Awyrennu yng Nghymru

Balwnwyr oedd y rhai cyntaf i fentro esgyn i'r awyr uwchben Cymru, a hynny yn y 19eg ganrif.[1] Arloesoedd Ernest Thompson Willows yr awyrlong ym Mhrydain ar ddechrau'r 20g, ac ymhlith y Cymry blaenllaw ym maes awyrennu y mae Charles Stewart Rolls a sefydlodd y cwmni Rolls Royce ac a oedd y cyntaf o wledydd Prydain i farw mewn damwain awyrennau.

Awyrennu yng Nghymru
MathAviation in the United Kingdom Edit this on Wikidata

Hanes golygu

William Frost golygu

 
Llun batent o beiriant hedfan William Frost.

Dyluniodd William Frost o Sir Benfro beiriant hedfan ac ym 1894 enillodd batent am "Gleider Awyrlong Frost". Honnir iddo ei hedfan yn Saundersfoot ym 1896, gan deithio 500 llath cyn iddo wrthdaro â choeden a chwympo mewn cae. Os yw hyn yn wir, roedd yn pellach na thaith y brodyr Wright ym 1903.[2]

Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf golygu

Rhwng y ddau ryfel byd golygu

Dechreuodd yr awyrenwraig Seisnig Amy Johnson o Draeth Pentywyn ar ei thaith i'r Unol Daleithiau ym 1933. Cwympodd ei hawyren yn Bridgeport, Connecticut, wedi iddi ddefnyddio'i holl danwydd, ac hon oedd y daith drawsiwerydd gyntaf i hedfan o'r dwyrain i'r gorllewin.

  • 1935: sefydlu Cambrian Airways, cwmni awyrennau cenedlaethol Cymru. Daeth i ben yn 1976.
  • 1930: yr Awyrlu'n agor canolfan awyrennau môr yn Noc Penfro a 4 maes awyr mewn mannau eraill.
  • 1938 adeiladwyd Maes Awyr Penarlâg ger Brychdyn, Sir y Fflint i gynhyrchu awyrennau bomio Vickers Wellington.

Yr Ail Ryfel Byd golygu

  • Erbyn 1939 roedd 7 maes awyr yng Nghymru. Oherwydd yr Ail Ryfel Byd ychwanegwyd 27 maes awyr arall.
  • 5,540 o awyrennau Wellington yn cael eu hadeiladu dros gyfnod y rhyfel ym Mrychdyn.
  • Awyrlu'r Fali ym Môn yn datblygu i fod yn orsaf draws-Iwerydd.
  • Doc Penfro'n datblygu i fod yn ganolfan o awyrennau gwrth-longau tanfor.

Wedi'r rhyfel golygu

  • Ceuwyd hanner y meysydd awyr ar ddiwedd y rhyfel.
  • Breudraeth a'r Fali'n hyfforddi peilotiaid.
  • Yn 1948 wedi seibiant o 3 blynedd ailgychwynwyd adeiladu awyrennau.
  • Yn 1971 (a'r ffatri'n eiddo i Hawker Sydney) cychwynwyd cynhyrchu adenydd yr A300 (y bws awyr).

Awyrennu masnachol golygu

Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd golygu

Maes awyr mwyaf Cymru ac un o feysydd awyr mwyaf llwyddiannus y Deyrnas Unedig yw Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Agorodd ym 1942 a'r ehediadau masnachol cyntaf oedd i Iwerddon a Ffrainc. Cychwynnodd teithiau trawsiwerydd ym 1971 a thyfodd y maes awyr yn sylweddol yn y 1980au wrth i wyliau i wledydd Môr y Canoldir ddod yn fwyfwy poblogaidd. Ychwanegwyd ehediadau siarter i Ganada a Fflorida, ac ar ddechrau'r 1990au cynigodd Manx Airlines deithiau'n ddyddiol i gyrchfannau busnes ar draws Prydain ac Ewrop. Teithiodd y miliynfed deithiwr drwy Gaerdydd yn Awst 1994. Cafodd y maes awyr ei breifateiddio ym 1995. Sefydlodd y cwmni cost-isel bmibaby foth (hub) yng Nghaerdydd yn 2002.

Cwmnïau hedfan golygu

 
Un o awyrennau Cambrian Airways.

Cambrian Airways oedd cwmni hedfan cenedlaethol cyntaf Cymru, a pharhaodd o 1935 hyd 1976. Gwasanaeth Awyr Cymru (1950–51) oedd gwasanaeth hofrennydd rheolaidd cyntaf y byd.

Sefydlwyd Airways International Cymru ym 1984, a chynigodd ehediadau o Gaerdydd i 20 o gyrchfannau ar draws Ewrop. Daeth gwasanaethau Airways Cymru i ben ym 1988.[3]

Gweithredodd Awyr Cymru o 2000 hyd 2006. Daeth i ben oherwydd costau cynyddol a chystadleuaeth gan y cwmnïau enfawr oedd yn cynnig ehediadau tebyg.[3]

Damweiniau golygu

Y cyfuniad o ucheldir a chymylau isel sydd ar fai am sawl damwain awyren yng Nghymru, yn enwedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd: o blith y 27 damwain a gofnodwyd ym Mannau Brycheiniog, digwyddodd 23 ohonynt rhwng 1939 a 1946.[1] Y ddwy ddamwain waethaf yn hanes Cymru yw trychineb awyr Llandŵ, a laddodd 80 o bobl ym Mro Morgannwg ym 1950, a damwain awyr Cwm Edno, a laddodd 23 o deithwyr yn Eryri ym 1952.

Awyrenneg golygu

Astudiodd y ddau Gymro Robert Jones (1894–1962) a Daniel Williams (1894–1963) ym Mangor dan yr Athro G. H. Bryan, un o sylfaenwyr gwyddor awyrenneg. Gweithiodd Jones a Williams yn adran aerodynameg y Labordy Ffisegol Cenedlaethol (NPL). Ymhlith peirianwyr awyrennol eraill o Gymru mae William Pritchard Jones, Lewis Boddington, a Syr Morien Morgan.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Davies, John et al. (gol.) Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 434–5 [HEDFAN AC AWYRENNEG].
  2. (Saesneg) Phil Carradice (20 Hydref 2011). Bill Frost - the first man to fly?. BBC. Adalwyd ar 26 Awst 2015.
  3. 3.0 3.1 Cymru yn yr awyr, BBC (30 Mehefin 2017). Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2017.