Constance Markievicz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9:
[[File:countessmarkieviczandchildren.jpg|thumb|chwith|Iarlles Markievicz, ei merch a'i llysfab]]
Addysgwyd Constance yn Ysgol Gelf Slade, Llundain<ref name="cawip">{{cite web|url=http://www.qub.ac.uk/cawp/Irish%20bios/TDs_2.htm#markievicz|title=Countess Markievicz (Constance Markievicz)|work=Centre for Advancement of Women in Politics|accessdate=19 Mawrth 2016}}</ref> ac Académie Julian, [[Paris]]. Tra'n fyfyrwraig yn Llundain ymunodd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Pleidlais i Fenywod (NUWSS). Ym Mharis cyfarfu â'i darpar ŵr, Iarll Casimir Markievicz. (Pwyleg: Kazimierz Dunin-Markiewicz), artist o deulu Pwylaidd cefnog. Roedd yr Iarll yn briod ar y pryd ond bu farw ei wraig y 1899, priododd Constance yn Llundain 29 Medi 1900<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4427230|title=WOMAN MPs ARREST - The Cambria Daily Leader|date=1919-06-14|accessdate=2016-03-19|publisher=Frederick Wicks}}</ref>. Roedd gan yr Iarll mab o'i briodas gyntaf a bu un ferch o'r ail briodas.
 
==Bywyd artistig a llenyddol==
 
Wedi symud i Ddulyn i fyw ym 1903 bu'r teulu Markievicz yn troi mewn cylchoedd artistig a llenyddol, gyda Constance yn ennill enw da iddi ei hun fel peintiwr tirlun. Gyda'r artistiaid Sarah Purser, Nathaniel Hone, Walter Osborne a John Butler Yeats bu' Iarlles yn allweddol wrth sefydlu'r United Arts Club ym 1905, roedd y clwb yn ymgais i ddod â phawb yn Nulyn a oedd yn ymwneud a'r byd artistig a llenyddol ynghyd. Bu'r clwb yn cynnwys ffigurau blaenllaw o'r Cynghrair Gaeleg a sefydlwyd gan Douglas Hyde. Er ei fod yn grŵp anwleidyddol, mewn enw, yn ymwneud â chadwraeth yr iaith a'r diwylliant Gwyddeleg, ymunodd nifer o wladgarwyr ac arweinwyr gwleidyddol a'r Gynghrair.
 
Ym 1882 comisiynwyd yr arlunydd Sarah Purser i beintio portread o Constance a'i chwaer Eva, a daeth yn gyfaill i'r chwiorydd. Bu Sarah yn cynnal salon rheolaidd lle bu artistiaid, awduron a deallusion o ddwy ochr y rhaniad cenedlaetholgar yn ymgasglu. Yn nhŷ Purser, cafodd Markievicz ei chyflwyno i'r gwladgarwyr chwyldroadol Michael Davitt, John O'Leary a Maud Gonne. Ym 1906 bu i'r Markievicz rhentu bwthyn yng nghefn gwlad ger Dulyn. Y tenant blaenorol oedd y bardd Padraic Colum ac roedd wedi gadael copïau o'r cyfnodolion chwyldroadol The Peasant a Sinn Féin ar ôl. Darllenodd Markievicz y cylchgronau gan gael ei hysbrydoli gan eu neges o ryddid rhag rheolaeth Prydain a gan gael ei chymell i ymuno a'r achos.