John Josiah Guest: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 112:
 
==Gwrthryfel y gweithwyr ==
Yn ystod [[Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful]], yr oedd Guest, yn amlwg, ar ochr y meistri a ''chyfraith a threfn''; ond mae'n debyg ei fod yn ychydig mwy cymedrol na rhai o'i gyd feistri megis [[William Crawshay II]] a oedd am ddangos ''y gwrthwynebiad mwyaf pendant i'r gweithredoedd anghyfreithiol'' a [[Crawshay Bailey]] a oedd yn addo ''mentro fy mywyd yn hytrach na cholli fy eiddo'' ac yn addo defnyddio holl rym y wlad ar y gwrthryfelwyr pe na baent yn ildio a dychwelyd i'w llefydd gwaith; yr oedd Guest yn argymell eu bod yn dychwelyd i'w cartrefi ac yn ddwys ystyried ffurf amgenach o fynegi eu hanghydfod. Yn ôl rhai adroddiadau o'r wasg ar ddiwrnod olaf y terfysg fe arbedwyd cyflafan pan safodd Guest rhwng y milwyr a'r protestwyr gan sicrhau nad oedd modd i'r milwyr saethu heb ei ladd ef a gan sicrhau amddiffyn hawliau'r gweithwyr pe baent yn ymwasgaru.<ref>The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette, 4 Rhagfyr 1852, ''The Death of Sir Josiah John Guest'' [http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3090410/3090413/29/] adalwyd 1 Medi, 2015</ref>
 
Mae'n debyg mae creu arwr allan o aelod o'r sefydliad yw'r fath adroddiadau, gwrth arwr radical i Dic Penderyn, a bod y wasg Ryddfrydol am sicrhau bod y sefydliad ddim yn gweld Rhyddfrydiaeth fel gormod o fygythiad i'r sefydliad; ond yn ddi-os fe ddefnyddiodd Guest yr anghydfod ym Merthyr fel dadl dros sicrhau sedd Seneddol i Ferthyr<Ref> John Davies;''Hanes Cymru'' tud 369 ; Penguin Press, Llundain 1990; ISBN 0-7139-9011-2 </ref>