Éilís Ní Fhearghail: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 9:
Bu Éilís Ní Fhearghail yn gweithredu fel negesydd cyn ac yn ystod Gwrthryfel y Pasg, yn danfon bwletinau a chyfarwyddiadau i ganolfannau'r gwrthryfelwyr o gwmpas Dulyn. Roedd hin un o'r tair menyw a arhosodd yn Swyddfa Bost Gyffredinol Dulyn hyd ddiwedd y gwrthryfel; y ddwy arall oedd [[Winifred Carney]] a [[Julia Grenan]]. Gyda'i chyfaill a'i chyd-nyrs, Julia Grenan, bu hi'n gofalu am y rhai a chlwyfwyd yn y gwarchae ar y GPO, gan gynnwys [[James Connolly]].
 
Am 12.45 pm ar ddydd Sadwrn 29 Ebrill rhoddwyd arwyddlun y [[Mudiad Rhyngwladol y Groes Goch a'r Cilgant Coch|Groes Goch]] a baner wen i Ní Fhearghail a gofynnwyd iddi gyflwyno dogfen ildio i'r [[Y Fyddin Brydeinig|fyddin Brydeinig]]. Aeth a'r ddogfen ildio i'r Brigadydd Cyffredinol [[William Lowe (Uwchfrigadydd)|William Lowe]], gwrthododd ef y telerau ildio gan anfon Éilís yn ôl at [[Pádraig Pearse]] yn rhif 16 Stryd Moore gan fynnu bod rhaid i'r gweriniaethwyr ildio yn gwbl ddiamod. Cytunodd Pearse ac, yng nghwmni Ní Fhearghail aeth at y Brigadydd gan ildio'n bersonol i Lowe. Mewn lluniau a ymddangosodd yn y wasg ar y pryd mae Ní Fhearghail i'w gweld wedi ei chuddio'n rhannol gan Pearse, ar adeg yr ildio ond yn yr unig ddelwedd sydd wedi goroesi o'r ildiad mae presenoldeb Éilís wedi ei ddileu er siom i'r sawl sydd am ddathlu cyfraniad merched mewn digwyddiadau o bwysigrwydd hanesyddol <ref> The woman airbrushed from history [http://centenaries.ucd.ie/wp-content/uploads/2016/02/Supplement-8-ofarrell.pdf ] adalwyd 11 mawrth 2016</ref>.
 
Yng nghwmni offeiriad a thri milwr aeth Éilís i ddosbarthu'r gorchymyn i ildio i safleoedd y gweriniaethwyr ar draws Dulyn.