Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[File:Sir Stephen Glynne 01.jpeg|thumb|Syr Stephen Glynne]]
Roedd '''Syr Stephen Richard Glynne''', 9fed Barwnig ([[22 Medi]], [[1807]] - [[17 Mehefin]], [[1874]]) yn dirfeddiannwr Gymreig ac yn wleidydd [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Geidwadol]]. Fe'i cofir yn bennaf fel ymchwilydd ym maes yr hynafiaethau gyda diddordeb arbennig mewn pensaernïaeth eglwysig Prydain. Yr oedd yn frawd-yng-nghyfraith i'r [[Prif Weinidog|Brif Weinidog]] Rhyddfrydol [[William Ewart Gladstone]].<ref>GLYNNE (TEULU), Penarlâg Y Bywgraffiadur arlein[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-GLYN-PEN-1603.html] adalwyd 28 Rhagfyr 2014</ref>
 
 
==Cefndir==
Bu farw Syr [[Stephen Richard Glynne, 8fed Barwnig|Stephen]] yr 8fed farwnig ym 1815 yn 35 mlwydd oed. Gan hynny etifeddodd Stephen ei fab y farwniaeth ac ystadau'r teulu (a oedd yn cynnwys [[Castell Penarlâg]]) pan nad oedd ond 7 mlwydd oed.<ref>GLYNNE, Sir Stephen Richard, 9th bt. (1807-1874), of Hawarden Castle, Flint The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, ed. D.R. Fisher, 2009 [http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1820-1832/member/glynne-sir-stephen-1807-1874] adalwyd 28 Rhagfyr 2014</ref>
 
Priododd Catherine, chwaer Stephen Glynne, y gwleidydd William Ewart Gladstone. Gwnaeth tad Gladstone, Syr John Gladstone, helpu achub Glynne rhag mynd yn fethdalwr ar ôl methiant gwaith haearn yr oedd yn rhan berchennog arnynt<ref>THE OAK FARM IRON WORKS -Carnarvon and Denbigh Herald 22 Ionawr 1848[http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3643822/ART7]adalwyd 27 Rhag 2014</ref>. Yr unig fodd iddo gadw ei deiliadaeth o [[Penarlâg|Benarlâg]] oedd trwy werthu rhan o'r ystâd a chytuno i rannu ei gartref [[Castell Penarlâg (18fed ganrif)|Castell Newydd Penarlâg]] gyda William a Catherine.
Llinell 25 ⟶ 26:
Yn codi o'i Anglicanaeth pybyr roedd gan Glynne diddordeb mawr mewn pensaernïaeth eglwysig. Yr oedd yn aelod o bwyllgor, yn ddiweddarach yn ysgrifennydd mygedol, ac yn y pendraw yn is-lywydd yr ''Ecclesiological Society'' cymdeithas a oedd yn hybu astudiaethau o bensaernïaeth Gothig ac o hynafiaethau Eglwysig. Ym 1847 bu'n un o olygyddion llyfr a gyhoeddwyd gan y gymdeithas ''Hand-Book of English Ecclesiology.''
 
Yn ystod ei fywyd bu Glynne yn ymweld â dros bum mil o eglwysi gan wneud nodiadau manwl am eu nodweddion pensaernïol<Ref> Cyngor Sir y Fflint - NODIADAU EGLWYSI SYR STEPHEN GLYNNE [http://www.siryfflint.gov.uk/cy/PDFFiles/Records-and-Archives/Source-Guide-No-11-NODIADAU-EGLWYSI-SYR-STEPHEN-GLYNNE.pdf] adalwyd 28 Rhagfyr 2014</ref>. Mae ei nodiadau yn dyddio o 1824 tan ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth ac maent yn cwmpasu eglwysi yng Nghymru, Lloegr ac Ynysoedd y Sianel ac ychydig yn yr Alban ac Iwerddon. Mae ei nodiadau yn parhau i gael eu gwerthfawrogi'n fawr gan haneswyr pensaernïol, gan eu bod yn aml yn rhoi cofnod byr a gwybodus o'r adeiladau fel yr oeddent cyn adferiadau Fictoraidd
Mae nodiadau eglwysig Glynne wedi eu cadw mewn 106 o gyfrolau, sydd yn cael eu cadw yn [[Llyfrgell Gladstone]] (Llyfrgell Deiniol Sant gynt), Penarlâg yn.<ref>Glynne, Sir Stephen Richard (1807-1874) 9th Baronet MP Antiquary [http://discovery.nationalarchives.gov.uk/details/c/F68714] adalwyd 28 Rhagfyr 2014<ref> Er na chyhoeddodd Glynne ei nodiadau yn ystod ei fywyd mae sawl gyfrol bellach wedi eu cyhoeddi gan gymdeithasau archeolegol a chofnodi lleol ers ei farwolaeth.
 
Bu Glynne hefyd yn gwasanaethu fel Llywydd cyntaf (1847-9) Cymdeithas Hynafiaethau Cymru; ac fel cadeirydd (1852-1874) Adran Bensaernïol y Sefydliad Archeolegol.