Love Jones-Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 48:
 
==Bywyd Personol==
Ganwyd Love Jones Parry ym 1832 yn fab i [[Love Parry Jones-Parry|Syr Love Parry Jones-Parry]] a'i ail wraig Elizabeth Caldescott merch Thomas Caldescott, Holton Lodge, Swydd Lincoln. Derbyniodd ei addysg yn [[Ysgol Rugby]] a [[Coleg y Brifysgol, Rhydychen|Choleg y Brifysgol, Rhydychen]] gan raddio ym 1850.<ref>Nicholas, Thomas; Annals and antiquities of the counties and county families of Wales T354 [https://archive.org/stream/annalsantiquitie01nich#page/354/mode/2up] adalwyd 14 Mawrth 2015</ref>
 
Priododd Mrs Charlotte Bell Elliot, gweddw Fredrick A Elliot yn [[Llundain]] ym 1886, ni chawsant blant.<ref>Llangollen Advertiser 19 Tachwedd 1886 ''Marriage of Sir Love Jones-parry Bart'' [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3291075/ART21] adalwyd 14 Mawrth 2015</ref>
 
==Ei yrfa gyhoeddus==
Etifeddodd Love Jones-Parry stâd [[Madryn (stâd)|Madryn]], gerllaw [[Nefyn]] ar ôl ei dad, [[Syr Love Parry Jones-Parry]]. Bu’n [[Siryfion Sir Gaernarfon yn y 19eg Ganrif|Uchel Siryf]] [[Sir Gaernarfon]] yn [[1854]]. Roedd yn amlwg mewn cylchoedd eisteddfodol, lle’r adwaenid ef dan ei [[enw barddol]] "Elphin".
 
Daeth i amlygrwydd gwleidyddol pan enillodd sedd [[Sir Gaernarfon (etholaeth seneddol)|Sir Gaernarfon]] yn etholiad [[1868]], gan guro’r ymgeisydd [[Ceidwadwyr|Torïaidd]], [[George Sholto Gordon Douglas-Pennant, 2ail Farwn Penrhyn|George Sholto Gordon Douglas-Pennant]] (yn ddiweddarach [[Barwn Penrhyn]]). Collodd y sedd hon yn yr etholiad nesaf, ond enillodd sedd [[Bwrdeisdrefi Caernarfon]] yn [[1882]], a daliodd y sedd hyd [[1886]]. Fe’i gwnaed yn [[Barwnig|Farwnig]] gan [[William Ewart Gladstone|Gladstone]] am ei wasanaethau i’r [[Rhyddfrydwyr|Blaid Ryddfrydol]].