Dafydd Gam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Roedd yn wrthwynebwr blaengar i [[Owain Glyndŵr]] yn ne-ddwyrain Cymru. Cymerwyd ef yn garcharor gan Glyndŵr yng nghyffiniau Aberhonddu tua 1410 (neu o bosibl 1412).
 
Yn ddiweddarach, bu'n ymladd dros [[Harri V, brenin Lloegr|Harri V]] yn y [[Rhyfel Can Mlynedd]] yn [[Ffrainc]], a lladdwyd ef ym [[Brwydr Agincourt|Mrwydr Agincourt]] yn 1415. Mae traddodiad iddo gael ei urddo'n farchog ar faes y frwydr cyn iddo farw, ond nid oes tystiolaeth i gadarnhau hyn. Mae'n bosib mae Dafydd ap Llywelyn yw sail y Cymeriad Cymreig [[Fluellen]] cyfeirir ato yn y ddrama ''[[Henry V]]'' gan [[William Shakespeare]] lle mae'n ymddangos fel un o ysweiniaid brenin Lloegr. <ref>T. F. Tout, ‘Dafydd Gam (d. 1415)’, rev. R. R. Davies, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Jan 2008 [http://www.oxforddnb.com/view/article/10318, adalwyd 27 Rhagfyr 2015]</ref><ref>Spark Notes → Shakespeare Study Guides → Henry V → Character List ''Captain Fluellen, Captain MacMorris, and Captain Jamy'' [http://www.sparknotes.com/shakespeare/henryv/characters.html] adalwyd 27 Rhagfyr 2015</ref>., er bod ''Davy Gam'' yn cael ei grybwyll wrth ei enw yn y ddrama fel un o'r rai bu farw; bu un o ddisgynyddion Dafydd Gam, [[John Games]] yn gyfaill i Shakespeare, gan hynny mae'n bosib bod y cymeriad cyffredinol a'r cyfeiriad penodol wedi ei grybwyll ganddo fo.
 
Credir i'r llysenw "Gam" gael ei ennill, efallai gan mai dim ond un llygad oedd ganddo neu ei fod yn llygatgroes.