Wicipedia:Cymorth iaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 472:
 
Y brif reswm dros gyhoeddi ''Y Gymraeg a'i Gystrawen JMJ'', oedd bod gan bron i bob newyddiadur Cymraeg rheolau cystrawen annibynnol, amhosibl eu dilyn, os oedd dyn am gyfrannu at sawl gyhoeddiad, Y Dydd, Y Goleuad ac ati!<br/>Rwy'n melltithio JMJ am safoni'r Gymraeg ar Gymraeg Môn, llawer gwell pe byddai wedi gwrando ar Gymraeg De Meirionnydd a Gogledd Maldwyn er mwyn cydbwysedd, ond cafwyd safon; safon lle 'roedd ''roedd'' ac ''yr oedd'' yn dderbyniol. Onid oes berygl mynd yn ôl i'r dyddiau du cyn y ''Gymraeg a'i Gystrawen'' trwy greu safon iaith ''golygyddawl, unigawl'' i Wicipedia trwy newid manion megis ''yr oedd ''(Cymraeg cywir) i ''roedd'' (Cymraeg cywir)? (Cwestiwn onest er mwyn dysgu mwy am ddefnydd yr iaith, nid cwestiwn i greu dadl dibwys) 07:12, 18 Chwefror 2015 (UTC)[[Defnyddiwr:AlwynapHuw|AlwynapHuw]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:AlwynapHuw|sgwrs]]) 07:19, 18 Chwefror 2015 (UTC)
 
== Cyfieithu teitl Arglwydd ==
 
[[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] Rwyf wedi creu pwt o erthygl am [[George Rice Rice-Trevor]] a chafodd ei ddyrchafu i'r Arglwyddi fel ''4th Baron Dynevor'' a ddylid cyfiethu ei deitl i Farwn Dinefwr, neu i Farwn Dynevor? [[Defnyddiwr:AlwynapHuw|AlwynapHuw]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:AlwynapHuw|sgwrs]]) 03:42, 13 Ebrill 2015 (UTC)