Ursa Minor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
CamWrthGam (sgwrs | cyfraniadau)
Creu'r tudalen.
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 00:07, 30 Tachwedd 2015

Ursa Minor (Lladin: Arth Fach) yw cytser yn awyr y nos sydd yn cynnwys pegwn wybrennol y gogledd a Seren y Gogledd, Polaris.[1][2]

Cytser Ursa Minor, neu'r Arth Fach, yn awyr y nos.

Polaris ydy'r seren disgleiriaf yn y cytser, a felly adnabyddir y seren fel Alffa Ursae Minoris (α UMi) ar gyfundrefn enwi sêr yr hen seryddwr Almaeneg Johann Bayer. Yr unig seren arall yn y cytser sydd yn haws i weld gyda'r llygad noeth ydy Kochab, neu Beta Ursae Minoris (β UMi). Does dim nifylau, clysterau sêr na galaethau disglair yn y cytser.[3]

Fel y cytser sydd yn cynnwys y pegwn gogleddol, mae Ursa Minor yn weladwy o bron yr holl o Hemisffer y Gogledd o'r byd, ond anweladwy o Hemisffer y De.

Cyfeiriadau

  1. Evans, J. Silas (1923). Seryddiaeth a Seryddwyr. Caerdydd: William Lewis, Argraffwyr, Cyf. tt. 50–53.
  2. Mills, Caradoc (1914). Y Bydoedd Uwchben: Llawlyfr ar Seryddwyr. Bangor: P. Jones-Roberts. tt. 153–154, 163.
  3. Robert, Burnham (1978). Burnham's Celestial Handbook. 3. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. tt. 2006–2026. ISBN 0-486-23673-X Check |isbn= value: checksum (help). (Yn Saesneg.)
  Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.