Necropolis Giza: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 19:
==Pwrpas y Pyramidiau==
Credir fod y Pyramidiau yn Giza a llefydd eraill wedi eu hadeiladu i gartrefu gweddillion y Pharoaid ymadawedig a oedd yn rheoli dros yr Hen Aifft. Credwyd bod cyfran o enaid y [[Pharo]] a elwid yn ''ka'' yn aros gyda'r corff. Roedd gofal priodol o'r olion yn angenrheidiol er mwyn i'r cyn Pharo cyflawni ei ddyletswyddau newydd fel brenin y meirw. Damcanir bod y pyramid yn gwasanaethu fel bedd i'r Pharo a hefyd fel storfa ar gyfer y gwahanol eitemau byddai angen iddo yn y byd a ddaw. Roedd pobl yr Hen Aifft yn credu bod marwolaeth ar y Ddaear yn dechrau'r daith i'r byd nesaf a bod pêr-eneinio corff y Brenin a'i gladdu o fewn y pyramid yn ei ddiogelu, yn caniatáu ei thrawsnewidiad ac yn sicrhau ei esgyniad i'r byd a ddaw. <ref>{{cite web |url=http://www.culturefocus.com/egypt_pyramids.htm |title=Egypt pyramids |author= |work= |publisher=culturefocus.com |accessdate= 7 Rhagfyr 2014}}</ref>
 
==Pentref y Gweithwyr==
Er mwyn adeiladu'r Pyramidiau byddid angen gweithlu enfawr; gan gynnwys chwarelwyr, cerflunwyr, crefftwyr, llafurwyr, seiri coed ac ati a nifer o weithwyr wrth gefn i gyflawni anghenion y sawl oedd yn gyfrifol am yr adeiladwaith megis pobyddion, bragwyr, cludwyr dwr ac eraill.
 
Pan ymwelodd yr hanesydd Groegaidd Herodotus a Giza yn 450 CC, dywedwyd wrtho gan offeiriaid o'r Aifft bod ''y Pyramid Mawr wedi cymryd 400,000 o ddynion 20 mlynedd i'w adeiladu, yn gweithio mewn tair sifft o 100,000 o ddynion ar y tro."
 
Mae safle pyramidiau Giza wedi ei amgylchynu gan wal gerrig mawr, y tu allan i'r wal canfuwyd pentref lle'r oedd gweithwyr y pyramidiau yn cael eu cartrefu. Mae'r pentref wedi ei leoli i'r de-ddwyrain o safleoedd Khafre a Menkaure. Ymhlith y darganfyddiadau yn y pentref mae lle cysgu cymunedol, poptai, bragdai a cheginau (gyda thystiolaeth yn dangos bod bara, cig eidion a physgod yn rhan o brif nwyddau'r diet), ysbyty a mynwent (lle mae rhai o'r sgerbydau a ganfuwyd gydag arwyddion o drawma sy'n gysylltiedig â damweiniau ar safle adeiladu).<ref>[http://www.aeraweb.org/projects/lost-city/] The Lost City of the Pyramids adalwyd 7 Rhagfyr 2014</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}