Hedfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Delusion23 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 5:
 
Yr [[ystlum]] yw'r unig mamal a all hedfan, er bod nifer o famaliaid ac ymlusgiaid yn medru gleidio.
 
==Cymry yn yr awyr==
Ymhlith y Cymry blaenllaw yn y maes hwn y mae: [[Charles Stewart Rolls]] a sefydlodd y cwmni [[Rolls Royce]] ac a oedd y cyntaf o [[wledydd Prydain]] i farw mewn damwain awyrennau. Roedd [[Ernest Thompson Willows]] yn flaenllaw gyda [[balwnau aer]] a [[llong awyr|llongau awyr]] hefyd.
 
Y cwmni hedfan cenedlaethol cyntaf yng [[Cymru|Nghymru]] oedd '''Cambrian Airways''' a ffurfiwyd yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] yn [[1935]] o dan yr enw ''Cambrian Air Services'', gan y masnachwr S. Kenneth Davies. sefydlwyd [[Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd]] yn yr 1940au.
 
==Hanes hedfan yng Nghymru==
[[Delwedd:BAC 1-11 G-AVOF Cambrian BAS Ringway 18.08.70 edited-2.jpg|bawd|chwith|400px|Un o awyrennau [[Cambrian Airways]]: cwmni awyrennau cenedlaethol Cymru.]]
===Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf===
* [[Y brodyr James o Sir Benfro]], [[Horace Watkins]] a [[W. E. Williams (awyrenwr)]] yn adeiladu awyrenau ar gychwyn yr 20ed ganrif.
* [[Denys Corbett Wilson]]: hedfanodd o [[Abergwaun]] i [[Swydd Wexford]] yn [[Iwerddon]] ar 22 Ebrill 1912. Yr hediad cyntaf rhwng y ddwy wlad.
* [[Vivian Hewitt]] o'r [[Rhyl]]: y cyntaf i groesi'r o [[Caergybi|Gaergybi]] i [[Dulyn|Ddulyn]] ar 26 Ebrill 1912.
* Gustav Hamel a Hery Astley yn gwneud campau mewn ffeiriau awyrenau ledled Cymru.
* Ernest Thompson Willows (''Tad llongau awyr Prydain'') yn hedfan dros [[Môr Hafren|Fôr Hafren]].
* Yn ystod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]]: agorwyd gorsafoedd [[llongau awyr]] ym [[Môn]].
* Sefydlu [[maes awyr]] North Shotwick a South Shotwick yn ''Queensferry'' ([[Glannau Dyfrdwy]]).
 
===Rhwng y ddau ryfel byd===
* Rhwng y ddau ryfel byd datblygu'r diwydiant awyrennau masnachol.
* Awyrennau Avro yn [[Abertawe]] yn cynnig teithiau pleser.
* Ychwaneg o sioeau awyr gan ddynion fel [[Alan Cobham]] ac [[Idwal Jones]] o [[Tal-y-sarn|Dal-y-sarn]].
* 1930au: sefydlu gwasanaeth awyr rhwng [[Caerdydd]] a [[Weston super Mare]], [[Bryste]] a [[Birmingham]].
* 1935: sefydlu [[Cambrian Airways]], cwmni awyrennau cenedlaethol Cymru. Daeth i ben yn 1976.
* 1930: yr Awyrlu'n agor canolfan awyrennau môr yn [[Doc Penfrp|Noc Penfro]] a 4 maes awyr mewn mannau eraill.
* 1938 adeiladwyd Maes Awyr Penarlâg ger Brychdyn, [[Sir y Fflint]] i gynhyrchu awyrennau bomio Vickers Wellington.
[[Delwedd:Leonardo da Vinci helicopter.jpg|bawd|"Sgriw awyr" [[Leonardo da Vinci]].]]
 
===Yr Ail Ryfel Byd ===
* Erbyn 1939 roedd 7 [[maes awyr]] yng Nghymru. Oherwydd yr Ail Ryfel Byd ychwanegwyd 27 maes awyr arall.
* 5,540 o awyrennau Wellington yn cael eu hadeiladu dros gyfnod y rhyfel ym Mrychdyn.
* Awyrlu'r [[Fali]] ym Môn yn datblygu i fod yn orsaf draws-Iwerydd.
* Doc Penfro'n datblygu i fod yn ganolfan o awyrennau [[Llong danfor|gwrth-longau tanfor]].
 
===Wedi'r rhyfel===
* Ceuwyd hanner y maesydd awyr ar ddiwedd y rhyfel.
* [[Breudraeth]] a'r Fali'n hyfforddi peilotiaid.
* Yn 1948 wedi seibiant o 3 blynedd ailgychwynwyd adeiladu awyrennau.
* Yn 1971 (a'r ffatri'n eiddo i Hawker Sydney) cychwynwyd cynhyrchu adennydd yr [[A300]] (y [[bws awyr]]).
 
{{Wiciadur|{{PAGENAME}}}}