eileen James. Aeth i Goleg Prifysgol Caerdydd a daeth yn athrawes. Glöwr ym Mhwll y Morlais Llangennech oedd Trefor. Fe wnaethant gwrdd yng nghyfarfodydd Plaid Cymru a daethant o dan ddylanwad D. J. Davies a'r WEA. Priododd y ddau ar 31 Gorffennaf 1951[3] a phrynu tŷ yn yr Allt, Llangennech ym 1952.
Ar ôl priodi a symud i Langennech y gwnaethant benderfynu y dylent wrthod talu'r dreth ar y tŷ oni chaent gais yn Gymraeg. Buont yn y llys 16 gwaith ac fe fu'r bwmbeilïaid yno bedair gwaith, gan fynd â mwyafrif eu dodrefn o'r tŷ ar rai achlysuron.[4] Ar ôl wyth mlynedd o ymgyrchu fe gawsant eu papur treth dwyieithog ym 1960.
Arloesi a dylanwad
golyguNid yn unig roedd y Gymraeg yn anweledig fel iaith ar gyfer materion swyddogol yn y cyfnod hwn, roedd ymgyrchu mor uniongyrchol er mwyn defnyddio'r Gymraeg gyda'r wladwriaeth yn beth newydd ac yn gwbl anarferol. Meddai Dafydd Iwan:
Wyt ti'n cofio teulu'r Beasleys yn gwrthod talu'r dreth?
A phobl Llanelli'n gofyn, 'Y ffylied dwl, i beth?'
Cofio'u haberth,
a'u gweledigeth.
Daw fe ddaw yr awr yn ôl i mi.
Er mai Cymraeg oedd iaith gyntaf mwyafrif llethol pobl Llanelli (90%) ar y pryd, fel mwyafrif swyddogion Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli, y farn gyffredinol yn y dref yr adeg honno a gweddill Cymru, oedd bod y teulu yn afresymol yn eu gofynion. Roedd statws y Gymraeg yn isel tu hwnt, a'i siaradwyr cyffredin yn barod i amddiffyn lle'r Saesneg fel yr unig iaith swyddogol yng Nghymru.
Fodd bynnag, ysbrydolwyd rhai gan ymgyrch y Beasleys. Meddai Saunders Lewis yn anterth ei ddarlith enwog Tynged yr Iaith ym 1962, a fu'n ysbrydoliaeth i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr un flwyddyn:
A gaf i alw eich sylw chi at hanes Mr a Mrs Trefor Beasley. Glöwr yw Mr Beasley. Yn Ebrill 1952 prynodd ef a'i wraig fwthyn yn Llangennech gerllaw Llanelli, mewn ardal y mae naw o bob deg o'i phoblogaeth yn Gymry Cymraeg. Yn y cyngor gwledig y perthyn Llangennech iddo y mae'r cynghorwyr i gyd yn Gymry Cymraeg: felly hefyd swyddogion y cyngor. Gan hynny, pan ddaeth papur hawlio'r dreth leol atynt oddi wrth The Rural District Council of Llanelly, anfonodd Mrs Beasley i ofyn am ei gael yn Gymraeg. Gwrthodwyd. Gwrthododd hithau dalu'r dreth nes ei gael. Gwysiwyd hi a Mr Beasley dros ddwsin o weithiau gerbron llys yr ustusiaid. Mynnodd Mr a Mrs Beasley fod dwyn y llys ymlaen yn Gymraeg. Tair gwaith bu'r beilïod yn cludo dodrefn o'u tŷ nhw, a'r dodrefn yn werth llawer mwy na'r dreth a hawlid. Aeth hyn ymlaen am wyth mlynedd. Yn 1960 cafodd Mr a Mrs Beasley bapur dwy-ieithog yn hawlio'r dreth leol oddi wrth Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli, a Chymraeg y bil lawn cystal â'i Saesneg . . . Fe ellir achub y Gymraeg. Y mae Cymru Gymraeg eto'n rhan go helaeth o ddaear Cymru ac nid yw'r lleiafrif eto'n gwbl ddibwys. Dengys esiampl Mr a Mrs Beasley sut y dylid mynd ati.[5]
Roedd y gweithredu uniongyrchol torfol a welwyd gan aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y chwedegau (a'r degawdau dilynol) wedi'u hysbrydoli i raddau helaeth gan weithredu unig teulu'r Beasleys yn ystod y degawd blaenorol.
Ddechrau'r 60au bu Trefor yn annerch cyfarfod o gangen Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth o Blaid Cymru [6]
Plaid Cymru
golyguDrwy weithgarwch Plaid Cymru y bu iddynt gwrdd yn y lle cyntaf. Yn etholiad seneddol 1955 safodd Trefor Beasley dros Blaid Cymru yn etholaeth Aberdâr. Safodd y ddau dros ward Llangennech yn etholiad Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli a chafodd y ddau yr un faint o bleidleisiau, sef 913 a oedd yn ddigon i'w hethol. Ar y pryd nid oedd gan adeiladau'r cyngor dai bach i fenywod hyd yn oed.[7]
Cofio
golyguBu farw Trefor Beasley ym 1994. Bu farw Eileen Beasley yn 2012.[8]
Ar achlysur (gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg) talu teyrnged i Eileen Beasley yn 2006, canodd Gerallt Lloyd Owen gywydd iddi yn moli ei chyfraniad i sicrhau parhad y Gymraeg:
- Oedd, yr oedd dy iaith yn ddrud
Eithafol ei threth hefyd
Ond ei dyled a delaist
Fwy na llawn trwy fynnu llais,
Trwy fynnu prynu parhad
Yn wyneb ei diflaniad
Dewr oet yn ei brwydr hi
A rhoddaist hyder iddi
A thra byddo dyfodol
I'r Gymraeg yma ar ôl
Fe welir naddu filwaith
Dy enw di yn dy iaith.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Eileen Beasley: Welsh language campaigner (en) , independent.co.uk, 28 Medi 2012. Cyrchwyd ar 4 Gorffennaf 2017.
- ↑ Eileen Beasley - Rosa Parks Cymru Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback ar wefan Gweriniaeth Cymru
- ↑ Tudalen y teulu ar Genealogy.com
- ↑ Darlith gan ŵyr i Trefor ac Eileen, Dr Cynog Prys, ym Mhabell y Cymdeithasau, Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, 2012
- ↑ Tynged yr Iaith, 1962
- ↑ Profiad personol Dyfrig Thomas
- ↑ Darlith gan ŵyr i Trefor ac Eileen ym Mhabell y Cymdeithasau, Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, 2012
- ↑ Eileen Beasley wedi marw. Golwg360 (12 Awst 2012).
Dolenni allanol
golygu- Anrhydeddu Eileen Beasley, BBC Cymru
- Stori Trefor ac Eileen Beasley o Langennech, BBC (1987), ar Youtube
- Fideo: Teyrnged i Eileen Beasley Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (2006)
- Colli un o'r ymgyrchwyr iaith cyntaf, 12 Awst 2012, BBC Cymru
- Dafydd Iwan: 'Dyled fawr' i'r Beasleys, 12 Awst 2012, Golwg360
- James, E. Wyn; Williams, Colin H. (2016). "Beasley, (Catherine) Eileen (1921–2012)". Yn Cannadine, David (gol.). Oxford Dictionary of National Biography. Oxford: Oxford University Press.